Chwilio

Ganed John Kelt Edwards ar 4.3.1875 yn un o 6 o blant i Jonathan a Margaret Edwards a gadwai siop Ironmongers o’r enw Berlin House ym Mlaenau Ffestiniog.

Dangosodd awydd a gallu i arlunio’n gynnar iawn. Wedi cyfnod byr yn yr Ysgol Elfennol leol, cafodd ei anfon i Goleg Llanymddyfri. Yna i Ysgol Beaumont ar Ynys Jersey.


Dychwelodd i’r Blaenau yn 16oed gyda’r bwriad o ddilyn cwrs arlunio a datblygu ei dalent. Yn 1902 ac yntau’n 27oed, bu’n astudio yn y British Academy of Arts yn Rhufain. Tra yn Yr eidal daeth yn ddigon hyddysg mewn Ffrangeg, Eidaleg ac Almaeneg. Derbyniodd ganmoliaeth uchel gan ei athrawon yn Ecole de Beaux Arts ym Mharis ac roedd yn boblogaidd iawn. Ar ol treulio rhai blynyddoedd ar y cyfandir, ymsefydlodd Kelt Edwards yn llundain, ond arian Berlin House oedd yn dal i’w gynnal o hyd.


Diau fod ei luniau yn safonol, a bod ganddo ddawn fawr – ond ni chafodd ei luniau y derbyniad fyddai ef wedi ei ddymuno, ac ni lwyddodd i berswadio’r rhai â dylanwad i roi iddo’r comisiynau yr oedd arlunydd fel ef ei angen er mwyn bod yn llwyddiannus.

Dywedir, yn ôl y sôn, er mwyn iddo fod yn llwyddiannus, i’r Fonesig Llanofer awgrymu, y dylai fabwysiadu’r enw Kelt gan fod John Edwards yn enw rhy gyffredin.


Tynnodd luniau o enwogion megis David Lloyd George, ei ferch Lady Megan Lloyd George, a Syr O.M.Edwards.Ond hyd yn oed wedyn, ni lwyddodd i gael y gefnogaeth yr oedd ei angen er mwyn cael ei gydnabod.
Er iddo gynhyrchu llawer iawn o luniau, nid oes cymaint â hynny o’i waith ar gael heddiw. Mae rhai enghreifftiau yn Y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.


Mae rhai portreadau golosg ar gael megis llun Hedd Wyn, Bardd y Gadair Ddu. Hefyd llun o Elfyn, sef R.O.Hughes bardd cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog 1898.
Hefyd, luniau o Bryfdir, bardd ac eisteddfodwr a Robert Griffith, cymeriad lleol.
kelt008 500

Mae llun golosg o’i gyfnither Bessie Davies ar gael. Hefyd llun o Mrs Nellie Bell – Siop y Post Talsarnau pan oedd yn ifanc. Llun yr oedd ganddi feddwl mawr ohono.

Mae enghreifftiau hefyd o luniau ffurfiol lle bu iddo o bosib eu tynnu yn un o’r ysgolion arlunio ar y cyfandir.
Yn ogystal, mae lluniau / portreadau gorffenedig – gŵr yn eistedd a phortread olew o’i fam.

Mae hefyd bortread medrus mewn dyfrlliw, llun o’r Parchedig Enoch Ellis Jones a darlun pin ac inc o’i fam. Ymysg y portreadau mae un o William Owen Jones sydd i’w weld yn Yr Amgueddfa Genedlaethol a phortread o “Anhysbys” mewn olew.
Dangosodd allu arbennig i greu gweithiau manwl ar ffurf platiau llyfrau. Dyma blât llyfr Edward T John Plas Llanidan ym Môn. Bu’n cyfrannu i “Cymru” a “Chymru’r Plant” a dyma enghreifftiau o sawl clawr a luniodd:

  • Arweinydd y Plentyn
  • Y Traethodydd
  • Y Winllan – gwaith manwl iawn
  • Cerddi’r Bugail – Hedd Wyn
  • Wynebddalen llyfr D R Jones
  • Plât llyfr ei gariad Pauline Taylor

Dros y blynyddoedd bu’n gweithio mewn sawl cyfrwng – mewn pensil; mewn golosg; mewn dyfrlliw; mewn pin a inc ac mewn olew.

Ychydig o olygfeydd sydd yn dal ar gael heddiw:

  • Lluniau pin ac inc i Syr O.M.Edwards yn cylchgrawn “Cymru”
  • Pulpud Huw Llwyd yn Afon Cynfal, Llan Ffestiniog
  • Hen felin yn ardal Stiniog
  • Tyddyn Neuadd Ddu ger Stiniog
  • Llun Rhiannon o’r Mabinogion
  • Golygfa o dref Blaenau ffestiniog
  • Rhaeadr Du Ceunant Llennyrch
  • Golygfa o Fenis

Treuliodd Kelt Edwards flynyddoedd olaf ei oes yn Cei Newydd, Llandecwyn ger Talsarnau. Byddai’n mynd ar ei feic i Dalsarnau i nol ei bapur yn ddyddiol, ac roedd yn berson poblogaidd er ychydig yn egsentrig.

Mae rhai argraffiadau o Kelt Edwards mewn pin ac inc ohono’i hun.

  • Ffotograff ohono’n dynwared digrifwr enwog ei gyfnod – Dan Lenno.
  • Llun y teulu ac yntau’r unig fachgen.
  • Darlun prin ohono ac yntau’n peintio.
  • Ffotograff ohono’n ifanc.
  • Hunan bortread pin ac inc
  • Ei gynllun o Gadair Eisteddfod Genedlaethol Corwen a llun ohono ef a saer y gadair Elias Davies
  • Kelt yng ngwisg Yr Orsedd yn 1919
  • Kelt a’i nai Clifford Jones

 Mae bedd yr arlunydd i’w weld ym mynwent Bethesda nid nepell o Ysgol Gynradd Manod.