Chwilio

ATGOFION CAPEL YR YNYS (Cangen o Gapel Bethel Talsarnau)


Capel newydd

 

Roedd fy nhad, y diweddar John James Williams Cefn Gwyn, yn Flaenor ac felly roedd ei ddylanwad arnom fel plant mor bwysig a rhaid oedd mynychu Gwasanaethau’r Capel yn rheolaidd. Ordeinwyd ef yn Flaenor ym 1938 a chymerodd hi yn swydd anrhydeddus a phwysig a chadwodd ei ffydd i’r diwedd er iddo ddioddef cystudd hir a blin. Dyma englyn gan ei gyn Weinidog, Y Parch Ben Williams fel teyrnged iddo -


Gŵr duwiol a gŵr diwyd – rhin a graen
      Y groes ar ei fywyd,
  O fro’r boen, o ferw’r byd
  I’w elfen aeth i eilfyd.


Dyma hanes ei angladd yng Nghapel yr Ynys ar y 18fed o Fai 1968. Glyn Hughes, Barcdy oedd yr Ymgymerwr a bu’n hynod barchus a charedig. Roedd Mam wedi gofyn tybed oedd bosib cael yr angladd yng Nghapel yr Ynys ond yn anffodus roedd cyntedd bach felly nid oedd yn hawdd iawn mynd â’r arch i mewn. Mewn ychydig ddyddiau daeth Glyn yn ôl at Mam a dweud ei fod wedi meddwl yn ddwys am y sefyllfa ac wedi dod i’r canlyniad ei fod wedi bod yn edrych ar y ffenest a bod modd mynd â’r arch i mewn ac allan drwy’r ffenest. Felly y bu, y gynulleidfa yn canu ei hoff emyn “Ar fôr tymhestlog teithio ‘rwyf, i fyd sydd well i fyw” a’r arch yn symud yn barchus a diogel i ddiwedd ei thaith. Hyfryd oedd fod y Parch Gareth Maelor Jones wedi cymeryd y Gwasanaeth a hynny yn urddasol iawn. Roedd fy nhad a Gareth yn ffrindiau mynwesol, Gareth yn enedigol o Flaenau Ffestiniog a nhad o Lan Ffestiniog, felly roedd y cyfeillgarwch yn arbennig iawn rhyngddynt.


Roedd Taid a Nain, Bronynys, sef Tad a Mam fy Mam yn byw drws nesaf i’r Capel felly Nain fyddai yn edrych ar ôl y Capel, ei lanhau a rhoi y gwres ymlaen cyn y gwasanaethau. Fel roedd Nain yn heneiddio, Anti Gladys gymerodd yr orchwyl o ofalu am y Capel. Hi hefyd oedd yr organyddes olaf cyn i’r Capel gau. Bedyddiwr oedd Taid a meddwl mawr o’i Gapel sef Capel y Graig, Talsarnau. Byddai Nain yn dylanwadu arno weithiau i ddod i’r Capel ond yn erbyn ei ewyllys y byddai yn mynd i gadw Nain yn dawel !


Trefn y Sul ydoedd , Ysgol Sul am 10 o’r gloch, Pregeth am 2 o’r gloch ac yna Pregeth ym Methel Talsarnau am 6 o’r gloch. Roedd yn ofynnol i ni fynd i’r tri Cyfarfod.


Roedd Capel yr Ynys yn hynod lewyrchus gyda chynulleidfa dda bob Sul. Canu gwych gan fod yno y pedwar llais a byddai Dad bob amser yn dyblu y gân os oedd yn hoff o’r emyn. Byddem yn cael cyfarfod canu rhyw dair gwaith cyn y Gymanfa yn y Bermo gyda Gwilym Hedd Morris yn arwain a rhaid dweud y byddem yn gwybod yr emynau yn eitha da erbyn y Gymanfa. Coffa da am Gymanfaoedd gwych yng Nghaersalem y Bermo. Diwrnod cael dillad newydd a mwynhad mawr o fynd i Bermo a chael mynd i siopa a phrynu digon o dda da at y nos a gofalu bod yn ddistaw gan y byddai ambell i athro yn y gynulleidfa! Roedd parch mawr i athrawon adeg hynny.


Yr Ysgol Sul yn bwysig iawn. Pedwar dosbarth, plant lleiaf, ail ddosbarth gyda Willam Emrys Cartrefle yn athro, trydydd dosbarth gyda Mrs Evans Tŷ Gwyn yn athro a’r Dosbarth Hynaf gyda Evan Evans yn athro. Yn anffodus bu farw Evan Evans yn yr Ysgol Sul, trist iawn oedd ei golli ac yntau yn aelod mor werthfawr a selog.

Roeddem yn cael Trip Ysgol Sul bob blwyddyn a dyna uchafbwynt y flwyddyn cael mynd i Rhyl i fwynhau diwrnod bythgofiadwy gyda bws Griff Williams Harlech. Rwyn cofio rwan gweld y bws yn cyrraedd a phawb yn gwirioni’n lân. Doedd gennym ddim llawer o arian ond digon i fwynhau mynd i’r Marine Lake cyn mynd adref. Atgofion hapus sydd yn aros yn y cof.

Roedd Willam Emrys yn annog ni y plant i chwarae’r organ yn yr Ysgol Sul a dyna pryd y dechreuais i chwarae’r organ yn 12 oed ac rwyf yn dal i gyfeilio yng Nghapel y Ddôl a Chapel Cwm Nantcol. Harmoniwm oedd yr organ felly roedd rhaid padlo a chadair oedd y stôl felly panic weithiau gan fyddai’r gadair yn symud yn ôl ond diolch fe welwyd yr anhawster a chafwyd stôl biano iawn.

Roeddem bob Nadolig yn cael perfformio hanes y Geni a llawer o hwyl a chwerthin ac ambell i dro trwstan a chael ein ceryddu weithiau oherwydd anghofio geiriau a chael y ‘giggles’ ond profiad hapus. Roedd Cyfarfod Plant ar nos Iau yng ngofal y Gweinidog, y Parch R.H. Jervis a’i briod Mrs. Jervis. Roeddem yn mwynhau ein hunain yn cael chwaraeon a chwis ac yna roeddynt yn ein darparu ar gyfer yr Arholiad Sirol. Roedd y ddau mor annwyl a chanddynt barch a charedigrwydd atom ni y plant a ninnau yr un mor barchus tuag atynt hwythau.


Nos Fercher yr oedd y Seiat a rhaid cyfaddef nid oeddem ni y plant yn hapus iawn. Roeddem yn gorfod dweud adnod ar ddechrau y Seiat ac yna gwrando ar Mr. Jervis yn dweud hanes y Cyfarfod Misol oedd o ddim diddordeb i ni ond gorfod eistedd reit ddistaw rhag i ambell fam edrych yn gas arnom oherwydd ein bod yn aflonydd. Awr hir iawn oedd honno.


Cafwyd Eisteddfod hefyd yng Nghapel yr Ynys a chystadleuwyr yn dod o bell. Roeddem ni y plant yn gorfod cystadlu hefyd ond ddim yn llwyddiant mawr. Roeddwn i yn nerfus iawn a chofio canu ‘Deryn y Bwn o’r Bannau’ ( y deryn wedi cael ei amharchu yn arw iawn gennyf) a dyna gasau cystadlu am byth i mi wedyn. Ieu Cefn Gwyn fyddai bob amser yn ennill, a byddai yn mynd am Eisteddfod Berw Goch ac ennill yn fano wedyn. 


Daeth y Parch Gareth Maelor Jones atom yn Weinidog ar ôl y Parch Ben Williams ac yr oedd yn gaffaeliad mawr i ni gan ei fod yn ifanc ac yn llawn brwdfrydedd. Roedd yn bregethwr annwyl a diddorol ac roedd ganddo lais canu gwych. Byddai bob amser yn gofyn i Nhad am ei farn ar ei bregeth ac wrth gwrs canmoliaeth mawr fyddai’n gael bob amser, ond un tro dywedodd Dad wrtho am gofio tynnu ei gôt pan oedd yn pregethu i ddangos ei fod o ddifri, ond chwarae teg, roedd yn oer iawn yn y Capel Bach gan mai dim ond stôf baraffin fach oedd yn cynhesu. Cafodd Dad bryd o dafod gan Mam am ei sylwadau ond chwerthin wnaeth Gareth a chydweld hefo’r feirniadaeth. Parch Gareth Maelor Jones briododd Evie a minnau yn Nghapel Bethel yn 1963. Atgofion melys iawn am ŵr bonheddig, deallus ac annwyl.

Roedd yr hen Gapel Bach wedi rhoi aml brofiadau a llwyddiant i ni gyd dros y blynyddoedd ynghyd ag atgofion hapus iawn. Mae yn dŷ haf bellach ac yn edrych ddigon llewyrchus.


Heulwen Jones, Penybryniau, Dyffryn Ardudwy