Chwilio

CYFARFOD SEFYDLU
Y PARCH ANITA PARRY-EPHRAIM YN WEINIDOG RHAN AMSER AR EGLWYS CRIST YNG NGHAPEL BRYNTECWYN
NOS IAU, GORFFENNAF 13eg 2006

Cynhaliwyd cyfarfod arbennig iawn yng Nghapel Bryntecwyn ar nos Iau, 13eg Gorffennaf 2006 pan sefydlwyd y Parch Anita Parry-Ephraim yn Weinidog Rhan Amser ar yr Eglwys.

Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch Brian Evans, Llywydd Henaduraiaeth Gorllewin Meirionnydd ar y pryd, ac roedd nifer o bobl yn cymryd rhan fel y gwelir oddi wrth
Raglen y Cyfarfod.

Cafwyd Hanes yr Alwad gan Mrs Ella Wyn Jones, Blaenor ym Mryntecwyn a dyma’i
hanerchiad –

“Cymerodd proses yr alwad yma gryn amser gan inni wynebu peth anhawster i symud ymlaen oherwydd rheolau cyfundebol ond rydan ni’n hynod falch fod ein dymuniadau wedi’u gwireddu o’r diwedd.

Rhaid mynd yn ôl bron y bedair blynedd ar ddeg pan ddaeth y Parch Anita Ephraim, neu
Parry bryd hynny, yma i bregethu am y tro cyntaf, a hynny drwy i mi gael ei chyfeiriad a rhif ffôn gan Marian Williams, Penrhyndeudraeth a oedd wedi sicrhau ei gwasanaeth beth amser cyn hynny.

(Wrth basio fel hyn, cofiaf gael sgwrs ar y ffôn ymhen ychydig hefo’r diweddar Iorwerth Ephraim, Tyddyn Merched, Ffestiniog ac yntau’n gofyn am enwau a rhifau ffôn pregethwyr
i mi, gan mai fo oedd yn llenwi’r Suliau ym Methel, Ffestiniog. Rhoddais innau rif ffôn Anita iddo, a dyna ddechrau iddi ddod i Lan Ffestiniog. O ganlyniad i hyn i gyd daeth Anita yn Weinidog rhan amser i Fethel a hefyd daeth yn wraig i Dyddyn Merched, ac yn ferch yng nghyfraith i’r diweddar Iorwerth Ephraim, er dwi’n meddwl na chafodd o mor pleser o weld hynny’n digwydd gan iddo farw yn fuan iawn wedyn).

Cafodd Anita argraff arbennig arnom yn yr ardal yma o’r dechrau pan ddeuai yma i bregethu
ac o dipyn i beth dechreusom ddibynnu’n drwm arni yma ym Mryntecwyn i weinyddu’r cymun, i fedyddio plant bach, i weinyddu mewn priodasau ac i wasanaethu mewn angladdau.

Gan fod Gweinidogion yr enwad Bresbyteraidd mor brin yn Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd, buom yn hynod o ffodus i gael ei gwasanaeth. O ganlyniad, gofynnwyd iddi drwy sgwrsio â hi, a fuasai’n ystyried dod i’n gwasanaethu fel Gweinidog rhan amser a dangosodd hithau barodrwydd i wneud hyn. Rhaid oedd dilyn y drefn a gofyn am ganiatad yr Henaduriaeth a chafwyd hynny’n hollol ddidrafferth. Aed â’r cais ymlaen wedyn i’r Sasiwn a chafwyd cadarnhad parod yn y fan honno hefyd.

Yn anffodus, gwrthodwyd y cais gan Fwrdd y Weinidogaeth, gan na ellid cydsynio iddi fod
yn Weinidog rhan amser heb iddi fod yn Weinidog Bro. Bu cryn ddadlau a llythyrru cyd-
rhyngom â’r swyddfa yng Nghaerdydd, ond ildio fu raid inni a rhoi fyny’r syniad. Er hynny, parhaodd Anita i’n gwasanaethu fel o’r blaen gan roi oedfa bron bob mis a rhoi llawer o gymorth ychwanegol hefyd.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yma, cyfarfu Pwyllgor Strategeth y Weinidogaeth yn yr Henaduriaeth, yn arbennig i ystyried sut i ddod dros yr anhawster a wyneba’r eglwysi oherwydd prinder Gweinidogion – a bod yn hollol gywir – oherwydd diffyg Gweinidogion
o gwbl, gan mai dim ond dau sydd yma a’r ddau yn rhan amser ac yn gaeth i’w heglwysi eu hunain. Mae un Gweinidog Bro rhan amser wedi hysbysu ei egwlysi ei fod yn ymddeol ddiwedd y flwyddyn hon. O’r tri a enwais, mae dau ohonynt yn Weinidogion gyda’r Annibynnwyr.

Llywydd yr Henaduriaeth a’r pwyllgorau perthnasol am y flwyddyn hon yw’r Parch Brian Evans, Gweinidog Annibynnwyr y Bermo, ac sydd hefyd yn Weinidog rhan amser ar Christchurch a Chaersalem (dwy eglwys yn perthyn i’r Presbyteriaid).

Trwy ei arweiniad doeth penderfynwyd symud ymlaen unwaith eto i gael gweinidogaeth
y Parch Anita Ephraim yn rhan amser ym Mryntecwyn. Penderfynwyd hysbysu’r .Cyfundeb o’n bwriad i wahodd Anita yn Weinidog rhan amser mor fuan a phosib, gan gofio fod cynsail wedi’i roi yn y Bermo yn barod.

Anfonwyd llythyr gan Ysgrifennydd yr Henaduriaeth yn cyfleu’r penderfyniad ac y byddai’r trefniant yn dod i rym mor fuan â phosib mewn cydweithrediad â’r Parch Anita Ephraim. Daeth atebiad oddi wrth yr Ysgrifennydd Cyffredinol yn cydsynio â’r cais ac aed ati rhag blaen i drefnu’r Cyfarfod Sefydlu yma.

Mi garwn i dalu diolch cywir iawn i’r Parch Brian Evans am ei arweiniad cadarn inni ym Mhwyllgor Strategaeth y Weinidogaeth a diolch hefyd i Mr Geraint Lloyd Jones, yr Ysgrifennydd am symud ymlaen mor ddiymdroi. Diolch i chwithau sydd wedi dod atom heno i dystio i’r uniad dymunol yma.

Hyderwn y bydd bendith ar y symudiad a’r uniad ac y bydd llwyddiant ar waith ein Gweinidog yma ym Mryntecwyn.”

* * * *

Ar ddiwedd y cyfarfod cafwyd amser i ymddiddan gyda phawb wrth y bwrdd bwyd lle mwynhawyd lluniaeth wedi’i baratoi gan chwiorydd Bryntecwyn.

Edrychwn ymlaen at gael gwasanaeth, cymorth a chyfeillgarwch Anita wrth i ni edrych yn
obeithiol i’r dyfodol.

CAPEL BRYNTECWYN

ERS SEFYDLU Y PARCH ANITA PARRY-EPHRAIM
YN WEINIDOG – GORFFENNAF 2006