Chwilio

'Baner ac Amserau Cymru', Dydd Mercher, Rhagfyr 17eg, 1856.

 
TALSARNAU, - Cynhaliwyd trengholiad ddydd Gwener diwethaf o flaen Mr Griffith Jones Williams, trengholydd, ar ddau gorff, sef William Owens ac Edmund Jones, pa rai oedd yng ngwasanaeth L. H. Thomas Ysw., Cae'r ffynnon, y rhai a gafwyd wedi boddi wrth groesi y Traeth Bach.
Gan fod yr amgylchiad yn un mor anghyffredin, rhoddwn y manylion i lawr. Y dydd Mawrth blaenorol, yr oedd y ddau, ynghyd ag un arall, John Owen, Dyffryn, wedi bod yn Porthmadoc, yn ymofyn llwyth o geryg nadd; ond trwy i rhyw beth dorri, gorfu iddynt adael y llwyth ar y traeth.
 
 
Bore dranoeth, aethant yn fore iawn i ymofyn y llwyth, ac ar ol ei ddadlwytho yn Cae'r Ffynnon, cychwynodd y tri dyn gyda'r wedd drachefn i fyned i Porthmadoc. Erbyn hyn, yr oedd y llanw yn dyfod i mewn, ac yr oedd pawb oedd yn eu gweled yn rhyfeddu eu bod yn gwynebu y traeth a'r llanw mor uchel. Ond ymlaen yr oedd yn rhaid iddynt gael myned. Ar ol myned at y dwfr, fe aeth y gyrwr sef W. Owen ar gefn y ceffyl blaenaf, ac E. Jones; a J. Owen, yn y wagen. Canfyddodd y dynion oedd ar y lan, eu bod yn dal yn rhy agos at y llyn oedd gerllaw y rhyd, a gwaeddasant, ond nid oeddynt yn clywed dim gan swn y ceffylau yn y dwfr; a'r mynyd nesaf, dyna y wagen a'r ceffylau, a'r tri dyn, o'r golwg. Ni welwyd un olwg ar W. Owen, na'r tri cheffyl mwy. Bu E. Jones a J. Owen yn ymaflyd yn eu gilydd am beth amser, ond cydiodd E. Jones mewn darn o blanc, a J. Owen yn y sach yr oedd bwyd y ceffyl ynddi, a daliwyd ef i fyny ar hono hyd nes y daeth cwch ato.
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Tybir fod y gyrwr, yr oedd ar gefn y ceffyl blaenaf wedi dal yn rhy uchel i fyny o'r rhyd, at y llyn, yr hwn sydd ar ymyl y rhyd; a chan fod y ceffylau fel y tybir wedi dechrau nofio, darfu i'r llanw, yr hwn oedd yn dyfod gyda nerth mawr, eu cymmeryd dros y dibyn i'r llyn, yr hwn a lyncodd y tri cheffyl, y wagen, a dau o'r dynion i'w grombil mewn moment. Dywed John Owen nad anghofiai efe byth mor twrw mawr a glywodd yn ngwaelod y llyn gan y ceffylau. Y mae craig yn ngwaelod y llyn, ac y mae yn debyg fod y ceffylau yn ymdrechu arni. Yr oedd yn rhyfedd na buasai y ceffylau yn nofio i'r lan, ond yr oedd y fath sugn-dyniad yn y llyn, a'r awenau yn rhwym, y mae yn debyg, fel yr oedd yn amhosibl iddynt nofio i'r lan. Y mae cyrff y ddau ddyn wedi eu cael. Yr oedd un ohonynt yn wr priod a chanddo dri o blant. Gobeithio yr edrych Capten Thomas arnynt. Gohebydd.
 
Derbyniwyd yr adroddiad uchod gan Helen Jones gynt o Maes Mihangel, Yr Ynys gyda diolch.