Chwilio

 

Her Y Tri Chopa, Gorffennaf 2008

her y tri chopa

 

Taith oedd hon i gopaon mynyddoedd uchaf yr Alban, Lloegr a Chymru, sef Ben Nevis, Scarfell Pyke a'r Wyddfa.Trefnwyd yr her er cof am Jim Rees, Cae Gwastad, a gynt o Tai Newyddion, Yr Ynys, gwr hynod boblogaidd yn yr ardal. Cafwyd y syniad o ymgymeryd a'r sialens gan David a Peter, meibion Jim, i godi arian at Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd, fel arwydd o werthfawrogiad am y gofal y derbyniodd eu tad yno.

Ymunwyd a'r hogiau ar y daith gan Angela, partner Peter, a Deborah a Gwynfor, Gwrach Ynys. Er bod y cerdded yn galed yr orchwyl galetaf oedd gyrru'r 500 milltir rhwng y copaon, a hynny yn bennaf yn ystod oriau'r nos. Disgynnodd y cyfrifioldeb i Dic Morgan, Ty Cerrig a Peter Jones Llwyn y Ffynnon, ac ni fuasai Lewis Hamilton wedi gallu gyrru'n well. Er y tywydd garw a gorfod dringo Scafell yn y tywyllwch a'r niwl medrwyd cwblhau'r dasg mewn ychydig llai na 24 awr

Er bod yn werth ymgymryd â hi fel her, y bwriad oedd casglu arian. Mae'r swm a godwyd oddeutu £6,000, a dymuna Theresa Rees, gwraig Jim, a phawb o'r tim ddiolch yn ddiffuant iawn i bawb o'r ardal fu mor hael yn cefnogi'r fenter.