Chwilio

Atgofion am y Telynor Dall

PORTREAD - sgwrs a recordiwyd ar dâp, mis Tachwedd 1978 - atgofion personol am Dafydd Roberts -Telynor Dall Mawddwy gan Mr Dafydd Gwilym Williams, Tanymarian, Soar, Talsarnau.  

Bu i Dafydd Roberts (1879 - 1958) dreulio cyfnod ym Mhlas Llanofer - lle meistrolodd y grefft o ganu'r delyn deires. Ym 1911 cyhoeddodd lawlyfr cerdd dant o'r enw "Y Tant Aur" oedd yn adlewyrchu gosodiadau syml y cyfnod. Mae'n amlwg fod y llyfr wedi gwerthu miloedd gan y bu raid ail-argarffu. Roedd yr ail argraffiad hwn mewn gwirionedd yn fersiwn wahanol iawn, a’r peth mwyaf amlwg yw’r ymdrech a wnaed i greu cyfalawon mwy cerddorol. Roedd y newidiadau a wnaed rhwng argraffiad cyntaf ac ail argraffiad Y Tant Aur yn drobwynt allweddol yn hanes cerdd dant.

Y Sgwrs

DGW -  Y cof cyntaf sy gen i amdano yn dod i Dalsarnau flynyddoedd yn ôl.  Ron i'n ifanc iawn, a dau ddyn, os rwy'n cofio'n iawn - Wmffra Williams a nhad, yn mynd i'w gwfwr o ac yn cario'i delyn o i fyny i Dalsarnau ac ro'na gonsart yn yr ysgol.  Rwy'n cofio'n consart ac roedd 'na hwyl fawr yn y consart, a chanu o bob math ynte, a phawb wedi ei blesio yno.

Holwr - Codi pres roeddech chi yr adeg honno?

DGW  -  Ie, at Gapel Soar, ie.

Holwr - Dydach chi ddim yn cofio pa flwyddyn?

DGW  -  Roedd o rhywle tua fuaswn i'n deud 1910 'na, cyn hynny hwyrach.  1910 digon agos 'swn i'n deud ....mi es i weini wedyn....Ron i'n gweini yn Bermo yn 1916 a 1917 ac mi es i gyswllt agos iawn ag o - on i'n ca'l parsal - dillad glân o Dalsarnau oddi wrth mam ac roedd 'na hogan yn dod i Ysgol Bermo - Lili 'ron i'n ei galw hi - Lilian Go' oedd ei henw ac mi fyddai Lilian yn dod â'r parsel imi ac yn ei roi o yn siop Dafydd Roberts ac mi fyddwn inna'n mynd yno i'w nôl o ac mi fyddai Lilian yn mynd a dod fel 'na pan fues i'n Bermo - yn dod i'r ysgol 'nte.  Wedyn roedd 'na hogan o Dalsarnau, chwaer Wili Ifans, Cefntrefor Isaf, roedd hi fel helpar i Dafydd Roberts yn y siop ac i edrych am Magi fyddwn i'n mynd a chroeso bob amser.  Roedd Dafydd Roberts wedi dod i'm nabod i a'm llais i o bell.  Dim ond dod i mewn i'r siop ac mi fyddai'n gweidddi ar ei union, "Helo Deifi.  Sut ydach chi?" a holi am Dalsarna' a'r gweinidog bob amser - yn siwr o fynd ar ôl y gweinidog.

Holwr  -  Roedd ganddo fo feddwl y byd o'r capel.  Mae gennych chi stori amdanoch ym Mae Colwyn yn does....

DGW  -  Mi fyddwn i'n mynd i Gapel Wesla y Bermo ac i gyfarfod taleithiol bob amser ac felly y does i gyffyrddiad mawr hefo fo.  Roedd ymhob cyfarfod taleithiol am wn i ac roeddwn wedi mynd i gyfarfod taleithiol Colwyn Bay - yn aros hefo fy chwaer yn Hen Golwyn ac yn mynd i'r cyfarfod ar fore ddydd Llun.  Pan es i'r bws, pwy oedd yn ista yn y bys ond Dafydd Roberts, a dyma fi draw ac ista wrth ei ochor o. "Helo Mistar Roberts" "Helo Deifi - chi sy yna" "Wel, ia" medda finna "Ydach chi'n mynd i'r cyfarfod taleithiol?" "Ydw" "Ga i ddod hefo chi?" "Wel â chroeso" meddwn inna. "Trwy'r dydd" medda fo" "Ia tan nos os liciwch chi" meddwn inna...

Ac felly y buodd hi....Roedd ganddo fab (Dafydd Eilio) yn yr ysgol hyd y cofiaf i, Pendorlan yr amser honno, yn athro ac roedd o ishio mynd at yr ysgol.  Doedd o ddim ishio mynd i mewn na dangos ei hun am wn i, i neb yno.  Me es i a fo i'r iard a deud wrtho, darlunio'r ysgol... "Dyna fo,'na fo Deifi.  Diolch yn fawr i chi"  Mi fues i hefo fo drwy'r dydd am ginio a the a phob dim.  Roedd o'n nabod pawb yno.  Un camgymeriad wnaeth o hyd y gwn i  ...mi ddaru o gymgymeryd hefo dau frawd.  Deud Enoc wrth un a Daniel yn lle Enoc wrth y llall. (Enoc yw'r Parch Enoc Davies, Bryn Awel, Talsarnau)

Holwr -  Roedd cerddoriaeth ar flaena'i fysedd o.

DGW  -  Cerddoriaeth oedd ei fyd o.  Dod yn ôl o Golwyn Bay a danfon Dafydd Roberts at y bys ac yn ysgwyd llaw ac roedd o'n falch iawn ac yn ddiolchgar imi am fod hefo fo drwy'r dydd. "Wel da boch chi rwan Deifi bach a diolch yn fawr i chwi.  Dwi wedi gweld mwy o Colwyn Bay heddiw na welais i rioed."

Holwr  -  Mi gawsoch chi brofiadau hyfryd yn ei gwmni pan ddeuai i Gapel Soar oni do?  Roeddech chi yn flaenor ifanc iawn yr amser hynny.

DGW  -  Yn ddiweddar yn ei fywyd roedd o'n dod yn aml iawn i Soar i bregethu ac fel rheol yn aros hefo Katie a Dafydd Elwyn yn Gwndwn.  Roedd o wrth ei fodd.  Roedden nhw yn gerddorol iawn ac offeryn ganddyn nhw ac yntau wrth ei fodd yn eu plith nhw.  Mi ron i'n mynd i Soar dydd Sul ac roedd o wedi ffeindio fy mod i'n ista heb fod ymhell oddi wrth y pulpud.  Amebll dro fyddai o ddim yn cofio'n iawn.  Mi fyddai'n deud yr emynau i gyd ac yn darllen rhan o'r ysgrythur (ar gof mae'n amlwg).  Y Sul yma doedd o ddim yn cofio'n dda iawn, a dyma fo'n gweidddi arna'i "Deifi, wnewch chi ddarllen y bennod a'r bennod imi os gwelwch yn dda", a droeon eraill yr emyn doedd o ddim yn cofio.  Ond mi roeddwn i'n meddwl weithiau mai fy nhrio i y byddai o hefo hynny!  Ron i'n styrbio tipyn ar cynta' pan roedd o'n deud wrtha'i, ond edrych 'mlaen am iddo ddod bob amser.  Wrth ei fodd yn pregethu'r Grist wedi dod i'w fywyd o ac wedi dangos iddo lawer o bethau na welwn ni sy'n gweld heddiw a'n llyg'id naturiol.