Chwilio

Dewiswch un o'r Categoriau isod
cliciwch ar teitl yr erthygl i ddarllen mwy 

 

View all
Digwyddiadau Hanesyddol
Enwogion
Rhestr Atgofion
  • Atgofion am y Telynor Dall

    Erthygl yn Llais Ardudwy - Ebrill 1979 PORTREAD - sgwrs a recordiwyd ar dâp, mis Tachwedd 1978 - atgofion personol am Dafydd Roberts -Telynor Dall Mawddwy gan Mr Dafydd Gwilym Williams, Tanymarian, Soar, Talsarnau.  

  • Atgofion Maggie Gwyneth Jones

    ATGOFION Maggie Gwyneth Jones – a gafwyd gan ei mab, Emrys Jones. HANES Y PARCH TECWYN EVANS A DIWYGIAD 1904-05     Wedi meddwl ers tro ysgrifennu dipyn o hanes Diwygiad 1904-05.  Nid oeddwn ond 6 oed yn y flwyddyn honno, ond mae wedi aros yn fy ngho hyd heddiw ac rwyf wedi bod yn deisyfu iddo ddwad ar yn ôl lawer gwaith, ond mae’n ofnus na welaf – er bod llawer o bethau da wedi dwad, sef ysbytai, ysgolion a cholegau rhad, a gwasanaeth iechyd yn rhad ac am ddim, a phensiynau i hen bobl, a chartrefi clyd iddynt.  Rwy’n teimlo bod raid i rhywbeth arall ddod i’n diwygio fel pobl, gan ein bod yn teimlo bod rhywbeth ar…

  • Atgofion Nel Griffiths am Llenyrch

    Mynd i Lenyrch yn 15 oed, wedi gweini cyn hynny bedair blynedd, ar ôl marw fy mam, cyn cyrraedd unarddeg oed. Llenyrch yn gartref bendigedig.

  • Canfod Corff Hydref 4ydd 1862

    Canfod CorffCanfod Corff Jane Parry Yn Dilyn Damwain Fferi North Wales Chronicle, (Oct 4th 1862) Cyfieithiad o'r hyn ymddangosodd yn y papur. PORTMADOC. CORFF WEDI EI GANFOD. – Bydd ein darllenwyr yn cofio’r trychineb enbyd ddigwyddodd rai wythnosau’n ôl i Fferi Porthmadog, pan ysgubwyd wyth person i ddifancoll heb na meddwl na pharatoad. Cafwyd hyd i’r cyrff i gyd namyn un, sef un Jane Parry, hetwraig, oedd yn byw yn Nhygwyn, ar ochr Meirionnydd o’r afon. Roedd achos y ferch hon yn drist a phruddglwyfus i’r eithaf. Hi oedd prif gymorth ei mam oedd yn weddw, ac roedd hi’n uchel iawn ei pharch gan bawb ac edrychid arni fel merch ifanc ddoeth a da. Roedd hi ar fin bod yn…

  • Capten Lewis Holland Thomas

    Ychydig a wyddom am blentyndod cynnar Lewis Holland Thomas, ond gwyddom ei fod wedi’i eni yn Llanrwst yn 1812. Roedd ei deulu’n gysylltiedig â theulu’r Wyniaid ac arferai Lewis fynd ar wyliau i aros yng Nghastell Gwydir yn Nyffryn Conwy.

  • Cefndir a Hanes Diwygiad 1904 - 05 Capel Soar Talsarnau

    Copi o erthygl yn y Gwyliedydd Hydref 2004 SOAR  TALSARNAU  1804/1904 a PHETH O HANES DIWYGIAD 1904 - 05 Cynhaliwyd yr Oedfa Wesleaidd gyntaf yn ardal Talsarnau ar 4 Tachwedd 1804.  

  • Cychod Cludo Llechi ar y Ddwyryd

        Mae’n debyg na welwyd gymaint o fynd a dod i lawr i’r glastraeth rhwng Talsarnau ac Ynys Gifftan ers yr amser hwnnw pan gafwyd hyd i forfil  fethodd ddychwelyd i’r môr gyda’r llanw beth amser yn ôl.

  • Dau'n Boddi ar y Traeth Bach.

    'Baner ac Amserau Cymru', Dydd Mercher, Rhagfyr 17eg, 1856.   TALSARNAU, - Cynhaliwyd trengholiad ddydd Gwener diwethaf o flaen Mr Griffith Jones Williams, trengholydd, ar ddau gorff, sef William Owens ac Edmund Jones, pa rai oedd yng ngwasanaeth L. H. Thomas Ysw., Cae'r ffynnon, y rhai a gafwyd wedi boddi wrth groesi y Traeth Bach.

  • Dechrau Ysgol Talsarnau 1954 - Atgofion Olwen Pensarn

    Dechrau Ysgol Talsarnau 1954   Magwyd fi am y 5 mlynedd cyntaf o’m mywyd ym Mhensarn, Glanywern, Talsarnau gyda’m rhieni John Richard a Sallie Jones. Fy Nhad wedi’i eni a’i fagu yno fel y gweddill o’i 10 o frodyr a chwiorydd, fel ei Mam a’i Nain o’u blaenau . Yno hefyd ‘roedd fy Nhaid,John Jones.yn enedigol o Benrallt Neigwl Pen Llŷn. Un,fel llawer o’i gyfoedion,ymsefydlodd yn yr ardal wrth ddod i weithio i Iarll Harlech ar Ystâd Glyn Cywarch,Glanywern yn fachgen ifanc gyda’r ceffylau. ’Roedd fy Nain wedi marw chwe wythnos wedi genedigaeth ei 11eg plentyn, sef Jennie M Roberts,Garej Morfa,Harlech ym 1922. Magwyd y gweddill gan y chwaer hynaf sef Anti Nans a oedd yn byw ym Mhensarn yn…

  • Diwydiant Tywyrch Traeth Talsarnau

    I’r sawl sydd yn adnabod ardal Talsarnau, mae’r rhan fwyaf o’r pentref wedi ei leoli ar waelod bryn serth. Mae’r brif stryd a llawer o adeiladau eraill gan gynnwys yr ysgol, y neuadd ac ati ychydig iawn yn uwch na lefel y môr ac er mwyn gwarchod yr ardal codwyd clawdd llanw fel amddiffynfa yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

  • Dr David Tecwyn Evans - Pregethwr, Darlithydd, Ieithydd

    Ganed David Tecwyn Evans mewn bwthyn o'r enw Aberdeunant Uchaf ym mhlwyf Llandecwyn yn Ardudwy ar y 5ed o Ragfyr 1876.

  • E Morgan Humphreys

    E. MORGAN HUMPHREYS - Y Lle Bum yn Gware Gynt - Rhai o atgofion yr awdur am ei blentyndod yn Nhalsarnau Ganed fi yn y Faeldref, yn Nyffryn Ardudwy, ac yno y treuliais y rhan fwyaf o ddeunaw mlynedd cyntaf fy mywyd.

  • Edmwnd Evans

    Ymddangosodd yr erthygl yma yn y cylchgrawn ‘Hanes yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru Haf 2018, Rhif 9 – Bathafarn Bach’, a chafwyd caniatad yr awdur Angharad Thomas, i gynnwys ar Wefan Talsarnau lle mae llawer o hanes capeli ac eglwysi yr ardal wedi’u cofnodi.

  • Eglwys Llandecwyn

    EGLWYS LLANDECWYN EGLWYS LLANDECWYN          (Ionawr 1983)    "Hen eglwys wen, gwelais hi,   A dwrn oes galed arni."      (J.E.)   Balch oeddwn o ddarllen yn rhifyn diwethaf o'r Llais fod symudiad ar droed gan y Cyngor Eglwysig i agor Cronfa i adgyweirio Eglwys Llandecwyn sy'n araf adfeilio.

  • Ellis Wynne Lasynys Fawr - Y Bardd Cwsg

    Y Lasynys, cartref Ellis Wynne. Mae'r adeilad yn dyddio o tua 1600 ond cafodd ei adnewyddu'n sylweddol gan y llenor yn y cyfnod 1715-20.

  • Evan Francis Dyrnogia Bach

    Evan Francis 1772 – 1857 Ganwyd Evan Francis yn 1772 yn Dyrnioga Bach, Talsarnau ym mhlwyf Llanfihangel y Traethau. Mae ei dad a’i fam wedi eu claddu ym mynwent Rehoboth, Harlech, ac ar y garreg fedd ceir y geiriau a ganlyn:“Francis Evans o Mochras, a fu farw Medi 23 1827. Hefyd Lowri Evans ei briod, a fu farw 12 Medi 1833”

  • Frances Griffith yn Cofio

      Mae yma ychydig o atgofion cynnar Frances Griffith, Bryn Môr, Soar, Talsarnau. Cyflwynodd rhai ohonynt mewn cyfarfod o ‘Frethyn Cartref’ gan Ferched y Wawr yn Neuadd Talsarnau mis Ionawr 2022. Mae hefyd wedi ychwanegu rhagor o atgofion.

  • Gwyneth Vaughan - Nofelydd, Bardd ac Ymgyrchydd

    ANNIE HARRIET HUGHES : GWYNETH VAUGHAN (1852-1910) Nofelydd a bardd Cymreig oedd Annie Harriet Hughes, sy’n fwy adnabyddus wrth ei henw barddol – Gwyneth Vaughan.

  • Hel Atgofion am Garej Talsarnau

    ATGOFION y diweddar R Tecwyn Jones, 8 St James Drive, Bangor  LLAIS 1981 Wrth ddod i mewn i bentref Talsarnau o gyfeiriad Maentwrog, y garej ar yr ochr dde sydd yn mynd a sylw rhywun gyntaf un. 

  • Hen Deulu Iwan Morgan

    Hen Deulu Iwan Morgan RHAI FFEITHIAU DIDDOROL AM DEULUOEDD CEFN TREFOR FAWR, TALSARNAU (a adnabyddwyd yn ddiweddarach fel Y TŶ MAWR) A’R FUCHES WEN FAWR (yn ystod y 18fed ganrif) 

  • Hen Furddunod

     Hen Furddunod yr Ardal Cystadleuaeth yng Nghyfarfod Capel Brontecwyn Chwefror 5ed 1925  Hen Furddunod Llandecwyn a'r teuluoedd fu'n byw ynddynt olaf (gan y ddiweddar Esther Jones, Caerwych) (tynnwyd y lluniau yn ystod y 2000au)  

  • J H Jones Golygydd Y Brython

    Ganwyd yn Nhy ar y Graig yn Nhalsarnau ar Fai 29ain 1860 i William a Beti Jones. Garddwr oedd ei dad i Mr Barker, Glyn Cywarch.

  • John Ieuan Jones - Bardd

    Ganwyd ym 1924. Cafodd ei addysg gynradd yn Ysgol Talsarnau ac wedyn yn Ysgol Ramadeg Y Bermo. Gadael Ysgol Bermo pan yn 14 oed oherwydd iddo golli cymaint o ysgol yn dilyn llawdriniaeth llid y berfeddlen (peritonitis). Cafodd le fel gwas yng Nghefn Trefor Isaf gyda William Evans. Yn ddiweddarach cafodd ei gyflogi gan Edward Lewis Griffiths, Tyín y Bwlch - sef tad y diweddar Iorwerth Griffiths. Oddi yno symudodd i weithio gyda Bob Roberts Merthyr, sef tad y Cynghorydd Caerwyn Roberts, ac yna yn ei dro aeth at John Hughes, Penbryn Pwll Du.Ym 1944, priodi gyda Tywyna Humphreys, Yr Onnen a chael ei gyflogi gan Idwal Jones Penybryn gan wneud eu cartref cyntaf yn y 'Lodge' Caerffynnon. Ganwyd eu…

  • John Kelt Edwards - Arlunydd

    Ganed John Kelt Edwards ar 4.3.1875 yn un o 6 o blant i Jonathan a Margaret Edwards a gadwai siop Ironmongers o’r enw Berlin House ym Mlaenau Ffestiniog.

  • Llanw Mawr 1927 Atgofion

      Mae yna ambell i ddigwyddiad sy'n llusgo'n hir yng nghof ardal. Digwyddiad felly i bobl Talsarnau, ger Harlech, yw storm Hydref, 1927, pan fylchwyd y morglawdd.

  • Llanw Mawr 1927 Atgofion Tecwyn Jones

    Dyma gopi o lythyr a dderbyniwyd oddi wrth Mr Tecwyn Jones, 8 Heol Dewi, Bangor Ucha, Bangor, yn hel atgofion am y Llanw Mawr ac yntau yn fachgen 9 oed ar y pryd. Gyda diolch cynnes iawn iddo am gysylltu.

  • Llongddrylliad - Y Turkistan

    Llong Hwyliau-Sgwar tebyg i hon fyddai'r "Turkestan" mae'n debyg. Cyfieithiad yw hwn o adroddiad gan Fanny ac Ethel Holland Thomas – merched Capten Lewis Holland Thomas o Gaerffynnon, Talsarnau – allan o’r llyfr “The Caerffynnon Story” a ysgrifenwyd gan Heulwen Isambard Owen a Hedydd Isambard Owen a gyhoeddwyd ym 1973.

  • Mynd i'r Ysgol am y Tro Cyntaf

    MYND I’R YSGOL AM Y TRO CYNTAF (Atgofion Frances Griffith, Bryn Môr, Soar, Talsarnau)     Yn Soar roeddwn yn byw pan ddaeth yr amser i fynd i’r Ysgol.  Doeddwn i ddim tamaid o awydd mynd yno gan fy mod gymaint o ofn.  Byddai’r plant hŷn yn dod a dweud eu bod yn cael eu curo, felly roedd yn llawer gwell bod adref yn saff, ond bu rhaid mynd rhag torri’r gyfraith neu fe fyddai fy rhieni’n cael eu cosbi.  Rhaid mentro a bod yn ddewr. Miss Lewis, yn ddiweddarach Mrs Steward, oedd yn dysgu y plant lleiaf.  Ddysgais i fawr iawn yno, dysgu ‘tables’ fyddai’r peth cyntaf heb eglurhad pam.  Byddai Miss yn eistedd wrth danllwyth o dân a…

  • Pentref Soar yn ystod Yr Ail Ryfel Byd

        Pentre bach Cymreig oedd Soar, yn cysgodi o dan Allt Cefntrefor a Chlogwyn Gwyn. Yn ystod y rhyfel, ac am lawer blwyddyn wedyn, gyda’r Capel (Wesla) yn ganolbwynt, pedwar ar ddeg o dai a deg yn perthyn i’r Capel, un car, ambell feic modur a llawer beic bach oedd yno.  Cerdded fyddai rhan fwyaf o’r bobl, pawb yn gymdogol ac yn edrych ar ôl ei gilydd. Mae’n siwr fod anghytuno ambell waith, ond dim ond yn cofio’r amser gorau.   Bûm yn byw yno tan fy mod tua 11 oed a symud i Pengelli, chwarter milltir i ffwrdd ar ôl y rhyfel.  Bu hiraeth mawr ar ôl Soar, a cherddwn yn aml i ben Rhiw Garth i edrych…

  • Rhai o Drigolion Talsarnau yn Ystod yr Ail Ryfel Byd

    RHAI O DRIGOLION TALSARNAU YN YSTOD Y RHYFEL                                        Cychwyn o waelod Rhiw Mawr a Phenygongl, troi i’r dde i Bryn Street – ‘Stryd Gefn’ fel y byddai’n cael ei hadnabod yn lleol – Miss Christopher oedd yn byw yn y tŷ cyntaf; daeth hi o Lerpwl.  (Hwn oedd hen gartref J H Jones, Golygydd y Brython);  drws nesaf roedd Joe Owen a’i wraig, eu dau blentyn, Peggy a John Phillip.  Morwr oedd Joe ac yn wreiddiol o Sir Fôn, ei wraig o ochr Lerpwl; bu eu merch farw yn ifanc iawn.  Yn y trydydd tŷ roedd Mrs Mayberry a’i thair merch,…

  • Richard Arthur Warren Hughes - Nofelydd

    Ei enw yn llawn oedd Richard Arthur Warren Hughes OBE (19/4/1900 – 28/4/1976). Ganwyd ef yn Weybridge, Surrey yn fab i Arthur Hughes, gwas sifil, a'i fam oedd Louisa Grace Warren oedd wedi ei magu yn Jamica.

  • Ted Breeze Jones - Naturiaethwr

    Ganwyd Ted Breeze Jones yn 1929 yn ardal Cae Clyd, Manod, Blaenau Ffestiniog. Mynychodd ysgolion y Manod a Maenofferen cyn symud i Ysgol Ramadeg Ffestiniog ym 1940.

  • Trychineb y Fferi

    Dydd Iau y 7fed o Awst 1862 roedd un o gychod fferi Rees Jones yn dychwelyd o Borthmadog i Harlech gyda naw o deithwyr a dwy hanner casgen o borter. Roedd y gwynt wedi codi'n eithaf garw o gyfeiriad y de-orllewin ond ni thybiai neb er hynny bod unrhyw berygl.

  • Yr Olygfa o Eglwys Llandecwyn

    Ymddangosodd y gerdd yma o eiddo Esther Jones, (nee Williams), Caerwych, Llandecwyn yn Y Gwyliedydd Chwefror 1992. Cerdd arobryn Brontecwyn 1923.