Chwilio

E. MORGAN HUMPHREYS - Y Lle Bum yn Gware Gynt - Rhai o atgofion yr awdur am ei blentyndod yn Nhalsarnau


Ganed fi yn y Faeldref, yn Nyffryn Ardudwy, ac yno y treuliais y rhan fwyaf o ddeunaw mlynedd cyntaf fy mywyd.

Y rhan fwyaf, ond nid y cwbl; pan oeddwn ar fin bod yn bedair oed symudodd fy nhad i fyw i Gefn Gwyn, Talsarnau, a buom yno am dair blynedd, neu dair a hanner, cyn dychwelyd i'r Faeldref.  Ac atgofion am Gefn Gwyn a'r wlad o gwmpas ydyw fy atgofion clir cyntaf. O ben banc Cefn Gwyn gwelwch ar draws y Traeth Mawr a'r Traeth Bychan. Yn y blynyddoedd hynny gwelid cip ar fastiau'r Ilongau fel coedwig wrth y cei ym Mhorthmadog dros y dwr, a Ilongau'r Port yn troi i'r mör mawr gyda'r llanw ar ambell fore, yr haul yn tywynnu ar eu hwyliau.
Y ffordd hwylusaf i fyned i Borthmadog o Gefn Gwyn oedd gyda chwch Sion Robert o ymyl y Clogwyn Melyn, a bum yn croesi'r traeth gyda fy mam yn y cwch hwnnw amryw weithiau. Unwaith daeth Ilong 10 i'r traeth a chefais fyned ati gyda fy nhad. Bum ar y traeth rai gweithiau yn hel cocos gyda morwyn a oedd yng Nghefn Gwyn. A rhwng y cwbl, Ilongau Porthmadog, cwch Sion Robert, a bywyd y traeth - nid yw yn rhyfedd yn y byd fod diddordeb yn y mör ac yn enwedig mewn Ilongau hwyliau wedi parhau.
Ysgol Talsarnau oedd yr ysgol gyntaf y büm ynddi. Yr oedd yn rhaid cerdded bob cam ; 'doedd neb yn breuddwydio fod angen cludo plant i'r ysgol y pryd hynny. Ac erbyn meddwl, yr oedd y llwybr yn un digon dyrys i fachgen bach pump neu chwech oed ei gerdded ei hun ar draws hafn ddofn y Nant, dan gysgod mynwent yr Eglwys, heibio i Ynys Llanfihangel, ar hyd y clawdd llanw a thros y bompren gul a'r ffordd haearn. Büm ar hyd yr hen lwybr rai blynyddoedd yn ôl a sylwais ar y dwr dwfn oedd o dan y bompren. Yr oedd y daith yn hir, ond 'doedd neb yn meddwl fawr o'r peth yr adeg honno ac yr oedd yn rhaid i blentyn ddysgu ymdaro drosto ei hun.
Ychydig iawn a gofiaf am yr ysgol, ond y mae'r cof am y prif-athro yn fyw iawn. J. J. Thomas oedd ef, ac y mae'n rhaid ei fod yn wr eithriadol. Dywedid ei fod yn ddisgyblwr manwl,—a gallai disgyblaeth yr oes honno fod yn bur chwyrn,—ond byddai plant yn dyheu am gael mynd i'r ysgol ato. Yr oedd rhyw swyn rhyfedd yn ei bersonoliaeth ; yn un peth, yr oedd, fel y sylweddolais wedi myned yn hyn, yn ddyn glandeg iawn, yn meddu ar y ddau lygaid gyda'r prydferthaf welais erioed, ac yr oedd rhyw drydan a gwefr yn ei bersonoliaeth hefyd. Yr oedd ganddo lais prydferth, a byddai ef a John Bennett Jones, Bryn Felin, yn swyno llawer wrth ganu yn y capel. Teimlwn yr un swyn yn J. J. Thomas wedi i mi ddyfod i oed, a chredaf y cytunai y rhan fwyaf o'i hen ddisgyblion. Yr oedd yn wr neilltuol iawn.
Fel y dywedais, nid wyf yn cofio dim am yr ysgol ond bod gan un o'r athrawon feisicl, yr hen geffyl haearn hen-ffasiwn, gydag un Olwyn fawr ac un fechan, fechan. Hynny, a phersonoliaeth y prif-athro, ydyw'r ddau beth sydd yn aros. Ni wyddwn i am flynyddoedd lawer fod y gwr sydd yn adnabyddus heddiw fel y Parch. Ddr. David Tecwyn Evans, yn y chweched safon yn yr ysgol honno pan oeddwn innau yn adran y babanod. Ond y mae yntau yn cofio am J. J. Thomas ac am y beisicl.
Yng Nghefn Gwyn y dysgais ddarllen. Fy mam a'm dysgodd a'r bennod gyntaf yn Efengyl loan oedd y gwerslyfr Cymraeg. A oedd hynny yn beth arferol, tybed? Wrth edrych yn ol, ymcldengys yn faes pur anodd i blentyn a oedd newydcl gael crap ar y Ilythrennau, ac yr oedd dalennau'r Testament wedi gwisgo yn denau ac yn ddu yn y fan honno. Cofiaf fod y Ilyfr Saesneg yn symlach, ae yr oedd gan hwnnw ddalennau Ilian wedi eu cymhwyso at fysedd bychain nad oedd yn rhy dda ganddynt ymolchi. Nid oecld yn dda gennyf y Ilyfr hwnnw ; dysgodd fy mam Saesneg i mi yn fore iawn, y mae'n wir, ond cofiaf adeg pan na fedrwn air ac nid oecld y Ilyfr Saesneg yn apelio ataf. Ond Ilyfrau Saesneg a ddaeth i fod yn gymdeithion i mi yn y man, cylchgronau fel " Sunshine," “The Children's Friend " a“Chatterbox." Nid oedd dim o'r fath yn Gymraeg i ddenu plentyn. Y mae'n debyg fod " Trysorfa'r Plant " yn dyfod i'r ty ond ni chefais fawr o flas ar honno nes darganfod, mewn hen gyfrol, stori am Indiaid Cochion ac Albert Maywood. Syniad od oedd gan y rhan fwyaf o Gymry'r cyfnod am ddarparu ar gyfer plant.
Wrth edrych yn ol, y peth sydd yn ymddangos yn rhyfedd ydyw mai Cymreig hollol oedd ein byd, yn Nhalsarnau ac yn y Dyffryn wedyn, er mai Saesneg yn unig oedd iaith y ddwy ysgol.
Yr oedd y bywyd Cymreig mor gryf, y mae'n debyg, fel nad oedd yr hyn a ddigwyddai yn yr ysgolion fawr o bwys. Yn sicr, yr oedd bywyd y cartref, y capel a'r Ysgol Sul yn llawer cryfach na bywyd yr ysgol ddyddiol, ond y mae yn rhaid cofio hefyd fod athrawon yr ysgol honno fel rheol yn flaenllaw mewn capel ac Ysgol Sul. Yno yr oeddynt yn ddynion ac yn ferched fel rhywun arall, a ninnau yn gwybod, os oeddem yn meddwl am y peth o gwbl (y mae hynny yn amheus gennyf), mai rhan o'u gwisg swyddogol oedd y Saesneg yn yr ysgol bob dydd ac mai Cymry iawn oeddynt trwy'r cwbl.
Ychydig o gof sydd gennyf am gapel Talsarnau, ond cofiaf Owen Roberts yn codi canu, yn ysgwyd yn araf o ochr i ochr fel metronome. Tad Owen  Roberts, y cerddor o Ddolgellau, oedd ef. Cofiaf hefyd am gapel bach yr Ynys ac Ellis Edwards, Y Bala, yn pregethu i'r plant ar " Na ddiystyrwch ddydd y pethau bychain." Nid oeddwn yn fwy na chwech neu saith oed ar y pryd ac ni chofiaf ddim am y bregeth. Ond cofiaf y testun o hyd, ac y mae yn rhaid bod rhywbeth neilltuol mewn pregeth a barai i fachgen chwech oed gofio'r testun.
Yn Nhalsarnau ac yn y Dyffryn yr oedd "y bobol," i ddefnyddio hen air da yr ardal am wasanaethyddion y ffarm, yn bwysig iawn i blentyn unig. Mawr yw fy nyled iddynt, i fechgyn ieuanc a fu yn garedig wrth fachgen bach ar ddiwedd diwrnod hir a chaled o waith, ac i aml was bach a oedd, er yn ei deimlo ei hun yn gryn lanc yn ei drowsus cordro a'i wasgod lewys newydd, eto yn ddigon o blentyn i anghofio ei bwysigrwydd weithiau ac i chwarae efo plentyn arall. Yr oedd fy unig frawd saith mlynedd yn iau na mi-—a phan ydych yn saith neu wyth oed y mae'r gwahaniaeth hwnnw yn rhy fawr i'w bontio.
Gwelaf mai am Gefn Gwyn y dywedais fwyaf. Yno y dechreuais sylwi a derbyn argraffiadau. Pe dechreuaswn sön am y Dyffryn fel yr oedd pan oeddwn yn blentyn ac yn fachgen, prin y buasai dau rifyn o Meirionnydd yn ddigon o le i mi ymestyn.

 

Gwybodaeth am Gefndir a Hanes E Morgan Humphreys 

Newyddiadurwr a nofelydd oedd Edward Morgan Humphreys (14 Mai 1882 – 11 Mehefin 1955), yn frodor o Ddyffryn Ardudwy, Meirionnydd (Gwynedd). "Celt" oedd ei lysenw adnabyddus.

Gyrfa
Yn 1905 ymunodd E. Morgan Humphreys â staff Y Genedl Gymreig yng Nghaernarfon a chafodd ei benodi'n olygydd y papur 4 mlynedd yn ddiweddarach. Golygodd hefyd The North Wales Observer ac Y Goleuad ac roedd yn gyfrannydd cyson fel colofnydd ac adolygydd i'r Manchester Guardian a'r Liverpool Daily Post dan y ffugenw "Celt".

Gwaith llenyddol
Ymroddodd E. Morgan Humphreys i ysgrifennu nofelau antur a ditectif cyfaddas i bobl ifanc yng Nghymru a gwnaeth gymwynas fawr trwy lenwi'r bwlch hwnnw gan fod pobl ifanc y cyfnod, fel heddiw, yn tueddu i droi at lyfrau Saesneg. Er eu bod yn storïau wedi'u anelu at blant yn eu harddegau yn bennaf, maent yn hynod ddarllenadwy ac yn ddiddorol i oedolion yn ogystal.

Ysgrifennodd yn ogystal lyfr ar hanes y wasg yng Nghymru a dwy gyfrol o bortreadau o enwogion Cymru, ynghyd â chyfieithiad o Cwm Eithin, clasur Hugh Evans.

Llyfrau

I blant a phobl ifanc
Dirgelwch yr Anialwch (1911)
Rhwng Rhyfeloedd (1924)
Yr Etifedd Coll (1924)
Y Llaw Gudd (1924)
Dirgelwch Gallt Y Ffrwd (1938)
Ceulan y Llyn Du (1944)
Llofrudd yn y Chwarel (1951)
Eraill
Y Wasg Gymraeg (1945)
The Gorse Glen (1948). Cyfieithiad o Cwm Eithin gan Hugh Evans.
Gwŷr Enwog Gynt (1950, 1953)