Chwilio

glyn gwndwn   

I wrando ar y gân Broken Hills, cliciwch ar y llun.

Tra'n Maenceinion yn y blynyddoedd 1969-70 cydnabyddwyd David Glyn Williams fel 'Lleisiwr Gorau'. Dyma ychydig ffeithiau amdano:

1. Yn fachgen ifanc, arferai iodlo, a chanu gitar gyda pharti Gwndwn, sef enw parti ei dad a'i fam. Ei partner canu oedd ei frawd Elwyn, ac arferai'r hogia' ganu yn y coed yng nghefnau Maes Gwndwn, Talsarnau. Ymddangosodd Elwyn ar y llwyfan led-led Cymru. Mae'n ddynwaredwr adar pen i gamp, yn briod ac yn mwynhau gweithio gydag ieuenctid ein gwlad.

2. Clywyd lleisiau Glyn ac Elwyn ar y radio tua'r 50au mewn rhaglen o'r enw 'Ser y Siroedd'.

3. Sylweddolodd Glyn ym Maenceinion fod pobl yn fodlon talu i glywed ef yn canu. 'Roedd modd rhoi Cymru ar y map!

4. Cafodd gyfle i weithio ar lwyfannau gyda phobl fel Lulu, a grwp o'r enw 'Grumble Weeds'.

5. Gofynnwyd iddo mewn cabaret ar long yn croesi o Awstralia os mai artist amser-llawn ydoedd, ond rhaid oedd egluro mai un o'r gynulleidfa ydoedd a derbyniodd wahoddiad i gymryd rhan am y noson!

6. Merch o Queensland, Awstralia yw gwraig Glyn. Buont yn ol yno rai blynyddoedd cyn hyn. Mae iddynt bedwar plentyn; Mark, sy'n 10 oed ac yn dilyn ei dad fel canwr, Susannah, Emma a Melony, a aned yn Awstralia yn ystod arhosiad y teulu yno.

7. Ar hyn o bryd, mae Glyn a'r teulu yn byw yn y Drenewydd.

8. Canwr proffesiynol yw Glyn Gwndwn erbyn hyn. Mae'n canu dan yr enw Dave Curtis; Dave am mai David yw ei enw cyntaf, a Curtis oherwydd iddo fopio'i ben ar wylio perfformiad Tony Curtis, yr actiwr Americanaidd, yn y rhaglen 'The Persuaders'.

Yn 1976 daeth a record hir ar y farchnad sy'n gwerthu'n dda. Y mae hefyd yn dal ati i ganu yn y Gymraeg ac er iddo fod i ffwrdd am nifer fawr o flynyddoedd sieryd Glyn well Cymraeg na llawer o Gymru a arhosodd yng Nghymru i ennill eu bara a chaws. Fe hoffai, fodd bynnag, i ysgrifenwyr caneuon Cymraeg gofio amdano. Fel y dywedodd rhai o'r bobl leol o'i glywed yn canu, "Doedd o'n dda dwad"! Mae'r llais ganddo"! Diau y gwel ysgrifenwyr penillion pop Cymraeg roi hwb iddo. Deallir fod un Cymro wedi clywed Glyn yn canu ac wedi dechrau sgwennu geiriau iddo. Beth amdanoch chwi? Ddaw 'na linell neu ddwy, er mwyn Dave Curtis? Mae'n haeddu bob cefnogaeth. Mae hi'n daith flin ac anodd i gyrraedd y top. Cofiwch ddal ati i gefnogi, a dilyn hynt y llanc o'r Gwndwn. Dymuna'r LLAIS yn dda iddo yn y byd canu proffesiynol. Dal ati'r hen Glyn!