Chwilio

Eglwys Llandecwyn

Eglwys Llandecwyn

 

Credir i Sant Tecwyn gyrraedd yma yngyd a Tanwg a Twrog yn y chweched ganrif a dod a sylweddoli fod maen lle saif yr eglwys heddiw a dyma lle'r arferai'r trigolion gyrchu i addoli – math o allor Dderwyddol oedd y maen hwn yn nechrau'r oes pan ddaeth Cristnogaeth i'r ardal yma. Galwyd y maen ym Maen Tecwyn am y credwyd mai oddi arno y dechreuodd Sant Tecwyn bregethu. Adeiladwyd yr eglwys bresesennol, yn lle'r un ganoloesol yn dyddio o 1879. Mae nenfwd syml ar ffurf ysgubor Gymreig,ac ar y mur ar yr ochr chwith mae hen gerflyn o Groes Tecwyn o'r unfed ganrif ar ddeg a'r llythrennau Gwyddelig wedi eu llunio gyda morthwyl a hoelen. Yn ystod y canol oesoedd roedd yr hen dy, Ty'n Llan,sy'n ymyl yr eglwys, yn dafarn a hefyd yn fan aros i deithwyr gan ar yr adeg yma dyma'r unig ffordd rhwng Harlech a Maentwrog. Yr eglwys hon yw'r unig eglwys yng Nghymru sydd wedi ei chysegru i Sant Tecwyn ac oherwydd ei lleoliad mae'n hynod o amlwg yn yr ardal yma. Mae'r olygfa o'r eglwys o aber y Ddwyryd, Portmeirion a Phenrhyn Llyn yn rhywbeth i fynnu ei gweld a'i thrysori.