ANNIE HARRIET HUGHES : GWYNETH VAUGHAN (1852-1910)
Nofelydd a bardd Cymreig oedd Annie Harriet Hughes, sy’n fwy adnabyddus wrth ei henw barddol – Gwyneth Vaughan.
Ganed yn Bryn y Felin, Eisingrug, Talsarnau, Meirionnydd, ar y 5ed o Orffennaf 1852, y cyntaf o bump o blant i Laura a Bennet Jones. Melinydd a masnachwr oedd ei thad a feddai ar lyfrgell ragorol o ran ansawdd o lyfrau bron yn gwbl yn Gymraeg. Gŵr diwyd a chraff, o allu meddyliol cryf. Calfin selog ac yn flaenor yng Nghapel yr Hen Gorff – Capel Bethel, yn Nhalsarnau.
Roedd mam a nain Gwyneth Vaughan yn hynod am ei duwioldeb a’i mam yn wraig brydferth iawn. Ni chafodd hi lawer o addysg ond yr oedd yn byw yn ei Beibl ac roedd yn foneddiges yng ngwir ystyr y gair. Yn ei nofel “O Gorlannau’r Defaid” ceir darlun anfarwol o’i rhieni gan Gwyneth Vaughan. Hwy oedd Robert a Luned Fychan.
Bu ei meddwl chwim o fantais i Gwyneth Vaughan pan gychwynnodd ei haddysg yn ysgol Ty’n Llan ger Eglwys Llandecwyn. Cerddai yno o Bryn y Felin bob bore Llun, ac arhosai gyda’r prifathro a’i deulu hyd fore Gwener bob wythnos. O Aberaeron, Ceredigion y deuai’r prifathro Mr Edwards. Roedd ganddo ddwy ferch a Saesneg oedd iaith yr aelwyd. Dysgodd Gwyneth Vaughan sut i ysgrifennu’n dda iawn tra yn yr ysgol honno, ac yn ei gwmni y dysgodd yr iaith Saesneg yn rhugl a bu ef yn sicr yn gaffaeliad mawr i’w chychwyn ar ei ffordd i fod yn llenor. Mae Gwyneth Vaughan yn son am hanesion yn yr ysgol yn ei llyfr ‘Bryn Ardudwy a’i Bobl’ a’r modd yr oedd y prifathro, er yn rhagorol yn ei waith, yn gurwr di-arbed ar blant drwg. Yna pan anwyd ei brawd bach aeth i Ysgol Fritanaidd Talsarnau er mwyn cadw llygad arno.
Yn ystod ei hieuenctid, dysgodd lawer am draddodiadau a diwylliant ei hardal enedigol – yn y cartref a hefyd yn y felin, lle deuai bobl yr ardal yn eu tro i brynu blawd a hoffai Gwyneth wrando ar sgwrs y trigolion ar bynciau’r dydd ac i gasglu stôr o hanesion.
Wedi wyth mlynedd o ysgolheictod, gadawodd yr ysgol ac aeth i ddysgu gwneud hetiau i Lan Ffestiniog. Bu’n dilyn ei galwedigaeth adref yn Nhalsarnau am beth amser, cyn symud i siop Coed Helen House yng Nghlwt y Bont, ger Deiniolen, Sir Gaernarfon, ac yn dilyn marwolaeth ei mam a’i thad yn 1874, priododd mab y siop lle gweithiai.
Perswadiodd ei gŵr, John Hughes Jones, i fynd ymlaen i’r coleg i astudio meddygaeth. Graddiodd yn feddyg a buont yn byw am gyfnod yn Llundain tra y parhai ef ei efrydiau yn Ysbyty Sant Bartholomew. Roedd yn ŵr galluog a charedig, ond fel llawer o’r un galwedigaeth ag ef, cymerodd ei lithio at y ddiod a dechrau gofidiau fu hyn iddynt yn Llundain.
Rhoesant heibio’r cyfenw ‘Jones’ gan ddefnyddio ‘Hughes’ yn unig. Yn ystod ei hamser yn Llundain, dysgodd Gwyneth Ffrangeg, Eidaleg ac Almaeneg ac yno ganwyd tri o’u pedwar plentyn – Arthur, Gwilym (Guy) a Laura.
Yn dilyn dirwyiad yn iechyd ei gŵr, a hynny oherwydd caethiwed i alcohol, daethont yn ôl i Gymru yn 1888 a byw yn Treherbert, Sir Forgannwg ac yno ganwyd Roy, eu mab ieuenga. Erbyn hyn roedd Gwyneth wedi casglu digon o wybodaeth am feddygaeth i roi’r argraff i rai mai dyna oedd ei galwedigaeth ac roedd rhai wedi gofyn ei chyngor am faterion meddygol. Gweithiodd John Hughes fel un o feddygon y gweithfeydd glo ac yma canolbwyntiodd Gwyneth ar gynyddu gwybodaeth ymhellach. Bu’r teulu’n byw yn Treherbert rhwng 1888 a 1891 ac yn ystod y blynyddoedd yma’r astudiodd y Gymraeg â’i holl enaid. Ar ôl hyn roedd yn barod yn gorfforol ac yn feddyliol i wella cyflwr ei chenedl ac ni fu taw ar ei hareithio, na’i hysgrifennu, tan ei marwolaeth yn 1910.
Dirywiodd iechyd ei gŵr a bu farw yn ifanc yn 1902; symudodd Gwyneth i fyw i Fangor a dechreuodd lenydda’n broffesiynol ar anogaeth ei ffrindiau, ac er ei thloted, llwyddodd i roi yr addysg orau i’w phlant.
Yn 1876, yr union adeg y cychwynnodd gofidiau Gwyneth Vaughan, sefydlwyd y British Women’s Temperance Association yn Newcastle yn Lloegr. Ni wyddys yn union pa bryd y dechreuodd ei hymgyrch ddiflino dros ddirwest gydol ei hoes.
Rhwng 1893 a 1896 sefydlodd 143 cangen o’r ‘British Women’s Temperance Association’. Siaradodd yn gyhoeddus yn erbyn y ddiod feddwol, oherwydd roedd hyn wedi lladd ei gŵr yn araf. Areithiau drwy Gymru, pan nad oedd yn arferiad i ferched wneud gwaith cyhoeddus. Bu’n ysgrifennydd mygedol y ‘Welsh Union of Women’s Liberal Association’ am 10 mlynedd, yn un o sefydlwyr ‘Undeb y Ddraig Goch’ a ‘Cymru Fydd’ ac yn is-lywydd ‘An Comunn Gaedlealach’ yr Alban yn 1903.
Roedd yn aelod o Orsedd y Beirdd ac roedd yr Eisteddfod yn agos iawn at ei chalon. Bu’n beirniadu yn Eisteddfod Caernarfon 1906 a chael mwynhad wrth wneud y gwaith. Hi oedd yr unig ferch ar fwrdd gwarcheidwaid Caernarfon a Chyngor Dosbarth Gwyrfai o 1894 i 1901.
Daeth Gwyneth Vaughan yn enwog fel llenor ac ysgrifennai i bapurau lleol a chylchgronau fel Cymru’r Plant, ‘Perl y Plant’, ‘Y Genhinen’, ‘Papur Pawb’ a Cymru O.M.E. O tua 1897 ymlaen bu’n golygu Colofn y Merched yn Yr Eryr 1894-95, Y Cymro 1906-07 a’r Welsh Weekly 1892. Roedd yn aelod ar lawer o bwyllgorau a bu’n ysgrifennydd Cymdeithas Rhyddfrydwyr Cymru am 10 mlynedd. Roedd yn un o sefydlwyr Undeb y Ddraig Goch a Chymru Rydd. Ymhlith ei gweithiau mae pedair nofel – O Gorlannau’r Defaid 1905, Plant y Gorthrwm 1908, Cysgodau y Blynyddoedd Gynt (yn y Brython 1907-08 a Troad y Rhod (yn y Brython eto 1909 – nas gorffennwyd).
Bu’n awdures boblogaidd yn ei chyfnod ac roedd ei gwaith yn gymeradwy gan feirniaid llenyddol fel O M Edwards. Etifeddwyd ei dawn llenyddol gan ei mab Arthur, 1878 i 1965, a ymfudodd i’r Wladfa yn 1911 ac roedd yn olygydd barddoniaeth yno. Priododd ag Ana Maria Ulson, Erw Fair ac ysgrifennai’n rheolaidd i’r papur Cymraeg ‘Y Dyfodol’. Ef oedd tad Irma ac Arel Hughes.
Un o ddyfyniadau Gwyneth Vaughan yw “Gofalwch rieni, fagu gwroniaid ac arweinwyr y dyfodol ar eich aelwydydd yma, a chofiwch yr hen ddihareb – ‘ni chyfyd gwlad ddim uwch na’i charreg aelwyd.”
Bu farw ar 25 Ebrill 1910 ym Mhwllheli, yn 58 mlwydd oed, a’i chladdu ym mynwent Eglwys Llanfihangel y Traethau, Ynys, Talsarnau ar 29 Ebrill. Mae ei merch, Laura Kathleen, a anwyd yn 1885 ac a fu farw Awst 1920, wedi’i chladdu yn yr un bedd â hi.