Chwilio

Dechrau Ysgol Talsarnau 1954

Olwen yn blentyn

 

Magwyd fi am y 5 mlynedd cyntaf o’m mywyd ym Mhensarn, Glanywern, Talsarnau gyda’m rhieni John Richard a Sallie Jones. Fy Nhad wedi’i eni a’i fagu yno fel y gweddill o’i 10 o frodyr a chwiorydd, fel ei Mam a’i Nain o’u blaenau .

Yno hefyd ‘roedd fy Nhaid,John Jones.yn enedigol o Benrallt Neigwl Pen Llŷn. Un,fel llawer o’i gyfoedion,ymsefydlodd yn yr ardal wrth ddod i weithio i Iarll Harlech ar Ystâd Glyn Cywarch,Glanywern yn fachgen ifanc gyda’r ceffylau. ’Roedd fy Nain wedi marw chwe wythnos wedi genedigaeth ei 11eg plentyn, sef Jennie M Roberts,Garej Morfa,Harlech ym 1922. Magwyd y gweddill gan y chwaer hynaf sef Anti Nans a oedd yn byw ym Mhensarn yn fy adeg i ac yn cadw Siop ym mharlwr Pensarn.Gweddill teulu Pensarn yr adeg honno oedd Anti Gwen a oedd yn gogyddes yng Nghartref yr Henoed, Awel y Môr,Y Bermo ac Yncl Id (Idwal) dreifiwr lori Cyngor Sir Meirionnydd a oedd cyn hynny yn gweithio i Davies Bermo. Doi chwaer arall iddynt adref yn rheolaidd,sef Dora,a fu’n Ddirprwy Fetron yn Awel y Môr - Cartref Henoed cyntaf Cyngor Sir Meirionnydd cyn bod yn Fetron gyntaf Cartref Henoed ,Bronygraig,Y Bala. Daeth hi adref i edrych ar fy ôl i a ‘Nhad wedi marwolaeth fy Mam ym 1957 pan oeddem wedi symud ac ymgartrefu ym Mryntirion,Yr Ynys.

Daeth yn amser i mi fynd i Ysgol Talsarnau ym mis Ionawr 1954,newydd imi gael fy 4oed. Antur ar y naw - - Glanywern i Talsarnau meddyliwch!!!!! Cychwynais heb fy ffrind,Eirlys Cartrefle,Yr Ynys am ei bod hi a’i Mham Anti Glenys a’i chwaer Megan wedi mynd lawr am bythefnos i’r Sowth i weld rhieni Anti Glenys yn Nhreharris.

Llond y lle o blant yn y Babanod ond fawr iawn ohonynt oeddwn i’n eu hadnabod heblaw Wil Gafael Crwn.Diolchwch am Gylchoedd Meithrin sydd heddiw’n rhoi cyfle i blant gymysgu, yn ogystal a chymdogaeth ehangach i blant nag oedd yr adeg honno. Byddwn yn arfer chwarae hefo fo a’i frodyr gan fod fy Mam yn ffrindiau hefo’u Mam ‘nhw sef Mrs Morgan,Tŷ Cerrig- Nain Morgan i bawb fel ‘roedd fy mhlant i yn tyfu fyny.

Un amser cinio- a hwnnw’n ginio blasus siwr o fod - penderfynais fy mod yn mynd i grio a holodd Bennet Williams beth oedd yn bod. Gofynnodd os oedd gen i boen yn fy mol a nodiais yn gelwydd i gyd fel ateb. Gofynnodd os hoffwn fynd adref. Nodiais eto ac fe gafodd fy nghyfnither Jean Bynglo fynd a fi adref - fy ngherdded yr holl ffordd i Glanywern a hithau’n dychwelyd i’r Ysgol.

Unwaith y cefais ei chefn a dweud adref fy mod yn well ,ffwrdd a fi at Anti Shanw yn Rhif 1, Glanywern. Cynigiodd honno fwyd imi - bacwn, ŵy a bara saim ac fe gliriais fy mhlât! Wedyn,fel yr arferwn, at yr organ a phadlo gymaint ag a allwn gan chwarae rhywbeth rhywbeth ac yn mwynhau - yn hapus mewn lle yr oeddwn wedi arfer ag o a chyda pherson yr oeddwn yn meddwl y byd ohoni.

Ymhen ychydig agorodd drws y cefn a phwy oedd yno ond fy ‘Nhad! “Tyrd hefo fi” meddai’n annwyl iawn. Allan at y beic ac fe sodrodd fi yn y sêt fach ac fe badlodd fi’n ôl i’r Ysgol.

Cheisiais i byth wedyn drio’r stynt yna oherwydd gwyddwn ei chanlyniad! ‘Run cerydd na phregeth ond dysgais fy ngwers.
.