Chwilio


Torri Tywyrch 1Oddeutu hanner milltir o’r pentref rhed yr afon Ddwyryd heibio i Ynys Gifftan a Phortmeirion ar ei thaith i’r môr drwy’r hyn a elwir y Traeth Bach. Pan nad yw’r llanw’n uchel, mae darn helaeth o draeth rhwng y clawdd llanw a’r afon ei hun a rhan helaeth ohono wedi ei orchuddio â gwair. Mae hwn yn dir gwyrdd maethlon ac mae llawer ohono wedi ei rannu a’i ffensio gan ffermwyr lleol. Dywedir fod cig y defaid fu’n pori yma yn arbennig iawn ei flas.

Flynyddoedd yn ôl, tu draw i ffiniau pellaf y ffermydd, ar dir a elwir yn Dir Y Goron, datblygodd diwydiant fu’n fodd i osod Talsarnau ar y map fel petae. Diwydiant yn wir y byddai Bob Owen, Croesor wedi bod wrth ei fodd yn ei gynnwys yn ei lyfr – Y Diwydiannau Coll. Ond nid felly y bu, gan i ddiwydiant y Torri Tywyrch ddigwydd ar ôl i Bob Owen gyhoeddi ei lyfr ef. Ond bellach mae’r diwydiant hwn hefyd wedi dod i ben ers nifer helaeth o flynyddoedd. Cyfnod cymharol fyr fu hanes y gwaith, hynny yw rhwng 1953 a 1962 ond yn ddiwydiant pwysig yn ei ffordd ei hun yn y cyfnod hwnnw. Y cwmni a sefydlodd ar draeth Talsarnau oedd un Maxwell M. Hart – London Cyf., o Reading yn Berkshire, - cwmni yn wreiddiol o Gaeredin yn yr Alban.

Rhwng 1953 a 1962 roedd galw sylweddol am dir glas o ansawdd da at bwrpas caeau pel droed, lawntiau tenis a lawntiau bowlio. Sylweddolwyd fod y tir ar draeth Talsarnau yn ateb y diben i’r dim ac yn y cyfnod hwn cyflenwyd tywyrch ar gyfer lawntiau bowlio mewn lleoedd fel: Worthing, Acton, Alder Marston, Chester Le Street, Durham, Ffatri Hoover Merthyr Tydfil; mynwent Wandsworth; lawntiau tenis Wimbledon a phlanhigfa cae pel droed Wembley a llawer o leoedd eraill yn Lloegr.torri tywyrch02

Yn ystod y cyfnod byr hwn o lai na deng mlynedd, bu nifer yn gweithio yno. Un o’r enw Albert Jackson oedd y ‘foreman’ arferai fyw yn “Y Cottage” yn y Stryd Fawr yn y pentref. Un fu yno yn gweithio am y cyfnod i gyd ac a fu mor garedig a chyflwyno’r hanes hwn oedd Derwyn Evans, sydd yn awr yn byw yn Llandecwyn, rhyw 2 filltir o Dalsarnau a sydd â llawer o atgofion am y cyfnod hwn. Enwau eraill fu’n gweithio yno oedd Wil R, Tanygrisiau; Ben Bowen; Ifan Hughes, Yr Ynys; Gwynogfryn Evans – brawd Derwyn; Arwyn Williams – Ali Bwtsh; Bili Thomas, Cilfor; Emrys, Stryd Gefn a Gwynfor Lloyd o Gwm Cynfal. Er mwyn cludo’r tywyrch i ben eu taith bu nifer yn gyrru’r loriau. Mae enwau rhai o’r gyrrwyr yn cynnwys David John Williams, Porthmadog; Jack Morris, Porthmadog; Harri Jones, Blaenau Ffestiniog; Twm Harlech, Blaenau Ffestiniog a Robin Tudur Hughes fu’n gweithio i gwmni loriau T Glyn Williams a Williams Brothers, Queensferry – loriau oedd yn cario 16 tunnell ar y tro. Rhyngddynt buont yn gyfrifol am gario miloedd o lathenni sgwar o dywyrch o draeth Talsarnau.

torri tywyrch03