Ganed David Tecwyn Evans mewn bwthyn o'r enw Aberdeunant Uchaf ym mhlwyf Llandecwyn yn Ardudwy ar y 5ed o Ragfyr 1876.
Chwarelwr yn chwarel y Llechwedd, Blaenau Ffestiniog oedd ei dad, Evan Evans, un o bentref Maentwrog. Priododd Evan Evans ddwy waith. Jane, merch William a Catherine Owen, Maesyllan, Llandecwyn oedd ei wraig gyntaf a ganed pedwar mab a dwy ferch o'r briodas honno. Yn weddol fuan wedi marw Jane yn 1874, priododd Evan Evans chwaer Jane, sef Catherine, a'r unig blentyn o'r briodas honno oedd David a ychwanegodd yr enw Tecwyn at ei enw bedydd ar ol iddo ddechrau pregethu.
Gellir olrhain teulu ei fam i deulu Ty Newydd, Llandecwyn, ac roedd ei thad, William Owen yn fab i Richard Owen, Ty Newydd, un o sylfaenwyr y Wesleaid yn yr ardal. Roedd ei fam hefyd yn berthynas i Edmund Evans (Utgorn Meirion), un o bregethwyr cynorthwyol amlycaf ei gyfnod.
Merch Y Las Ynys Bach oedd ei nain, gwraig dalentog a galluog a gafodd well manteision addysg na'r rhan fwyaf o'i chyfoedion. Dioddefai o iselder ysbryd, neu bruddglwyf ysbeidiol, a chyfaddefai Tecwyn iddo yntau etifeddu peth o'r aflwydd hwnnw ar brydiau.
Dechreuodd Tecwyn ei addysg ffurfiol yn Ysgol Genedlaethol Llandecwyn cyn iddo fod yn llawn bum mlwydd oed. Yn ystod ei flynyddoedd yno cafodd bump o wahanol brifathrawon, dau ohonynt yn Gymry - ond addysg Saesneg a gafodd gan y pump. Symudodd oddi yno i Ysgol Fwrdd Talsarnau. Cafodd gynnig mynd yn 'monitor' yno ond roedd ei dad yn awyddus iddo droi allan i'r byd. Bu'n was ffarm yn Y Gegin, Llandecwyn ac yn gweithio mewn siop ym Mlaenau Ffestiniog.
Yn ei ol i'r ysgol yr aeth Tecwyn a chafodd prifathro Ysgol Talsarnau, J.J.Thomas, ddylanwad mawr arno . Fe'i gwnaed yn fonitor ac yn ddisgybl athro yn yr ysgol. Buín ddisgybl athro yn Ysgol Llanfrothen hefyd am flwyddyn a Bob Owen, Croesor yn un o'i ddisgyblion.
Yr oedd Tecwyn yn edmygydd mawr o Syr O.M.Edwards, a cherddai o Landecwyn i Lanuwchllyn i weld ei arwr ambell dro. Tra yn Ysgol Talsarnau, perswadodd y prifathro i ganiatau iddo ddosbarthu Cymru'r Plant i'r disgyblion er mwyn eu swcro i ddarllen Cymraeg.
Ar fynd i'r Weinidogaeth yr oedd bryd Tecwyn ac aeth i Brifysgol Bangor gan astudio'r Gymraeg o dan Syr John Morris Jones a hefyd yr iaith Saesneg. Derbyniodd radd anrhydedd mewn Saesneg ym Mangor.
Cymerai ddiddordeb arbennig yn orgraff a chystrawen yr iaith Gymraeg a byddai yn feirniadol iawn o bawb a'u camddefnyddiai. Fe'i galwyd yn 'gabolwr iaith' a 'chywirwr gwallau' pan oedd yn olygydd Yr Eurgrawn, a hefyd dywedodd rhywun - 'tocio yw hobi Tecwyn'.
Cyfrifid ef yn un o 'hoelion wyth' y pulpud Cymraeg. Yng Nghapel Wesla Brontecwyn yn Llandecwyn y pregethodd ei bregeth gyntaf ar y Sulgwyn 1894 ac yntau'n ddwy ar bymtheg oed. Derbyniwyd ef i'r Weinidogaeth ym 1902.
Adnabyddid Tecwyn fel pregethwr, darlithydd, ieithydd ac emynydd o'r radd flaenaf. Cyfansoddodd Emyn Heddwch a enillodd y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypwl ym 1924. Cyfieithodd emynau eraill, dau ohonynt o waith Charles Wesley ac un yn drosiad ardderchog o emyn enwog George Matheson - 'Iesu, cyfaill f'enaid i'.
Bu farw Tecwyn Evans yn y Rhyl ar Hydref 27ain 1957 ac mewn ysgrif deyrnged iddo, dywedodd ei gyfaill Tegla, y bydd pobl yn anghofio amdano fel ieithydd, llenor a darlithydd, ond tra fo cof am bregethu mawr Cymru, fe'i cedwir ymhlith y cedyrn. Tybed na ellid dweud yn ogystal y daliwn i gofio amdano tra pery'r Cymry i ganu emynau'r cysegr?
Ceir Cofiant teilwng iddo gan y Parch. Tudor Davies, Aberystwyth a gyhoeddwyd yn 2002 gyda chefnogaeth Cymdeithas Hanes yr Eglwys Fethodistaidd.
Derbyniwyd y testun uchod gan Mrs E. W. Jones, Ty'n Bonc, Talsarnau gyda diolch.