Chwilio

Ei enw yn llawn oedd Richard Arthur Warren Hughes OBE (19/4/1900 – 28/4/1976). Ganwyd ef yn Weybridge, Surrey yn fab i Arthur Hughes, gwas sifil, a'i fam oedd Louisa Grace Warren oedd wedi ei magu yn Jamica.

Cafodd ei addysg mewn ysgol fonedd o'r enw Charter House, ac aeth ymlaen i goleg Oriel yn Rhydychen.

Yr oedd yn fardd, dramodydd, nofelydd a chritig llenyddol yn cydoesi a llawer o enwogion ei ddydd. Cyhoeddodd gerddi a straeon mewn amryw gylchgronau ond ei ddrama gyntaf “The Sisters Tragedy” (1922) goronodd ei yrfa yn y Brifysgol.

Roedd ganddo gysylltiad teuluol â Chymru a daeth yma gyntaf pan yn 8 oed a syrthiodd mewn cariad â'r wlad. Pan yn 16 oed ac yn ddisgybl yn Charter House cafodd ddod i Harlech i aros gyda Robert Graves a chael bwthyn bach wrth Maes y Neuadd – sef yr Ysgol Fach lle treuliai amser bob gwyliau ysgol. Cafodd fywyd teuluol unig ar ôl colli brawd a chwaer pan yn blentyn dyflwydd oed a cholli ei dad pan yn chwech. Magwraeth unig gafodd gyda'i fam.

Ysgrifennodd Richard Hughes lawer o farddoniaeth, dramau a storiau plant ond y llyfr ddaeth ac enwogrwydd iddo oedd “A High Wind in Jamaica” yn 1929. Eraill o'i nofelau oedd “In Hazard”, “Fox in the Attic” a “The Wooden Shepherdess.”

Yn 1932 priododd yr arlunydd Frances Bazley a byw am rai blynyddoedd yng Nghastell Llacharn, Sir Gaerfyrddin lle'r oedd Augustus John yn westai aml a hefyd Dylan Thomas a'i wraig Caitlin. Dyma lle yr ysgrifennodd ei ail nofel “ In Hazard” yn 1938.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu yn gweithio fel gwas sifil gyda'r Llynges. Yn y 50au cydweithiodd ar gyfrol o Hanes Swyddogol y Rhyfel – gwaith sydd i'w weld yn y Llyfrgell Genedlaethol. Bu'n darlithio yn Llundain yn ysbeidiol hyd at 1956 cyn dod i Ardudwy yn ôl. Yn 1946 yr oedd yn cartrefu gyda'i wraig a'u pum plentyn ym Môr Edrin lle treuliodd flynyddoedd lawer ar ymyl y traeth yn yr Ynys ar draws yr afon o Portmeirion.

Yr oedd yn warden ffyddlon yn Eglwys Llanfihangel, a byddai yn darllen llith yn Gymraeg bron bob Sul. Bu farw yn 1976 a rhoddodd y teulu ffenestr liw hardd gyferbyn a'r organ i gofio amdano. Ffenestr oedd hon yn dangos Tecwyn Sant yn dod a Christnogaeth i'r ardal yma - Ardudwy, yn y chweched ganrif.