Chwilio

ATGOFION y diweddar R Tecwyn Jones, 8 St James Drive, Bangor  LLAIS 1981

Wrth ddod i mewn i bentref Talsarnau o gyfeiriad Maentwrog, y garej ar yr ochr dde sydd yn mynd a sylw rhywun gyntaf un. 

Mae'n dda gwybod mai teulu o'r pentref yn wreiddiol sydd yn berchnogion, ond mae cychwyn i bopeth, ac mae'r cychwyniad y busnes o ddiddordeb mawr inni fel teulu, gan mai fy nhad, y diweddar D R Jones (Dafydd R) gychwynnodd y busnes tua 1912.  Yn siop Pen-gongl gynt y cychwynnodd ei fusnes, ac yn ol tebyg mi 'roedd y busnes yn mynd yn dda, ddigon da iddo adeiladu garej newydd.  Edward Hughes, Barcdy, gynt, oedd yr adeiladwr.  Gwerthid beics, paraffin, ac yn rhyfedd iawn nwyddau, fel tatws, a llysiau.  Mi 'roedd yna ddigon o fusnes i gyflogi bachgen i 'gario allan' ar gefn beic wrth gwrs!  Mae'r aelod cyntaf hwnnw o'r 'staff' yn byw yn Soar, sef David Gwilym Williams, a difyr oedd cael sgwrs hefo fo am y dyddiau cynnar hynny.  'Roedd yna ddefnydd mawr yn cael ei wneud o Baraffin wrth gwrs, fe welwch sawl un yn y llun, ac mi 'roedd raid ei gario i lawr o'r storfa, a'r storfa honno yn Ty-Bach, (Stryd Gefn).  Cario negeseuau allan oedd y swydd arall, basged y tu ol a basged y tu blaen i'r beic, ond buan iawn gorfodwyd i D R  feddwl am gynllun  i gario mwy na'r ddwy fasged, ac fe osodwyd dwy olwyn beic ar dryc pren y tu ol i'r beic.

Mae'n amlwg fod y garej wedi bod yn fan cyfarfod i sawl un yn y pentref, ond rhoi gorau i'r busnes wnaeth fy nhad.  Pam? dwn i ddim, efallai fod y Rhyfel Mawr wedi cael effaith, neu bod ceir neu fotorbeic wedi dechrau dod yn boblogaidd.  Y diweddar R. R. Jones, Tremeifion, gymrodd yr adeilad trosodd i gadw gwlan, ac yn ddiweddarach i gadw ei gar cyn iddo adeiladu garej wrth y ty.

Fel y gwelwch yn y llun 'roedd yr adeilad gwreiddiol, ac yn wir lle cychwynnodd y diweddar R.J. Williams ei fusnes yn llawer agosach at y Ship Aground na'r adeilad mawr sydd yn sefyll heddiw.  Faint o'r dynion yn y llun fedrwch chi eu hadnabod tybed?  Mae enw pob un gennyf ond y portar ifanc, efallai fod rhywun yn ei gofio, mi fyddwn yn falch o glywed ei enw yntau.