Chwilio

Llong Hwyliau-Sgwar tebyg i hon fyddai'r "Turkestan" mae'n debyg.

Cyfieithiad yw hwn o adroddiad gan Fanny ac Ethel Holland Thomas – merched Capten Lewis Holland Thomas o Gaerffynnon, Talsarnau – allan o’r llyfr “The Caerffynnon Story” a ysgrifenwyd gan Heulwen Isambard Owen a Hedydd Isambard Owen a gyhoeddwyd ym 1973.

Digwyddodd y llong-ddrylliad ar 18fed Chwefror 1876. “Mae yna long anferth yn gorwedd ar draeth Harlech!” gwaeddodd Fanny, gan daflu ffenestr y llofft yn agored yn ddiseremoni yn y golau egwan, ar ôl noson o niwl a storm. Rhythodd Ethel a hithau ar y mastiau tal, a’r peth nesaf naturiol oedd chwarae triwant o’r stafell ddysgu a gwibio i lawr ar y tywod i gael golwg ar longddrylliad y ganrif. Nid llong y glannau mo hon, na chwaith long gefnfor rymus 300 tunnell o Borthmadog, ond yn hytrach 4,000 tunnell o harddwch pur yn gorwedd yn nhonnau bychain y dwr bas. Llong rigin sgwar wedi ei hadeiladu yn Lerpwl oedd y “Turkestan” yn dychwelyd ar ei ei thaith gyntaf. Roedd yn llwythog o drysorau o’r Dwyrain Pell, ifori a sidan a pherlysiau.

Roedd y llong rhyfeddol hon gyda’i charpedi moethus, ei gwaith coed tîc llathredig a’r mân daclau o fahogani sgleiniog yn hwylio i gyfeiriad y Merswy pan, ar ôl rhyw gamgyfrifiad angheuol, trodd blaen y llong i Fae Ceredigion a gorffen ar y traeth yn Harlech. Ni sylwodd neb fod Fanny ac Ethel yn methu eu gwersi, ac yn wir ymunodd eu tad, Capten Holland-Thomas gyda hwy ar y traeth ar gais yr awdurdodau lleol fel y gallai gynnig cyngor arbenigol ar sut i achub y llong. Sylwodd fod un peth yn anarferol iawn ynglyn â’r sefyllfa. Roedd gan y llong “Turkestan” ddau gapten. Ymddangosai eu bod yn rhannu awdurdod yn gyfartal dros y llong. Capten Black oedd enw’r hynaf o’r ddau. Dyn ifanc oedd Capten Starr a chanddo wallt golau, a buan iawn y daeth yn boblogaidd yn yr ardal.

Roedd y cyngor a roddodd Capten Thomas yn ffurfiol i’r ddau gapten. “Ni fyddai ddim yn well gennyf na gallu rhoi gwahoddiad i chi eich dau i fy nghartref ond byddwn yn awgrymu na ddylech adael y llong. Gallai hynny gael yr effaith gwaethaf posibl. O hynny ymlaen am ddyddiau lawer roedd y llong “Turkestan” ar feddwl pawb. Roedd pob person abl o fewn y cyffiniau yn brysur yn tyllu ffos lydan, ddofn o gwmpas y llong ac i lawr at y dwr, yn y gobaith, y byddai’r llanw yn gallu symud y pwysau anferth. Gosodwyd planciau wedi’u hiro gyda sebon meddal o dan y cilbren. Roedd hyn yn waith poeth, ac aeth y Capten Starr a weithiai yng nghanol y criw, i lawr i’r howld gan sychu’r chwys, a chydio mewn ystenaid o ddwr i ddiwallu’i syched. Yn anffodus, nid dwr a yfodd ond paraffin crai, - diod ddeifiol ac angheuol. Ac er nad oedd hon yn llongddrylliad eto, fe hawliodd ei dioddefwr cyntaf ym marwolaeth sydyn y capten.

Roedd pawb yn disgwyl am lanw ucha’r flwyddyn. Roedd y ffos yn barod a’r planciau llithrig yn eu lle. Roedd teulu Caerffynnon i gyd ar y traeth yng nghanol y dyrfa fawr ddisgwylgar yn gwylio’r ddau dynfad yn nesu ar ben llanw ac yn cymeryd rhaffau’r llong. Roedd hi’n ymysgwyd yn ei ffos. Roedd y tynfadau’n ewynnu, a dwr y ffos yn berwi wrth i’r cilbren hir godi. Roedd y “Turkestan” yn arnofio. Ymwthiai’r tynfadau i gyfeiriad y dwr dwfn. Cleciad! Neidiodd un rhaff llong i’r awyr a nadreiddio i ffwrdd, wedi torri. Gyrrodd y dynfad di-raff draw i’r pellter, a gwyliai’r dyrfa mewn distawrwydd fel yr ymladdai’r ail dynfad i dynnu’r llong yn rhydd. Daliai tywod Harlech ei afael fel gelen. A hithau’n ben-llanw torrodd yr ail raff llong.

Daeth ton anferth gan luchio’r llong bedwar mast fel tegan, ei lluchio yn uchel – uchel ar y traeth mewn man na lwyddai byth i ddychwelyd i’r môr – lle na byddai’r llanw mwyaf ond prin gyffwrdd a’i hochrau. Doedd dim y gallai neb ei wneud bellach ond dechrau datgysylltu ei man daclau moethus a chyhoeddi’n swyddogol ei bod yn llongddrylliad. Ond cai’r morwyr lleol hi’n anodd iawn derbyn y ffaith honno. Daeth prynwr ar ôl prynwr, mewn cariad â’r llong hardd hon, gan golli’r cwbl gyda’r cilbren yn nhywod y traeth, nes yn y diwedd, gydag amser, y dechreuodd y “Turkestan” ddechrau chwalu a datgymalu.

Roedd y llong yn agos iawn at galon plant Caerffynnon a buont yn chwarae i fyny ac i lawr ar yr ysgolion diwerth ac ar hyd y deciau tawel am aml i ddiwrnod hir. Dechreuodd y plant lleol fynd yn sâl gyda dolur gwddf a gyrrwyd gweithwyr yno i brysuro gwaith pydru araf y llong hon fu unwaith yn un mor hardd. Y tro olaf i Ethel weld y “Turkestan” oedd yr adeg hynny pan ar ôl priodi, y daeth a’i gwr i weld ei hen gartref ac aethant i gerdded ar hyd traeth Harlech. Erbyn hynny, doedd yno ddim ond pwll gwyrdd eang yn nodi gorweddfan y llongddrylliad.