Chwilio

Mynd i Lenyrch yn 15 oed, wedi gweini cyn hynny bedair blynedd, ar ôl marw fy mam, cyn cyrraedd unarddeg oed. Llenyrch yn gartref bendigedig.

Y cyflog – chweigian yr wythnos – 50c heddiw, am ugain mlynedd. Mynd oddi yno am gyfnod ar ôl priodi i fyw i Manod,ond yn ôl eto ein dau y tro hwn i orffen yr ugain mlynedd. Bwyd iach, wedi ei gynhyrchu ar y fferm, sef siot, Bara Ceirch wedi ei falu yn fân, a llaeth enwyn arno, Brwas, Posel dau laeth – berwi llefrith a’i dywallt ar ychydig o laeth enwyn, Llymru, Uwd, Ceirch neu Reis, Sican Gwyn, Cosyn Caws Cartref, Mel cartref, roeddynt yn cadw gwenyn, hefyd gwneud Medd – os yfech lawer o hwnnw, byddech yn sicr o fod yn feddw, ond ei ddefnyddio yn gyffur yr oeddynt yno, ac wedi oeri yn drwm, yfed cwpanaid, ac i’r gwely a byddech yn sicr o gael gwellhad.

Margiad a Richard Evans oedd yn byw yno. Hen lanc a hen ferch. Cymeriadau ardderchog, aelwyd grefyddol, eto digon o hiwmor iach – peth go brin heddiw. Roedd yno Gapel Llenyrch, Cangen o Gapel Prespyteraidd Gellilydan. Nid ar dir Llenyrch, ond ar dir y fferm nesaf, sef Penbrynpwlldu. Yr oedd wedi ei gau ychydig cyn i mi fynd yno. Llawer glywais amdano, gan y ddau, ar fin nos o flaen y tân mawn, a’r gannwyll frwyn yn oleu inni. Ni welais fatsen am gyfnod wedi mynd yno, oherwydd byddent yn rhoi dwy neu dair o fawn duon i’w rhyddhau yn y twll lludw y noson cynt, ac yna eu codi i’r grât fawr yn y bore, rhagor o fawn arnynt, a byddai tân yn fuan iawn. Bum yn gwneud llawer o ganwyllau brwyn. Wnai bob brwyn mo’r tro. Eu pilio o fewn ychydig, gadael un plisgyn ar ôl, yna eu rhoi mewn saim poeth mewn padell ffrio fawr, ac yn olaf eu cadw mewn til pwrpasol o dan y simdde fawr. Yr oedd yno Lyn Llenyrch, lle byddai llawer yn cerdded yno i bysgota, ac yn dal llawer o bysgod, - rhai yn mynd ar y   cwch, ‘Roedd arno lilis, gwyn a melyn, yn werth ei gweld ar wyneb y Llyn. ‘Roedd yn olygfa hardd, natur ar ei goreu.

Byddem yn eistedd o dan y simdda fawr, a hen hen swmer derw ar hyd silff ben tân, digon o le yno. Yr oedd craen gloew uwch ben y tân mawn, a’r crochan uwd yn ffrwtian berwi yn araf drwy y prydnhawn, a phawb yn ei dro, yn rhoi tro iddo gyda’r uwdffon bwrpasol i’r gwaith hwnnw. Erbyn hyn mae dros bymtheg ar hugain o flynyddoedd wedi mynd heibio. Bu Margiad Evans yn mynd i dy o’r enw Ty’n Llan sydd wrth Eglwys Llandecwyn, siwrnai faith dair gwaith yr wythnos, i gael ychydig ysgol. Talu wrth gwrs. Un athraw, ac un fraich ganddo, meddai hi. Gwneud syms, ‘add up’ a ‘take away’ oedd hi yn ei galw, a dysgu darllen. Cael ei dysgu un diwrnod i gyfrif dros ddeg. Ar ôl deg meddai yr athro rhaid ichi ‘carry one’. “Wel Syr” meddai hithau, “fuasai ddim gwell imi ‘carry two’ rhag ofn bod ‘one’ yn rhy fach?” ‘Roeddynt wedi arfer mewn lle pell fel Llenyrch brynu sachaid o siwgwr, bagiad o reis, hanner pwn o flawd a chist gyfan o de, felly roedd y syniad yn un da!

Llenyrch

Byddai Richard Evans yn ddeddfol iawn hefo mynd i’w wely. Yr oedd wrth ei ddwy ffon ers amser maith. Pan fyddai yr hen gloc mawr yn taro naw, byddai yn dweud,”Wel Margiad, mi awn ni i’n gwlau tra cawn ni.” Dro arall dywedai, “Mi awn eto heno i roi ein gofal i’r Arglwydd.” ‘Rydym wedi cael gweld llawer profiad ar ôl hynny na chaem y fraint na’r cyfle i fynd i orffwys oherwydd gwaeledd.

Cofiaf yn dda, am ddwy garreg, un fawr gron, a’r llall yn llai, un i ddyn, ac un i ferch. Cerrig gorchest oeddynt.Byddai dynion cryfion yn cerdded o Tanygrisiau, ac eraill o bell, at derfyn tir Llenyrch a Cancoed Uchaf i geisio codi y garreg fawr. Clywais Richard Evans yn dweud mai ewythr i mi fu yn llwyddiannus i’w chodi oddi ar y ddaear, sef y diweddar Howel Parry. Bu yn was yn Llenyrch am lawer o flynyddoedd. Ei gartref oedd Cae’r Gof, sydd erbyn heddiw o dan Llyn Trawsfynydd. ‘Roedd sôn am ei gryfder.

Bu Gwynoro fy mrawd, efaill i Goronwy yn Llenyrch hefyd am dair blynedd ar ddeg. Bu farw yn 38 oed. ‘Rwyf yn cofio yr haf cyntaf i mi fynd i Lenyrch – haf poeth, a chaeau mawr o wair eisiau eu casglu yn dyrrau yn barod i’w cyrchu i’r ty gwair. Rhes ohonom wrthi, hefo cribiniau bach – dim sôn am y peiriannau sydd yn gweithio yn lle dyn heddiw. Tri o geffylau, gwagen fawr, a ceir llusg. Amser difyr dros ben. Un prynhawn, doedd y gwair ddim digon sych i’w gario am rhyw ddwyawr, felly dyma fi yn deud wrth Margiad Evans, mi af hefo tun bach i hel ychydig o fwyar duon. Cerddais a cherddais, ond i ddim pwrpas, cael yr un. Es yn ôl yn bur siomedig, a deud wrth Margiad Evans, “Wel am ffarm sobor, ches i yr un.” A dyma ei hateb ffraeth.”Paid â deud y drefn y ngenath i, ar faes y diog mae mieri yn tyfu, weldi.” Soniais i yr un gair byth. Yr oedd yn wir. ‘Roeddynt yn torri gwair yr adeg honno hefo pladuriau – at y clawdd, felly, ‘doedd dim lle i fieri dyfu i gael mwyar duon.

Cofiaf gael mynd i Plas Ffarm Llandecwyn. Teulu Llenyrch oeddynt. Dwy hen ferch a dau hen lanc. Richard, Edward, Mary a Gwen Roberts. Cefais gwmni un o deulu Llenyrch i fynd yno un prynhawn ar ôl te .Dyma Edward yn gofyn inni fynd i’r buarth i weld y lloeau. Sgim oeddynt yn ei gael. Cadw yr hufen i gorddi i gael menyn. Roeddynt yn bur denau. Gofynnodd Edward i’r brawd, “Beth wyt ti’n ei feddwl o’r lloeau yma?” Dim ateb. Gofynnodd yr ail waith, “Beth wyt ti’n feddwl o’r lloeau yma?” Ac meddai’r brawd, ofn ei ddigio, “Wel, fe wnant loeau am flynyddoedd i ti Edward.” Doedd dim llawer o olwg iddynt dyfu. Byddai Margiad Evans yn dweud wrth y gweision bob amser – rhowch wely sych i’r moch a’r lloeau, digon o wellt neu redyn, gwell lai yn eu stumog a chael lle sych i orwedd arno. Bu yr hen ferch yn dweud am ei mham wrthyf, ac yr oedd mewn oedran teg ac yn cael ‘strokes’ heb fod yn drwm a byddai hen wraig o’r ardal, tyddyn bychan o’r enw Y Gegin, - mae yn adfeilion ers blynyddoedd, yn dod ag un o’r gelod fyddai mewn ffos, rhyw greadur bach tebyg i genau goeg. Mae yna hen ddywediad, ‘Yn glynu fel gelen’. Rhoi honno ar wegil yr hen wraig iddi sugno y gwaed drwg afiach a phan wedi llenwi ei bol ohono byddai yn gollwng ei gafael, a byddai yr hen wraig yn well dros dro, yna yr un feddyginiaeth wedyn. Cofiaf Richard Evans yn cael yr eryr (shingles) ar ei gefn. Rhoi cynfas wen, ei defnydd – bag blawd, ar y wal wrth y ty gwair i roi galwad i Mary Lewis, Caersaeson i ddod yno. Byddai yn dod yn fuan yn ei chlocsiau trwy y Ceunant. Yna, finnau yn dal y gannwyll frwyn iddi gael gweld, Richard Evans a’i bwysau ar y bwrdd, ac yn codi ei grys gwlanen a’i wasgod wlanen, yna byddai hi yn anadlu arno dair gwaith, ac yn poeri ddwywaith, felly am amser maith nes y byddai yn chwys heb fethu y cyfrif. Ha, ha, ha, T, T, a finnau yn ddigon gwamal. Gwnaeth hyn am naw diwrnod yr un amser bob nos am chwech o’r gloch, ac ymhen rhyw naw diwrnod yr oeddynt yn dechrau crino a chlirio yn dda. ‘Roedd hi yn cael ei galw yn fynych i bell ffordd. Rhai o’i theulu wedi bwyta cig eryr medda nhw. Nis gwn i, trwy nad oedd ganddi blant, gorffenwyd y feddyginiaeth honno. ‘Roedd Ceunant Llenyrch yn lle da iawn am ffyn. Byddai amryw yn dod i ofyn caniatad i dorri rhai. Gofynodd Margiad Evans i mi ryw ddiwrnod, “Wyddost ti pryd mae torri ffon?” “Na wn i.” Medda finnau, “Os nad yn y gwanwyn.” “Nage” meddai hi. “Pan weli di hi, neu bydd rhywun arall wedi mynd â hi!”

Byddai Margiad Evans yn canu rhai hen ganeuon gyda’r nos, rhai na chlywn ni mohonynt y dyddiau yma. Dyma un ohonynt:

Ar y ffordd wrth fynd i Lunden                        
  Cyfarfyddais â theiliwr llawen,                  
A throis fy ngolwg tua’r nen                         
  Ar ei lawes y gwelais luen.
Mi dynais fy mhistol allan,                         
   Mi saethais hi yn ei thalcan,                  
Nes oedd ei thrwst hi’n dod i lawr                         
   Fel ergyd fawr o ganan.
Bum wrthi dridiau cyfan                         
  Yn ei blingo hi fy hunan,                  
Ac i ffair y Llunden yr es â hi,                         
  Cei drigain gini amdani.
‘Roedd merched y wlad cyn falched                          
  O weled y cig cyn frased,                   
A holi, a stilio ar hyd y wlad                          
   Lle magwyd y fath anifeilied.
 

Byddwn yn mynd i Gapel Brontecwyn bob Sul ar ôl cinio. Cael tel i lawr gan gymdogion, cerdded mewn clocsiau a newid i esgidiau cyn cyrraedd y capel. Gwaith awr a hanner o gerdded un ffordd, a dyna gyfnod hapusaf fy mywyd. Gwaith caled, tlawd, codi pwysau trwm er enghraifft – rhoi yr iau ar fy ysgwyddau i gario’r llefrith ar ôl y godro – yn y beudy y gaeaf ac allan yn yr haf. ‘Roedd yna ddeunaw o wartheg godro, a phan fyddai y dynion yn brysur, byddem yn godro naw tan ganu. Godro yn aml iawn mewn lle o’r enw Fuches Dwll yn Ceunant Geifr. Lle braf, nant loew fel y grisial, pont gul i fynd drosti a sarn o gerrig i groesi i’r ochr arall. ‘Roedd wal uchel wedi ei chodi ar ganol y Fuches, a lle i roi y tuniau llaeth arni rhag y cwn. Lle tawel, cân yr adar, brefiad y defaid a’r nant yn sisial ganu. Gwell i mi esbonio pam y cafodd Fuches Dwll enw arall, sef Ceunant Geifr. Wel, Richard Evans ddywedodd wrthyf fel y byddai gyr o eifr yn dod i lawr o Gwm Moch, trwy y nant, ac yn wir gwelais nhw fy hun hefyd. Byddai Margiad Evans yn galw arnaf, Nel, tyrd at y ty gwair mewn munud, mae y geifr yn dod, a minnau yn mynd – ryw fath o’u hofn, ond roeddynt yn mynd heibio yn un rheng daclus ac urddasol, fawr o sylw ohonom. Yna byddant yn mynd heibio Canycoeduchaf ac i lawr, a heibio Felinrhyd Fawr ac i Gelli Grin, i fyny i’r creigiau – amser ymlid oedd hi, neu garu os mynwch, ac yr oedd geifr gwyllt yno. Yna yn ôl mewn cwrs o amser yr un mor urddasol heibio Llenyrch a trwy Ceunant geifr i Cwm Moch, ond wedi iddynt adeiladu y Power House, a swn dynion yn gweithio a’r peiriannau a swn y dwr, ciliasant ers blynyddoedd.

Byddwn yn mynd o Llenyrch gyda basgedaid o fenyn ac wyau i lawr y Ceunant at Bont Llenyrch ac i fyny i Gellilydan i siop fach o’r enw Llwynimpia. Perthynas Llenyrch. Os byddai y dydd yn fyr, byddai Margiad Evans yn anesmwyth amdanaf oherwydd lle perygl iawn oedd y Ceunant wedi iddi dywyllu ac fel hyn y byddai hi yn dweud, “Mae yn dda gen i glywed swn dy droed di yn dod yn ôl, gobeithio y cei di farw a dy ben ar obennydd. Wel, paned rwan i aros y chwys fynd, wedyn pryd iawn o fwyd. Wyddost ti,” meddai, “mae hir bryd yn gwneud mawr bryd, ac y mae mawr bryd yn gwneud mawr ddrwg i’r stumog.” Byddai y diweddar Evan Roberts, Cae Iago yn dod i Llenyrch i brynu bustych wedi eu pesgi. Berwi llond crochan o datws bob dydd yn y ty croes, y gegin gefn a’i gwneud yn does fel peli crwn, tatws a blawd a bran. Byddai y moch yn eu cael hefyd a’r ieir. Indian corn a mawr fyddai y croeso amdanynt. Diwrnod diddorol oedd diwrnod y bargeinio hefo Evan Roberts. Wedi iddo gyrraedd y ty, dywedai Margiad Evans, (cofiwch doedd hi ddim wedi bod o Llenyrch ers blynyddoedd felly roedd popeth oedd yn digwydd ar y fferm o ddiddordeb mawr iddi, a gweld pobl yn galw). “Rhisiart, dos di hefo Evan Roberts i weld y da byw tra fydd Nel a finnau yn gwneud te a chrempog.” Dyna fyddai y croeso yr adeg honno. Y ford gron orau, a lliain bwrdd o fag blawd wedi ei starchio yn wyn, hefyd siwgwr clapiau. Wedi iddynt ddod yn ôl, byddai Margiad yn gofyn, un clap o siwgr roi yn nhe Evan Roberts, p’run a’i dau? Os y dywedai Richard Evans, rho un clap Margiad – pris isel – ond os y dywedai, “dyro ddau” – pris da.

Wel sôn am barchusrwydd y Sabboth, ar ben y staer yr oedd hen, hen gwpwrdd pres mawr hen ffasiwn, ac ynddo yr oedd offer ceffyl a mantell ddu fawr wedi ei leinio hefo gwlanen goch a choler uchel iddi. Doedd y rhain ddim yn dod allan ond ar y Sul i fynd at Bont Llenyrch i gyfarfod y pregethwr, oedd wedi dod ar ei daith yn pregethu yn Gellilydan. Byddai Richard Evans yn mynd hefo’r ceffyl at y bont, yna rhoi y pregethwr ar gefn y ceffyl, a rhoi y fantell drosto rhag iddo oeri, ar ôl cerdded a chwysu. Yr offer yn ôl eto i’r hen gwpwrdd.   Ond daethant allan yn fy nghof innau hefyd, pan hunodd Margaid Evans mewn hedd yn 87 mlwydd oed, a’r tro olaf, mewn saith mis yr hunodd Richard Evans yn 71 mlwydd oed. Claddwyd eu gweddillion ym Mynwent yr Eglwys, Maentwrog. ‘Roedd colli Margiad Evans fel colli fy ail fam i mi. Does fawr ddiwrnod yn mynd heibio nad wyf yn meddwl amdanynt, ac yn dal cysylltiad gyda teulu Llenyrch o hyd. Wel, dyna ychydig o friwsion o hanes Llenyrch, Llandecwyn.

Heddwch i’w llwch.

Derbyniwyd yr uchod yn garedig drwy law Elwyn Williams, Blaenau Ffestiniog a diolchwn iddo yn gynnes iawn am iddo feddwl y byddem yn dymuno rhannu'r 'briwsion am hanes Llenyrch' gyda phob un sydd a diddordeb