Hen Deulu Iwan Morgan
RHAI FFEITHIAU DIDDOROL AM DEULUOEDD CEFN TREFOR FAWR, TALSARNAU (a adnabyddwyd yn ddiweddarach fel Y TŶ MAWR) A’R FUCHES WEN FAWR (yn ystod y 18fed ganrif)
Bu farw ROBERT LLOYD (iwmon), Cefn Trefor Fawr ym 1731 gan adael ewyllys. Crybwyllir ynddo enwau MARY LLOYD (ei briod) a’i blant ROBERT, LOWRY, EVAN, GWEN a JANE. Mae un ffaith ddiddorol arall yn yr ewyllys, sy’n nodi i ROBERT adael:
‘to my natural daughter, ELLIN LLOYD, a she yearling calf.’
Bedyddiwyd ELLIN yn Llanfihangel yn Rhagfyr 1697. Ymddengys mai morwyn yng Nghefn Trefor oedd ei mam, JANE THOMAS. Priododd ELLIN ag ABRAHAM EVAN, TALSARNAU (Y TŶ MAWR fel yr adwaenir ef heddiw).
Nodir yng Nghofrestr Llanfihangel i LOWRY LLOYD - merch ROBERT a MARY uchod - briodi â ROBERT ELLIS (mab ELLIS AP ROBERT JOHN, FUCHES WEN FAWR – (a oedd yn warden yr Eglwys ym 1702 ac a fu farw yn Ebrill 1729) - ar 4ydd o Dachwedd, 1721.
Yn y Cofrestrau, deuthum ar draws enwau rhyw dri-ar-ddeg o blant a anwyd i ROBERT a LOWRY. Ymhlith y rhain mae’r ‘CAPTEN’ ELLIS ROBERTS, FUCHES WEN (1732-1819).
Mae’n amlwg fod a wnelo ef a’i ddisgynyddion â’r diwydiant adeiladau llongau y manylwyd arno yng nghyfrolau gwerthfawr y diweddar Ddr Lewis Lloyd. Disgynnydd i ELLIS ROBERTS oedd y CAPTEN DAVID EVANS, BERLIN, WISCONSIN (1817-95) - gweler y gyfrol ‘LETTERS FROM AMERICA’ (Lewis Lloyd a Bryn Parry) - Gwasg Gee 1975.
Mab arall i ROBERT ELLIS a LOWRY LLOYD oedd ROBERT ROBERT(S) (1740-1817). Dyma’r gŵr a fu’n gyfrifol am ddod â Methodistiaeth i’r ardal. Mae’r hen gyfrolau ‘HANES METHODISTIAETH GORLLEWIN MEIRIONNYDD’ a ‘HANES METHODISTIAETH CYMRU’ yn nodi fel y bu i amgylchiadau bywyd ROBERT newid er gwell ar ôl iddo droi at grefydd.
Yn hogyn ifanc, cyflogwyd ef yn was gan ABRAHAM EVAN yn NHALYSARNAU (Y TŶ MAWR). Datblygodd perthynas rhyngddo â MARY ABRAHAM - merch hynaf ABRAHAM EVAN ac ELLIN LLOYD - oedd oddeutu 12 mlynedd yn hŷn na ROBERT ROBERT(S). Ym 1759, roedd MARY yn disgwyl ei blentyn a bu i’r ddau briodi. Ganwyd merch iddynt - ELEANOR (1759-1848) a briododd OWEN LLOYD (1748-1837) maes o law - crydd wrth ei grefft a mab RICHARD LLOYD, LLIDIART GARW (amaethwr a fu farw ym 1802) - a’r teulu yma eto’n gysylltiedig â’r diwydiant adeiladu llongau ar Ynys Gifftan.
Roedd perthynas o waed rhwng ROBERT ROBERT(S) a MARY ABRAHAM, wrth gwrs, o gofio mai’r hen ROBERT LLOYD, CEFN TREFOR FAWR oedd taid y ddau!
Bu farw MARY ABRAHAM yn 34 oed yn Ionawr 1763 a’i chwaer iau, LOWRY ABRAHAM ychydig ddyddiau ar ei hôl yn 29 oed. Gŵr gweddw oedd ABRAHAM EVAN yntau pan fu farw ym 1766. Gadawyd TALYSARNAU i ROBERT ROBERT(S). Dyma o bosib sydd gan John Hughes a Robert Owen yn eu cyfrolau ‘HANES METHODISTIAETH CYMRU’ a ‘HANES METHODISTIAETH GORLLEWIN MEIRIONNYDD’ pan ydynt yn cyfeirio at y newid amgylchiadau a ddaeth i fywyd ROBERT ar ôl iddo benderfynu dod yn Fethodist selog.
Un arall o feibion ROBERT ELLIS, FUCHES WEN FAWR a’i briod LOWRY LLOYD oedd THOMAS ROBERT (1734-95). Priododd ef â SARAH PREES (PRYCE) (1736-1818) yn Eglwys Llanenddwyn yn Ionawr 1761. Wedi cyfnod yng nghyffiniau Dolgellau, bu iddynt symud i LWYN DOLITHEL, TALYLLYN tua dechrau’r 1770au.
Priododd eu merch hynaf, LOWRY THOMAS (1762-1844) ag un OWEN DAFYDD (1757-1827) yn Eglwys Talyllyn ym 1790. Buont yn amaethu DOLYDD Y CAE, wrth odre ddeheuol Cader Idris. Ganed iddynt bump o feibion, sef THOMAS (1791), WILLIAM (fy hen, hen daid ym 1792), JOHN (1796), DAFYDD (1798) a ROBERT, yr ieuengaf - ym 1806. Roedd ROBERT OWEN (a laddwyd yn un o chwareli Corris ym 1850) yn daid i’r bardd a’r emynydd HENRY LLOYD (AP HEFIN), Dolgellau ac Aberdâr (1870-1946) - awdur yr emyn dirwestol enwog ‘I bob un sy’n ffyddlon, dan ei faner Ef’ - y clywir ei forio mor aml mewn tafardai o bob man!
Ymddengys i LOWRY LLOYD farw yng Ngorffennaf 1756 a hithau oddeutu 54 oed. Roedd ROBERT ELLIS, FUCHES WEN FAWR mewn gwth o oedran (oddeutu 90 oed) pan fu ef farw ym 1786.
Wrth ddrws Eglwys Llanfihangel mae carreg fedd yn gorwedd, un gyda nifer o argraffiadau arni. Mae elfennau’r canrifoedd wedi eu hen wisgo bellach. Nifer o flynyddoedd yn ôl bellach, bu’r diweddar Morris R. Humphreys, Llangennech, Llanelli a minnau’n archwilio nifer o’r cerrig yn y fynwent. [Roedd MRH yn ddisgynnydd i ABRAHAM EVAN ac ELLIN LLOYD].
Credir mai ELLIS AP ROBERT JOHN, FUCHES WEN FAWR ydy’r ER 1729. Mae ROBERT ELLIS, FUCHES WEN - Oed 90 - 1786 ychydig yn gliriach. Ceir ?E 1706 arni. Dyfalwn mai CATHERINE ELLIS - mam ELLIS AP ROBERT o bosib ydy hon. Yna, dyfalwn eto mai’r AJ -1727 ydy A(G)NNES JONAS (JOHN) - (priod ELLIS AP ROBERT a mam ROBERT ELLIS). Mae’n bur debyg mai LOWRY LLOYD ydy’r L Ll (1756). Gellir tybio mai’r CE 1779 ydy CATHERINE ELLIS (gwraig gynta’r ‘CAPTEN’ ELLIS ROBERTS – a briodwyd yn Chwefror 1759).
Mae bedd ROBERT ROBERTS, TALYSARNAU yn nes at ffenest ganol ochr ddeheuol yr Eglwys. Bu ef farw ar 13eg Rhagfyr, 1817 yn 77 oed. Yn sicr, ROBERT LLOYD, CEFN TREFOR FAWR ydy’r R Ll - 1731. Yma hefyd y gorwedd gweddillion y ddwy chwaer MARY a LOWRY ABRAHAM (1763).
[Mae nifer o ewyllysiau diddorol ar gael ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol yn cynnwys rhai o’r uchod]
Os gŵyr unrhyw un o’r darllenwyr fod ganddynt gysylltiad â’r teuluoedd yma, neu os gall rhywun fy nghynorthwyo i olrhain yr achau ymhellach, byddwn wrth fy modd yn clywed ganddynt:
Iwan Morgan, Ty’n Ffridd, Cwm Cynfal, FFESTINIOG, Gwynedd LL41 4PU
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.