Chwilio

GWASANAETH  CAU  CAPEL  BRYNTECWYN
Nos Fawrth, 16 Ionawr 2018
Capel Bryntecwyn2 400
 
 
Cynhaliwyd y Gwasanaeth olaf ym Mryntecwyn nos Fawrth, 16 Ionawr 2018 am 6.30 o’r gloch dan ofal y Gweinidog, y Parch Anita Parry Ephraim. Daeth cynulleidfa deilwng i’r gwasanaeth ac estynnwyd croeso cynnes i bawb, yn gynrychiolwyr yr Henaduriaeth, yn aelodau a chyn-aelodau a chyfeillion eraill.  Croesawyd yn arbennig rai a ddaeth o bell, ac a
fu’n gyn-aelodau yma – Robert ac Eurwen Jones a’u merch Sharon Owen o Sir Fôn, ac un arall a ddaeth ymhellach fyth – Bili Jones, trysorydd cyntaf y Capel a fu wrth y gwaith am bymtheng mlynedd, wedi dod o’r Ynys Werdd!
Roedd y Gwasanaeth wedi’i baratoi’n drefnus gan y Parch Anita Ephraim a hi arweiniodd y
cyfarfod.  Cafwyd darlleniadau o’r Beibl gan Mrs Mai Jones, gweddi gan y Parch Christopher Prew, Porthmadog a phregeth gan y Parch Iwan Llewelyn Jones, Borth y Gest.
Cyflwynodd Mrs Ella Wynne Jones gefndir i hanes yr Eglwys a sefydlwyd yn 1980, gan gyfeirio’n arbennig at ail-ddechrau’r Ysgol Sul yma’n niwedd y 60au, gyda Mr Gwilym Owen, Warden gyda Pharc Cenedlaethol Eryri, yn arolygwr, a hithau’n ei gynorthwyo, yn enwedig trwy ddysgu’r plant i ganu.  Tyfodd yr Ysgol Sul i fod yn hynod o lwyddiannus gyda nifer fawr o blant yn mynychu dros y blynyddoedd.  Olrheiniodd hanes yr eglwys yn fras ers hynny, gan egluro sut y daeth y Parch Anita Ephraim i gael ei sefydlu yn Weinidog Rhan-amser yma’n 2006 ac mor ffodus y buom o’i chael fel Gweinidog.
Mrs Mai Jones oedd wrth yr organ ac roedd y canu’n fendigedig, gyda nifer o leisiau da yn creu naws ardderchog.  Cafwyd cyflwyniad byr ar y diwedd gan Anita, a mynegodd ei gwerthfawrogiad o’r gefnogaeth a’r cyfeillgarwch gafodd hi ym Mryntecwyn ers iddi ddechrau ddod atom i bregethu tua 26 o flynyddoedd yn ôl, ac yn enwedig ers ei sefydlu yn
Weinidog yma yng Ngorffennaf 2006.   Wedi canu’r emyn olaf, cyd-adroddwyd y fendith i ddiweddu.
Roedd swyddogion y capel wedi trefnu lluniaeth ysgafn, wedi’i baratoi gan Einir Jones, Bryn Eithin, i bawb ei fwynhau cyn mynd adref a bu hyn yn ddiweddglo braf i’r noson, gyda phawb yn cael y cyfle i sgwrsio a hel atgofion.
Diolch i bawb a fynychodd y Gwasanaeth – yn aelodau, cyn-aelodau a chyfeillion eraill.  Da oedd cael eich cwmni am y tro olaf ym Mryntecwyn.
Mai Jones (Ysgrifennydd)
           Ionawr 2018.
   
O.N.
Gwnaed fideo o'r gwasanaeth olaf hwn ac mae i'w weld yn adran fideoau safle wê Talsarnau.
 
 
 
 
PAWB OEDD YN BRESENNOL YN NGWASANAETH CAU 
CAPEL BRYNTECWYN
                NOS FAWRTH, 16 IONAWR 2018
Parchedigion Anita Parry-Ephraim, Christopher Prew, Iwan Llewelyn Jones a Dewi Tudur Lewis.
Cynrychiolwyr Henaduriaeth Gorllewin Gwynedd  -  William Paulfrey Jones  (Llywydd)
                                      Edward P Owen  (Trysorydd)
Ella Wynne Jones a Mai Jones  (Blaenoriaid Bryntecwyn)
Aelodau :
Anwen Roberts Carys W Evans Gwyneth Davies
Harri Jones Mathew J Jones Harri Jones
Cyn-aelodau :
G Iwan Jones Robert ac Eurwen Jones
Rhian Tomos Sharon Owen
Carys E Jones Bili Jones
O Gapel Soar :
Frances Griffith Eluned Williams Margaret Roberts
Eraill :
Gwilym Ephraim
Heulwen Jones (gwraig Iwan)
Celt Roberts (gwneud fideo)
Derbyniwyd ymddiheuriad gan Geraint a Meinir Lloyd Jones, Dawn Owen, Gerallt Jones a Carys Roberts.
Mai Jones (Ysgrifennydd)
18 Ionawr 2018.