Chwilio

Pentref bychan yw Talsarnau wedi ei leoli rhwng Afon Dwyryd a'r bryniau. I'r de o'r pentref mae mynyddoedd Y Rhinogydd. Mae'r A496 yn rhedeg trwy'r pentref o Harlech yn y gorllewin i Faentwrog yn y dwyrain. 

Yn wreiddiol, yn ôl y deall, fferm oedd Talsarnau, ble saif tafarn Y Ship Aground heddiw. Datblygodd y pentref ar ôl codi clawdd llanw rhwng Glanywern ac ardal Briwet yn 1810 - morglawdd oedd yn diogelu tir gwastad y gwaelodion ac yn diogelu'r ardal rhag y mor pan fyddai llanw.

Sicrhaodd y clawdd llanw hefyd rhai cannoedd o aceri o dir gwastad amaethyddol da. Yn ddiweddarach yn 1867 adeiladwyd rheilffordd ar hyd y glannau a chodwyd Pont Briwet i groesi'r Afon Ddwyryd.