Chwilio


GWERSYLLA YNG NGHWM BYCHAN LLAIS Gorffennaf 1993

her y tri chopa

 

Dydd Gwener, 25ain o Fehefin, aeth blwyddyn 3, 4, 5 a 6 i wersylla i Gwm Bychan. Roedd y tywydd yn fendigedig ac roedd pawb yn cael hwyl. Roedd rhai wedi pacio ers pythefnos. Roeddem wedi rhoi'r tentiau wrth ymyl y swings, ac roedd y barbiciw yn barod at nos Sadwrn. Roedd Mrs Paul wedi dod â batiau rownders a phêl droed a chant a mil o bethau eraill. Ar ôl gwneud y gwelyau a phob dim roeddem yn cael chwarae. Mi aeth rhai i'r goedwig i chwarae cuddio a rhai eraill ar y swings a chwarae rownders. Pan roedd hi'n 9.00 o'r gloch mi aethom am dro drwy'r caeau, dros y gamfa a rownd yn ôl. Roedd yr amser yn fflio mynd ac roedd hi'n 10.10. Pan ddaethom yn ôl dechreuodd bigo bwrw. Cawsom baned o de a bisgedi, ac aeth pawb i gysgu i fod!

Yn y nos doedd neb yn gallu cysgu achos bod pawb yn siarad ac yn gweiddi o un dent i'r llall, a Mrs James a Mrs Paul yn dod o gwmpas i drio cael ni i gysgu. Pan oedd yn 3.00 o'r gloch y bore roedd y glaw a'r gwynt wedi gwaethygu. Roedd tent David, Bryn a Paul wedi gorlifo a bu rhaid i Paul a Bryn fynd i dent Geraint, Deian ac Owain. Bu rhaid i Owain fynd i'r dent spar. Roedd David yn gorfod mynd i dent y genod i gysgu, a ddefroasom Mrs Paul a Mrs James i ddweud wrthynt.

Bore trannoeth roedd y glaw'n dal i ddisgyn, ond roedd y gwynt wedi stopio, ac ar ôl brecwast bu rhaid mynd adref achos bod ein pethau ni i gyd yn wlyb domen. Roedd yn well mynd adref nac aros noson arall fel y roeddem, neu mi fuasem wedi cael niwmonia. Mi gawn fynd eto y flwyddyn nesaf, gobeithio.

Gwenith Llywelyn Richards.