Chwilio

PONT BRIWET

Yn y blynyddoedd a fu, i groesi’r Traeth Bach er mwyn mynd i Benrhyndeudraeth, Minffordd neu i Borthmadog roedd posib gwneud hynny ar droed dros y sarnau ar lanw isel neu drwy ddefnyddio fferi. Rhedai’r fferi o Glogwyn Melyn a Thy Gwyn Mawr dros aber yr Afon Dwyryd i Borthmadog yn rheolaidd yn y C19 ganrif.

Cychwynwyd ystyried codi pont dros yr afon am y tro cyntaf yn 1842 ond ddigwyddodd dim.

Yn dilyn Deddfwriaeth Seneddol rhoed hawl i'r cwmni rheilffordd Aberystwyth a Welsh Coast Railway i adeiladu lein dren ar hyd Glannau Ceredigion rhwng Aberystwyth a Phorthdinllaen ym Mhen Llyn yn 1861, bron i ugain mlynedd yn ddiweddarach.

Daeth y lein i gael ei hadnabod yn nes ymlaen fel Y Cambrian Coast Railway.

Codwyd y bont ac fe’i hagorwyd yn swyddogol ar 10fed Hydref 1867. Golygai hyn dorri 8 milltir ar y daith i Borthmadog gan y gellid bellach osgoi teithio i fyny i Faentwrog ac i lawr yn ôl yr ochr arall i’r dyffryn. Daeth y gwasanaeth fferi i ben gan na allent gystadlu mwyach.

Roedd ar y bont un llwybr ar gyfer y tren ac un llwybr cul ar gyfer moduron.

Pont Briwet Hen lun

 

Yn ystod 1932 cafodd y bont ei hail adeiladu i raddau pell gan gwmni trenau Y Great Western Railway (GWR).

Pont doll oedd Pont Briwet ac er y bu ymdrechion i ddileu’r tollau ni fuont yn llwyddiannus a rhaid oedd i deithwyr dalu tollau hyd yr amser y cafodd ei chau, mor ddiweddar â 2013. Y prisiau yn 2013 oedd MODURON 50c, OL-GERTIAU 30c, BEICIAU MODUR 30c. Fel y cynyddodd trafnidiaeth fe osodwyd goleuadau traffig bob pen i’r bont yn y blynyddoedd olaf.

Erbyn 2010 roedd cyfyngiadau o 20MYA ar gerbydau ac fe gyngwyd cerbydai i bwysau LLAI NA 2 DUNNELL – oedd yn cyfyngu ar gerbydau ambiwlans, loriau a bysiau yn arbennig. Golygai hynny daith hirach o 8 milltir drwy Faentwrog ar ffyrdd cul a throellog. Roedd perygl i gerddwyr a beicwyr yn ogystal gan mor gul oedd pont y cerbydau.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn 2010 brosiect £20 miliwn ar y cyd gyda Network Rail i godi pont newydd yn lle'r hen un erbyn 2013. Byddai'r bont newydd yn cario un llwybr tren, dau lwybr cerbydau a llwybr ar gyfer cerddwyr a beicwyr ar y cyd. Byddai cyfyngiadau cyflymder yn codi i 40 mya, ac na fyddai tollau bellach yn cael eu codi.

Agorwyd y bont i drenau ar Fedi 1af, 2014 ac ar ôl peth cymhlethdodau agorwyd y bont i gerbydau yng Ngorffennaf 2015.