Ychydig a wyddom am blentyndod cynnar Lewis Holland Thomas, ond gwyddom ei fod wedi’i eni yn Llanrwst yn 1812. Roedd ei deulu’n gysylltiedig â theulu’r Wyniaid ac arferai Lewis fynd ar wyliau i aros yng Nghastell Gwydir yn Nyffryn Conwy.
Byddai hefyd yn mynd i aros yn eiddo ei dad yn Nhalsarnau mewn hen ffermdy ar ochr rhiw gyda choed uwch ei ben, sef yr hen Gaerffynnon, mae’n debyg.
Roedd yn ddisgynydd o’r Brenin Louis 1X o Ffrainc. Roedd hanes yn adrodd fel y byddaiteulu Lewis ar lefel uchel yn ariannol ar un adeg, yna syrthio i dlodi mawr a bob amser ar yr ochr oedd yn colli mewn rhyfel. Dyma beth ddigwyddodd i Lewis a’i deulu pan oedd ef yn 12 oed, Roedd yn etifedd i eiddo ym Meirionnydd, ond collodd ei daid rhan o ffortiwn y teulu acoherwydd i’w fab (tad Lewis) geisio ei helpu’n ariannol, fe gollodd yntau weddill o’r arian a bu rhaid gwerthu’r ystad i dalu dyledion. Bu farw ei dad yn ifanc a gadawyd y teulu yn dlawd iawn a bu raid i Lewis, plentyn hynaf y teulu, a’i ddwy chwaer a’i ddau frawd fynd i’r wercws.
Roedd Lewis yn 12 oed pan aeth i fyw gyda theulu maeth yn agos i Lanbedr a daeth yn gyfeillgar gyda’i mab tua’r un oed ag ef. Roedd yn hapus iawn pan yn ddiweddarach gosodwyd Lewis i weithio ar fferm yn agos i’r cartref. Ond roedd gan Lewis freuddwyd a hynny oedd i wneud ei ffortiwn a’i ddyhead mawr oedd i ddychwelyd i Dalsarnau ac ad-ennill yr hyn oedd yn eiddo i’w dad ers llawer dydd.
Roedd yn ddigon hoff o waith fferm ond nid oedd yn gweld hyn yn ffordd i wneud llawer o arian. Felly tybiai mai’r unig ffordd oedd i ‘redeg i ffwrdd i’r môr’.
Wedi colli ei rieni pan oedd tua 9 oed cafodd ymgartrefu gyda’i fodryb a’i ewythr ar fferm Cae Cethin yn Llanfair ger Harlech. Pan oddeutu 12 oed penderfynodd fynd i’r môr ac ymunodd â llong yn Y Bermo. Erbyn iddo gyrraedd 22 oed roedd wedi meistroli ei grefft ac yn 1835 ef oedd meistr y llong Enfield.
Mae’n ymddangos iddo wneud cysylltiadau mewn porthladdoedd yng ngwledydd gorllewinol America yn masnachu o Chile ar hyd yr arfordir hyd at Fecsico. Roedd L H Thomas yn dal â chysylltiad a’i deulu yng ngogledd Cymru ac yn 1842 priododd ei gyfnither Winifred. Yn y cyfnod yma gwnaeth nifer o fordeithiau i’r Môr Tawel lle bu’n masnachu’n llwyddiannus.
Ar y fordaith gyntaf ar ôl priodi a barodd o 1842 hyd1846 bu ei wraig yn gwmni iddo. Hon oedd ei ail fordaith ar y Laura Ann, brig 146 tunnell. Roedd wedi prynu cyfran o werth y llong ar y cyd gyda’i ffrind a’i bartner busnes Richard Roberts, Lerpwl, ond un oedd yn hannu o Feirionnydd.
Parhaodd y masnachu am 4 mlynedd yng ngwledydd gorllewin de a gogledd America. Yn y cyfnod yma y ganwyd eu dwy ferch, Laura Ann a Mary Ellen yn Valparaiso. Ym 1845 penderfynwyd hwylio am adref a chyrraedd Llundain ar Ionawr 4ydd 1846. Yn ystod y fordaith bu dirywiad yn iechyd Winifred ac yn Ebrill bu farw a hithau’n 29 oeda rhoddwyd eu dwy ferch i ofal aelodau hŷn y teulu yn Rheithordy Pinxton, Swydd Derby.
Ym 1846 hwyliodd Capten L H Thomas eto am Valparaiso, a masnachu yn Hong Kong, Ynysoedd y Philipîn, Hawai, Honolwlw, Tahiti a San Ffransisco. Tra yn San Ffransisco, buddsoddodd yn helaeth a phrynu nifer sylweddol o eiddo. Gwerthodd y Laura Ann ynghyd a’r eiddo gan wneud elw sylweddol. Dychwelodd i Gymru yn wr cyfoethog a phrynu Caerffynnon, Talsarnau. Yn 1855 priododd âg Elizabeth, merch ei bartner busnes Richard Roberts.
Perthynai i’r Eglwys Anglicanaidd er y daeth yn noddwr yr ysgol leol er ei bod yn ysgol anghyddffurfiol. Ganwyd iddynt 9 o blant er y bu farw dau fab Lewis a Richard yn ifanc iawn.
Bu farw L H Thomas yn Neuadd Caerffynnon, Talsarnau ym Medi 1888 a bu ei wraig farw yn Cannes yn 1904
Priododd Lewis ei wraig gyntaf Winifred Holland, cyfneither iddo, ar 28 o Fehefin 1842 pan yn 30 oed. Bu iddi hi fynd ar nifer o fordeithiau gyda’i gŵr a ganwyd iddynt ddwy ferch yn Valparaiso, De America - Laura Anne yn 1843 a enwyd ar ol ei long a Mary Ellen yn 1845.
Trwy ei gysylltiad morwrol â chwmni Roberts o Lerpwl, daeth Lewis i fod yn gyd-berchennog o’r ‘Laura Anne’ ac arferai alw yn nhŷ Mr Roberts. Un noson, gofynnodd i Lewis ddod i weld babi’r teulu yn y baddon. Roedd Lewis yn hoff o blant ac roedd o fawr feddwl y byddai’r eneth fach ddel yn chwarae yn y dŵr yn dod yn wraig iddo rhyw ddydd.
Yn ystod cyfnod Lewis Holland Thomas yn San Francisco, roedd wedi prynu llawer o rhandaliadau yno a daeth yn berchennog ar ran fawr o’r tir lle adeiladwyd y dre’ yma. Yn ogystal â bod yn Gapten llong a dyn busnes llwyddiannus, roedd hefyd yn bregethwr lleyg Protestanaidd. Enillodd enw da fel gŵr gonest ac yn ystod ei amser yn San Francisco, apwyntiwyd ef yn warchodwr teulu o blant heb ddim tad, a fyddent rhyw ddiwrnod yn etifeddu eiddo ar stâd yn San Francisco a Sauselito. Ar ôl dychwelyd i Gymru, cadwodd mewn cysylltiad â’u cyfreithiwr ac adroddir bod nifer o weithredoedd cyfreithiol a chynlluniau trefol, dyddiedig yn ystod yr 1860au, wedi’u hanfon iddo yng Nghaerffynnon.
Wedi dychwelyd i Gymru, yn wr gweddw cefnog, wedi gwerthu ei eiddo yn San Francisco,prynodd Lewis Holland Thomas stâd Caerffynnon yn 1851, a oedd yn cynnwys fferm Draenogan ac eiddo arall, oddi wrth Catherine Roberts, gweddw Richard Roberts ac aeth ati i adeiladu tŷ newydd ar y safle. Erbyn 1856 roedd Lewis wedi creu tŷ arbennig yng Nghaerffynnon ac wedi adeiladu’r tŷ ar sylfeini’r hen ffermdy, gan ddefnyddio coed masarnen o Ganada i wneud drysau, gyda chrefftwr o Sbaen i wneud y patrymau (mouldings) ar y nenfydau. Creuwyd gardd o dan y coed gyda model o fferm wrth ymyl, gan ei fod yn hoffi pridd yn fwy na halen erbyn hyn.
Roedd yn fwriad gan Lewis geisio helpu ei deulu, ei ddwy chwaer a’i ddau frawd. Ond ni fu’n llwyddiannus. Diflannodd ei hoff chwaer gyda’i babi siawns ac ni welwyd mohonynt byth mwy. Talodd am addysg a hyfforddiant i’w frawd a oedd â diddordeb mewn meddygaeth, ond yn anffodus fe drodd at y botel ac ni ddaeth dim ohono a bu hwnnw farw yn y wercws. Nid oedd ei frawd a’i chwaer ieuenga’ yn barod i gymryd ei help ‘chwaith; ac nid oedd y ddau yn cael gwahoddiad i ymweld â Chaerffynnon. Dipyn o sipsi oedd ei frawd arall ac ni wyddai ei deulu ddim byd am ei gefndir, dim ond ei enw ‘Holland Thomas’ a’i fod yn dod o Sir Feirionnydd.
Wedi ymadael â’r môr, ymroddodd mwy â gwaith ffermio, ac yng Nghaerffynnon y magodd ei ail deulu, pan briododd am yr eildro yn 1856 gyda Elizabeth Roberts, hanner Cymraes a hanner Manawes, y babi del o welodd yn y baddon dipyn o flynyddoedd ynghynt, merch Richard Roberts o Lerpwl, cyd-berchennog y “Laura Anne”, a ganwyd iddynt wyth o blant – Anna, Lily, Mabel, Lewis, Fanny, Ethel, Richard a Winifred. Roedd ei ddwy ferch hynaf o’i briodas gyntaf, Laura Anne ac Ellen wedi dod i fyw i Gaerffynnon hefyd.
Y ferch gyntaf a anwyd i Lewis ac Elizabeth oedd Anna Theodora yn 1857, (bu farw yn 22 oed yn 1880), yna ganwyd Elizabeth Gertrude (Lily) 1859, (bu farw yn dilyn damwain yn 1897), wedyn Mabel Mary yn 1861, cyn iddynt gael bachgen Lewis Holland Thomas yn 1863 (daeth tristwch mawr i’r teulu pan bu ef farw cyn bod yn ddwy oed). Ganwyd merch eto yn 1866, Fanny Maria Waddington. Ymhen deunaw mis, yn 1869, ganwyd Richard ond yn drist iawn eto, bu farw’r ail fachgen yn 1879 yn 10 oed. Plentyn olaf y teulu oedd Winifred Holland a anwyd yn 1873 (bu farw 1908).
Er iddynt fynd drwy gyfnodau o brofedigaethau mawr, roedd Lewis ac Elizabeth yn byw’n hapus gyda’i gilydd ar stâd Caerffynnon ac yn ymwneud llawer â phentref Talsarnau a’r trigolion. Ni fyddai eu plant yn mynychu’r ysgol leol, ond yn hytrach cael gwersi gartref gan athrawes ac yna mynd i ffwrdd i ysgol breswyl pan yn hŷn.
Ond roedd cysylltiad agos rhwng Lewis â’r ysgol gynradd leol. Adeiladwyd yr ysgol gyntaf yn Nhalsarnau, ynghyd â thy’r ysgol yn 1859, trwy gyfraniadau’r plwyfolion yn bennaf. Yn Llyfr Log yr ysgol yn 1863 (sydd yn Archifdy Dolgellau) ac yn llawysgrif Capten Lewis Holland Thomas, enwir ef, ynghyd â’r Parch Griffith Williams, fel sylfaenwyr yr ysgol yn Nhalsarnau,gyda’r Capten yn gadeirydd y llywodraethwyr. Cynhaliwyd cyfarfodydd yn yr ysgol i geisio annog rhieni i roi addysg well i’w plant. Yn ôl y Llyfr Log, byddai Mrs Holland Thomas a’i merched yn cymryd rhan amlwg yn rhedeg yr ysgol, gan gynorthwyo gyda dosbarthiadau gwnio a byddai’r teulu yn trefnu parti Nadolig i’r plant yn flynyddol.
Ar achlysur priodas Ethel Holland Thomas ag Syr Isambard Owen, rhoddwyd anrheg o Feibl Cymraeg iddynt gan Ysgol Talsarnau. Roedd hwn wedi’i rwymo mewn gwyrdd ac aur gyda bwcl efydd yn eu gau a nifer o luniau lliw ynddo. Er wedi colli’i glawr blaen, mae’r Beibl yma yn Nhalsarnau o hyd.
Byddai Mrs Holland Thomas yn mynd o amgylch y pentref cyn y Nadolig i edrych pwy oedd mewn angen. Byddai’n rhoi cant o lo neu ddwy bais wlanen i’r tlodion. Roedd amryw o’rpentrefwyr yn gweithio yng Nghaerffynnon, gan fod angen morwynion i redeg y tŷ ac i edrych ar ôl y plant, a byddai’r dynion yn gweithio yn y gerddi ac ar y fferm.
Roedd Lewis H T yn hoff iawn o ffermio ac yn falch iawn o’i ffermydd bach; roedd yn arbennig o hoff o’i geffylau ac yn ofalus iawn ohonynt. Roedd yn magu gwartheg duon Cymreig yng Nghaerffynnon ac enillodd sawl gwobr hefo’i darw Evan. Un tro, roedd Evan yn cael ei arwain i’r stesion i fynd i gystadlu mewn sioe ond ceisiodd ddianc yn ôl i Gaerffynnon, gan lusgo 6 o ddynion hefo fo. Golygodd hyn fod Lewis wedi gorfod talu am esgidiau a throwsusau newydd i’r dynion i gyd!
Gan fod L H T yn berchen ar y tir a fferm Draenogan, roedd ganddo’r hawl i atal y trên oedd yn rhedeg drwy’i dir, ac yn gwneud hyn drwy sefyll wrth ochr y rheilffordd a chodi’i ffon. Byddai’r post yn cael ei ddosbarthu o stesion Talsarnau adeg hynny, ac roedd bag gyda chlo arno ar gyfer Caerffynnon a byddai’r plant yn ei nôl o waelod y ffordd at y tŷ.
Roedd band yn Nhalsarnau a byddent yn gorymdeithio i fyny i Caerffynnon, hefyd yr ‘Odd Fellows Club’ a’r ‘Band of Hope’. Roedd gan yr ‘Odd Fellows Club’ wregysau glas a choch o amgylch eu hysgwyddau a byddai plant Caerffynnon yn cerdded o’u blaen at waelod y ffordd at y tŷ.
Roedd Elizabeth yn boblogaidd iawn yn y pentref a byddai’n garedig wrth bobl, yn rhoi cymorth lle byddai’n gweld angen drwy gyfrannu basgedi o fwyd ac yn ymweld â phobl wael. Roedd hi’n eitha gwybodus yn y maes meddygol hefyd ac yn barod i roi help i bobl y pentref, gan ei bod yn darllen llawer o lyfrau meddygol, ac yn dod i wybod mwy am faterion o’r fath.
Ymunodd Holland Thomas â’r blaid rhyddfrydol ac roedd yn frwd dros ei ddaliadau. Ers paniddo gael ail-afael ar ei eiddo, galwodd ei hun yn Sgweiar Lewis Holland Thomas o Gaerffynnona gollwng y teitl ‘Capten’. Roedd yn parhau i fod yn hoff iawn o’r môr a byddai’n ymweld yn aml â’r cei prysur ym Mhorthmadog.
Bu farw Lewis Holland Thomas yn 1888 yn 76 oed, ac fe’i claddwyd gyda’i blant a’u rhag-flaenodd, ym mynwent Eglwys Llanfihangel y Traethau yn yr Ynys. Wedi colli ei gŵr, arferai ei wraig a’i ferched dreulio amser yn Cannes, De Ffrainc, ac yno bu farw Elizabeth yn 1904 yn 76 oed. Fe’i claddwyd hithau ym mynwent Llanfihangel.
Ysgrifennodd Ethel, chweched plentyn y teulu, lyfr ar ffurf dyddiadur yn 1881, pan yn 13 oed –‘My Welsh Heart – Diary of Ethel Holland Thomas of Caerffynnon Talsarnau’ - yn adrodd hanes bywyd o ddydd i ddydd yn y cartref.
Roedd wyresau Lewis ac Elizabeth H T – Heulwen a Hedydd Isambard Owen, dwy ferch i Ethel Holland Thomas gynt, wedi ysgrifennu llyfr dan y teitl ‘The Caerffynnon Story’ (cyhoeddwyd yn 1973). Roedd hwn yn adrodd hanes y teulu a’u bywyd yng Nghaerffynnon, ac ymhellach i ffwrdd, o’r cychwyn, gyda rhan ohono ar ffurf dyddiadur a ysgrifennwyd gan Fanny, Ethel ac Winifred, tair merch i’r Capten, ac yn cofnodi hynt a helynt y teulu i gyd yn eu tro – y digwyddiadau llon a lleddf.
Yn y diwedd, bu raid i’r olaf o’r disgynyddion – Elfreda Haigh, merch Fanny Maria Waddington Haigh, werthu Stad Caerffynnon yn 1951, union 100 mlynedd ers i Lewis Holland Thomas ei brynu!. Bu’n le gwyliau ardderchog am gyfnod a thŷ bwyta poblogaidd yn rhan honno hefyd.
Cynhaliwyd garddwest bob blwyddyn gan y trigolion lleol yn y gerddi o flaen y plas a byddai’n achlysur yn denu llawer o bobl a phlant yno bob mis Awst.
Yn anffodus, saif Caerffynnon yn wâg heddiw gyda chyflwr y tŷ i’w weld yn dirywio, a’r gerddi o gwmpas yn tyfu’n wyllt a blêr.