Chwilio

Copi o erthygl yn y Gwyliedydd Hydref 2004

SOAR  TALSARNAU  1804/1904 a PHETH O HANES DIWYGIAD 1904 - 05

Cynhaliwyd yr Oedfa Wesleaidd gyntaf yn ardal Talsarnau ar 4 Tachwedd 1804.  

Y pregethwyr oedd y Parch Edward Jones, Bathafarn a Mr Williams Parry, Llandegai a gyd-lafuriai ar Gylchdaith Caernarfon.  Yn nhŷ Robert Isaac, Ty’n y Groes, Llandecwyn (Bryn y Bwa Bach fel y’i galwyd amser hynny) y pregethasant.  Ym mhen y mis, ffurfiwyd eglwys yno pryd yr ymunodd amryw.  Yno yr arhosodd yr Achos hyd nes i Gapel Soar gael ei adeiladu a’i agor nos Iau a dydd Gwener, 2 Gorffennaf 1824.

Soar2Fe deimlai’r eglwysi – Soar a Brontecwyn – mai priodol iawn fyddai dathlu Canmlwyddiant yr Achos yn 1904 gyda diolchgarwch a brwdfrydedd mawr.  Penderfynwyd cynnal Noddachfa Fawreddog i’r amcan uchod tua Hydref 1904 gyda’r ddwy eglwys yn uno yn yr ymgymeriad.  Yr amcan oedd cael trysorfa o £400, swm mawr iawn yr adeg hynny.  Roedd ganddynt ffydd anhygoel y gallent gyflawni y nôd roddwyd iddynt.  Dyddiad y Bazaaar oedd 15, 16 a 17 Rhagfyr 1904.  Meddyliwch roi tri diwrnod at y fenter ychydig ddyddiau cyn y Nadolig.  Nid oedd gan neb ohonynt y syniad lleiaf y byddai Diwygiad 1904 yn ei nerth erbyn hynny ond mae’n amlwg fod y gwynt yn chwythu yn barod!  Dichon i’r ysbryd nerthol hwnnw eu cynorthwyo i gyflawni’r cwbl o’r ‘cynlluniau a fyddont o fantais barhaol i waith Duw yn y gymdogaeth’.  Codwyd tŷ gweinidog hardd – Bryn Awel, helaethwyd y fynwent a chliriwyd y ddyled ar Seion.

Fe ddaeth y Diwygiad yn ei nerth i Soar ac fel hyn fe’i darluniwyd gan fy mam (Maggie Gwyneth Jones) yn ei geiriau ei hun.  Rwy’n cofio’r Diwygiad yn dda iawn, er nad oeddwn ond chwech oed a fy chwaer Lisi yn wyth a Robin fy mrawd yn bedair oed.  Fe fyddai nhad a mam yn mynd i’r cyfarfod gweddi bob nos a ninnau ein dwy yn gwarchod, ond un noson aeth Robin i grio’n ofnadwy am awr heb stopio a minnau bron mynd i grio efo fo.  Eisiau mam oedd o, a doedd dim i’w wneud ond ei godi a lapio siôl lwyd amdano a’i gario, bob yn ail, i Soar i gyfarfod mam a nhad.  Roeddynt yn dal yn y capel ac aethom i dŷ perthynas, tŷ nesa i’r capel.  Fe stopiodd Robin grio ac aeth i gysgu.  Wedyn aethom ein dwy at y capel i edrych oedd sôn am mam a nhad yn dwad.  Roedd llond y capel o bobl a phlant yn gweddio ar draws ei gilydd, llond y sêt fawr o bobl yn gweddio, naill ar ôl y llall, a’r bobl yn y seti yn gweiddi “Haleliwia, Bendigedig ar ei Ben bo’r Goron” a’r lleill yn gorfoleddu ar eu gliniau yn y seti.  Roedd yn ddeg o’r gloch erbyn hyn a daliant ati.  Roedd rhai yn cychwyn adref tua un ar ddeg a ninnau efo nhw, ond dyna ryw hen wraig, Mari Williams, oedd yn byw wrth ymyl, yn dod i’r cyfarfod ac yn gweiddi, “Ewch yn ôl i’r capel” meddai, “Mae goleuni wedi dod fel bwa dros y capel.”  Ac yn eu holau aeth pawb gan ail-ddechrau gorfoleddu wedyn tan hanner nos a ninnau bron â chysgu ar ein traed ac ofn wrth gerdded adref, yn dynn ym mraich mam, a nhad yn cario Robin oedd wedi cysgu ers oriau yn nhŷ Aunty Laura.  

Anghofiaf i byth y noson honno.  Ar ׅôl hynny, fy nhad ei hun fyddai’n mynd a mam ar noson arall, bob yn ail.  Roedd y cyfarfodydd yn Soar a Bryn Stryd, bob yu ail noson ac felly am wythnosau.  Y bobl ifanc, y canol oed a’r hen yn gweddio a gorfoleddu a chael hwyl ardderchog – rhai yn crio a’r lleill yn mynd i lewyg wrth gyfaddef eu pechodau gerbron Duw – bob ystafell a chapel yn llawn i’r drws, amser bendigedig a hwyliog a dwsinau yn rhoi eu hunan o’r newydd i’w Creawdwr a’r dylanwad yn dal hyd heddiw.  Felly nid rhyfedd ein bod yn caru’r pethau gorau gan mai felly y cychwynnwyd ni yng nghân a swn Diwygiad 1904/05.

Pan euthum i’r Ysgol, yr un peth oedd yn y fan honno – Cyfarfod Gweddi amser chwarae yn iard yr Ysgol.  Pan yn hel priciau yn y coed ar ôl dod adref o’r Ysgol, hel y priciau yn gyntaf, Cyfarfod Gweddi wedyn.  Yr hogiau ar ben y coed yn torri priciau crin ac yn canu yn y fan honno ‘Ar ei ben bo’r goron a Diolch, Diolch Iddo’ nes oedd hen greigiau Clogwyn Gwyn yn diasbedain.  Gweiddi ‘Haleliwia’ yn ôl, yn hirach o lawer na ni.  Roeddwn yn gwrando ar Billy Graham rhyw noson o Kelvin Hall yn dweud fel roedd y bobl yn gwahardd i’w ddisgyblion ganmol Duw a dyma ei eiriau – “If my disciples stop preaching, the Rocks will shout aloud.”  Os wyf yn cofio’n iawn, yn Egryn ger y Dyffryn y dechreuodd y Diwygiad.  Roedd cannoedd yn rhoi eu hunain o’r newydd i’r Arglwydd ac ni chlywyd erioed weddio

 tebyg.  “Roedd y llen yn denau a’r Nef yn agos iawn atom”, meddai’r Parch D Tecwyn Evans yn ei gyfarfod pregethu olaf yn y Penrhyn.

Gwnaeth yr hyn a glywodd ac a welodd fy mam o’r Diwygiad, argraff arbennig arni ac a ddylanwadodd arni gydol ei hoes.  Wrth gofio’r oedolion yn ein capeli pan oeddem yn blant, cofiaf yn dda gymeriadau mor wir grefyddol a Christnogol oeddynt ac ôl y Diwygiad ar eu bywyd.  Effeithiodd y Diwygiad hefyd ar eu plant hwythau.

Fel yr awgrymodd fy mam, credai mai yn Egryn, Dyffryn Ardudwy y dechreuodd y Diwygiad ac nid rhyfedd hynny gan i’r ardal deimlo’r dylanwadau’n rymusach nag unrhyw ardal yng Nghymru.  Yr arweinydd yno oedd Mrs Mary Jones, Islaw’r Ffordd, ffermdy yn y gymdogaeth.  Roedd yn wraig ddistaw, encilgar, ddiymhongar ac o alluoedd cyffredin, fel y dywed E W Evans, argraffydd o Ddolgellau, ond meddiannwyd hi gan awydd angerddol i ennill ei chymdogaeth at Grist.  Yn Egryn yr addolai a chynhaliwyd cyfarfodydd gweddi difwlch yn y capel drwy’r haf.  Gweddiai’n barhaus am gael bod yn foddion yn llaw Duw i ennill y gymdogaeth i Grist.  Tua dechrau’r gaeaf, dechreuodd yr hinsawdd gynhesnu a’r awyrgylch deneuo.  Cymerodd yr awennau yn ei llaw ar roedd wrth fodd calon y gynulleidfa.  Gweddiai dros ei chymdogion ac yn fuan roedd yr holl ardal yn mynd i’r capel.  Un noson rhoddodd ar ddeall ei bod yn teimlo sicrwydd y gwyddai pwy o’r gynulleidfa a fyddai’n aros ar ôl y seiat.  Ar y ffordd i’r capel gwelwyd goleuni yn yr awyr a dywedodd fod y goleuni hwnnw yn arweiniad iddi dros bwy i weddio ac yn sicrwydd bod rhywrai penodol i gyflwyno ei hunain i Grist.  Gwelwyd y goleuni gan amryw nad oeddynt yn barod i gredu.  Roedd tua deunaw yn bendant eu bod wedi ‘gweld y goleuni’ a llawer ohonynt yng nghwmni ei gilydd yn ei ddisgrifio fel colofn o dân disglair.  Yn eu mysg yr oedd tri o weinidogion.  Dywedwyd i Mrs Jones, wrth weld y goleuni un noson, gael neges oddi uchod ac iddi fynd i ddau fwthyn cyn mynd i’r capel.  Ar ei gweddi’r noson honno yng nghapel y Wesleaid, diolchodd am gael ei harwain i ‘fwthyn hen wraig ar derfyn ei dyddiau yn rhoi ei hunan i Grist ac i fwthyn wraig sâl sydd wedi bod yn gorwedd yn hir ac o’r diwedd yn rhoi ei hun i Ti i’w chadw’.  Bu hi’n foddion i ychwanegu pumdeg ac un at rif yr aelodau yng nghapel bach Egryn, un ar ddeg yn y Dyffryn, deuddeg yng nghapel y Calfiniaid a phedwar yng nghapel y Wesleaid yr wythnos honno.

Dywedwyd i’r Diwygiad gyffroi ardal Llanegryn ger Tywyn, Meirionnydd pan ddaeth yr holl enwadau crefyddol at ei gilydd i ffurfio cyfarfodydd gweddi undebol.  Un noson yn y capel Wesla teimlwyd fod ‘Ysbryd byw y deffroadau wedi disgyn yn ei nerth i lawr’, mor rymus fel roedd pobl yn llewygu yn yr olwg ar eu cyflyrau, hen elynion yn cofleidio ac yn cusanu ei gilydd mewn maddeuant a’r gynulleidfa wedi’i syfrdanu ac yn foddfa o ddagrau.  Roedd wedi hanner nos arnynt yn mynd adref.  Y noson ddilynol roedd y cyfarfod yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd ac fe ddaeth 26 ymlaen i weddio, pob un ohonynt dan deimlad dwys a dagrau.  Erbyn deg o’r gloch roedd y llanw wedi codi mor uchel fel y daeth dau ddwsin ymlaen yn ychwanegol – hen ac ifanc, brodyr a chwiorydd, yn gweddio ar draws ei gilydd yn eu dull ac yn eu geiriau eu hunain.  Degau ymhob rhan o’r capel yn canu, eraill yn adrodd profiadau, a’r gynulleidfa yn foddfa o ddagrau.  Llywyddwyd gan y Parch D James.  Roedd ef wedi’i ysgwyd gan ysbryd y diwygiad wrth dreulio wythnos yn Sir Forgannwg yn gwrando ar Evan Roberts.

Ond i gloi gyda Soar, llawenydd oedd clywed fod y criw bach o swyddogion yn dathlu dau ganmlwyddiant yr achos drwy adnewyddu a phaentio’r adeilad a bod y gwaith wedi’i ddechrau.  Rhestrwyd y capel gan CADW fel adeilad o bensaerniaeth arbennig ac o ddiddordeb hanesyddol yn Nhachwedd 1966.  Mae’n gapel hardd a llongyfarchaf y swyddogion am ei gadw felly, a’n gweddi yw y caiff ei gadw ac y bydd yr achos yno am genedlaethau i ddod.

                                                                                                              R Emrys Jones, Sully.