Chwilio

Y Lasynys, cartref Ellis Wynne. Mae'r adeilad yn dyddio o tua 1600 ond cafodd ei adnewyddu'n sylweddol gan y llenor yn y cyfnod 1715-20.


Llenor crefyddol a chyfieithydd oedd Ellis Wynne (7 Mawrth 1671 - 13 Gorffennaf 1734). Mae'n adnabyddus fel awdur Gweledigaethau y Bardd Cwsc, a ystyrir yn un o glasuron rhyddiaith Gymraeg.

Ganed Ellis Wynne yn y Lasynys (neu'r Lasynys Fawr), ffermdy sylweddol rhwng Talsarnau a Harlech, yn yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd), yn fab i Edward Wynne o blasdy Glyn Cywarch (heb fod ymhell o'r Lasynys). Roedd yn deulu o fan uchelwyr gyda chysylltiad â theulu Brogyntyn, ger Croesoswallt. Trwy ei daid Elis Wyn roedd Ellis Wynne yn perthyn i John Jones, Maesygarnedd, un o'r rhai a lofnododd warant dienyddio'r brenin Siarl I o Loegr.

Yn wahanol i John Jones o Faesygarnedd, yr oedd Ellis Wynne yn frenhinwr pybyr. Mae manylion ei yrfa yn ansicr, ond ymddengys iddo dreulio cyfnod yn Ysgol Ramadeg Amwythig. Mae cerdd Ladin gan Wynne yn awgrymu cysylltiad ag Ysgol Ramadeg Biwmares yn ogystal. Aeth i Rydychen lle graddiodd ar y 1af o Fawrth 1692, yn 21 oed. Mae'n bosibl ei fod wedi cwrdd â'r athrylith amlddawn Edward Lhuyd tra oedd yno. Ym Medi 1698 priododd â'i wraig gyntaf, Lowri Wynne o Foel-y-glo, Meirionnydd.

Cafodd ei ordeinio'n offeiriad a diacon yn eglwys gadeiriol Bangor yn Rhagfyr 1704. Daeth yn rheithor plwyfi Llanbedr a Llandanwg yn 1705 ac wedyn cafodd ofalaeth Llanfair, ger Harlech, yn 1710. Yn 1711 priododd â'i ail wraig, Lowri Lloyd o Hafod Lwyfog (ger Aberglaslyn) a symudodd i'r Lasynys eto lle bu fyw am weddill ei oes. Bu farw y 13 Gorffenanf 1734 a'i claddu yn eglwys Llanfair.

Cyfieithodd Ellis Wynne Rheol Buchedd Sanctaidd (o waith Saesneg Jeremy Taylor) yn 1701 ac argraffiad o'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn 1710.

Fodd bynnag, ei brif waith llenyddol yw'r testun rhyddiaith Gweledigaethau y Bardd Cwsc (Gweledigaethau'r Bardd Cwsg) (1703), sy'n seiledig yn fras ar gyfieithiadau Saesneg Roger L'Estrange a John Stevens o'r llyfr Los Sueños ('Y Breuddwydion') gan y Sbaenwr Don Francisco de Quevedo (1580-1645). Mae'r bardd yn gweld tair gweledigaeth fel mae'n mordwyo drwy'r byd (Gweledigaeth cwrs y Byd), drwy angau (Gweledigaeth Angeu yn ei Frenhinllys isa) a thrwy uffern (Gweledigaeth Uffern). Fe'i hebryngir gan angel ar y ddaear ac mewn uffern a chan Meistr Cwsc ym Mrenhinllys isa Angau. Mae'r gwaith yn darlunio taith pechadur o'r byd hwn drwy angau at uffern. Llyfr bwrlesg a ysgrifennwyd mewn Cymraeg naturiol a choeth sy'n mynegi safbwynt brenhinwr ac eglwyswr ar gyflwr y wlad yn ei oes yw'r Gweledigaethau. Mae'n dangos meistrolaeth yr awdur ar Gymraeg clasurol yn ogystal â Chymraeg llafar y cyfnod ar ei mwyaf rhywiog. Gweledigaeth o Lys Angau a geir yno, ac mae'n bosibl fod Wynne wedi bwriadu ail gyfrol ar Lys Paradwys yn olyniant iddo. Yn ogystal â disgrifiadau llawn dychymyg o Uffern a dychan deifiol, ceir fel gwrthgyferbyniad trawiadol ddarnau o ryddiaith swynol iawn, yn arbennig yr agoriad enwog sy'n disgrifio'r wlad o gwmpas Harlech trwy sbienddrych yr awdur.

Roedd Ellis yn gasglwr a chopïydd llawysgrifau Cymreig yn ogystal. Un o'r llawysgrifau a gafodd oedd un yn cynnwys nifer o gerddi darogan, gan gynnwys rhai a dadogwyd ar "Y Bardd Cwsg" (Rhys Fardd).

Nid ysgrifennodd lawer o farddoniaeth ond mae un o'i gerddi, 'Gadel Tir', a geir ar ddiwedd ail ran Gweledigaethau'r Bardd Cwsg yn glasur bach sydd wedi ennill ei lle mewn sawl blodeugerdd Gymraeg. Ysgrifennodd y beirdd Siôn Rhydderch a Robert Humphrey gywyddau iddo. Cyfansoddodd sawl emyn yn ogystal. Yr enwocaf yw'r un sy'n cychwyn gyda'r llinell 'Myfi yw'r Adgyfodiad Mawr.'