Chwilio

Capel Llennyrch

 

Allan o Atgofion Cynnar – D. Tecwyn Evans

“Ym “mhen ucha’r plwy” yr oedd capel bychan y Methodistiaid Calfinaidd, capel a gafodd ei enw oddi wrth enw y ffermdy helaeth a oedd yn y darn hwnnw o’r plwyf, sef “Llennyrch.” Adeiladwyd y capel yn 1861, er bod ysgol Sul yn y gymdogaeth er y flwyddyn 1830. Ymhlith yr ymddiriedolwyr yr oedd gwŷr mor enwog â’r Parchedigion Edward Morgan y Dyffryn a Griffith Williams, Talsarnau. Yr oedd Llennyrch yn daith Sabothol efo Maentwrog ac âi’r pregethwyr yno o Fawentwrog erbyn dau o’r gloch bob prynhawn Sul. Dyma ddyfyniad o Hanes Methodistiaid Gorllewin Meirionydd gan y Parch. Robert Owen, Pennal (1891), Cyfrol 11, tud. 186-87 :-

Rhoddir tipyn o brawf ar nerth corfforol y pregethwr, gan y rhaid tynu i fyny, ar draws ceunant rhamantus, a bydd yn dechrau ar y weinidogaeth y prynhawn yn dra mynych,naill ai wedi chwysu, neu wedi colli ei wynt , neu wedi cael ei guro gan y ddrycin. Ond mae y bobl yn siriol a ffyddlon iawn, ac yn y cyffredin dilynir yma yr arfer Fethodistaidd dda o anfon anifail i gyrchu y pregethwr.

Yr oedd nifer y gwrandawyr ar ddiwedd 1867 yn bedwar ugain, hanner cant yn yr Ysgol Sul, a’r cymunwyr yn naw ar hugain. Bu farw y blaenor da, Richard Jones, Cae’n-y-coed Uchaf, yn 1881. Y blaenoriaid yn 1891 oedd Evan Jones, Cae’n-y-coed Uchaf (mab Richard Jones), William Evans, Llennyrch ac Ellis Jones Ellis, Nantpasgen-fach. Gŵr eithriadol o dalentog fel cerddor, diwinydd ac athro Ysgol Sul oedd Evan Jones (ac yr oedd iddo hefyd frawddawnus, yr un enw â’i dad). Gŵr dibriod, galluog a bonheddig oedd William Evans, tŵr cadarn mewn ardal i bopeth da a theilwng; ac yr oedd Ellis Jones Ellis, gyda’i fam Gwen Ellis a’i frawd Robert Ellis, yn enghreifftiau Fethodistiaid Calfinaidd selog a darllengar.”