Cynhaliwyd yr Oedfa Wesleaidd gyntaf yn ardal Talsarnau ar 4 Tachwedd 1804, dau gant ac ugain a mwy o flynyddoedd yn ôl.
Y pregethwyr oedd y Parch Edward Jones, Bathafarn a Mr William Parry, Llandegái a gyd-lafuriai ag ef ar Gylchdaith Caernarfon. Yn nhŷ Mr Robert lsaac, Tŷ'n y Groes, Llandecwyn (Bryn y Bwa Bach fel y'i galwyd amser hynny) y pregethasant. Ym mhen y mis wedi hynny ffurfiwyd eglwys yno pryd yr unwyd amryw.
Yno yr arhosodd yr Achos hyd nes i Gapel Soar gael ei adeiladu ac agorwyd y capel nos Iau a dydd Gwener, 2 Gorffennaf 1824. Mewn pwyllgor cyfarfod yr ymddiriedolaeth yn Soar, 25 Tachwedd 1903, penderfynwyd cael cyfarfod brodyr o'r Eglwys trwy gynigiad Mr Edmwnd M Roberts ac a eiliwyd gan Mr Rowland Edmunds at fynd ymlaen i gael 'bazaar' fawreddog ac yr oedd y Parchedigion J R Ellis a Hugh Curry wedi'i chynllunio ac i symud ymlaen ar unwaith i'w threfnu. Fe deimla'r eglwysi - Soar a Brontecwyn - mai priodol iawn fyddai iddynt ddathlu Canmlwyddiant yr Achos yn 1904 gyda diolchgarwch a brwdfrydedd mawr. Y bwriad oedd codi Trysorfa arbennig i'r pwrpas a thrwy honno o dan fendith Duw, geisio gweithredu nifer o gynllunia fyddant o fantais barhaol i waith Duw yn y gymdogaeth. Yr oedd gwir angen i adeiladu tŷ Gweinidog yn yr ardal a sicrhau hynny fyddai prif amcan y Drysorfa Ganmlwyddol.
Mantais arall i'r Achos ar ddechrau ei ail ganrif fyddai clirio ymaith y ddyled o drigain punt oedd ar Ysgoldy Seion (ger yr Eisingrug) a gwneir ymdrech ddifrifol i effeithio hynny. Hefyd, byddai rhaid trefnu yn fuan bellach i helaethu Mynwent Soar ac nid oedd ar y pryd adnoddau mewn llaw i wneud hynny. Teimlant mai dymunol iawn fyddai y flwyddyn arbennig nesaf, i ysgafnhau os nad clirio yn llwyr y ddyled sydd ar y meddiant Cyfundebol yn Soar.
Penderfynwyd cynnal Noddachfa Fawreddog i'r amcanion uchod tua Hydref 1904. Roedd y ddwy eglwys Soar a Brontecwyn yn uno yn yr ymgymeriad. Dywedasant y byddai cyfleusterau i bawb o'u cyfeillion drwy y wlad, yn ogystal ag i blant y ddwy eglwys drwy 'bedwar ban y byd', i arddangos eu cydymdeimlad ac i estyn eu cynhorthwy i'r achlysur pwysig hwn. Yr amcan oedd cael trysorfa o £400. Roedd y swm yn arian mawr iawn iawn bryd hynny. Teimlo yr oeddynt fod y nod yn uchel iawn ond roeddynt yn hyderus a gobeithiol ac yn erfyn am bob cymorth mewn nwyddau ac arian.
Roedd ganddynt ffydd anhygoel y buasent yn gallu cyflenwi a chyfarfod y nod roddwyd arnynt ac yn yr ysbryd nefolaidd hwnnw y dechreuwyd y gwaith. Dyddiad y 'bazaar' oedd 15, 16 ac 17 Rhagfyr 1904. Meddyliwch roddi tri diwrnod at y fenter ychydig ddyddiau cyn Gŵyl y Nadolig. Nid oedd gan neb ohonynt y syniad lleiaf y buasai Diwygiad 1904 yn ei nerth erbyn hynny ond mae'n amlwg fod 'y gwynt yn chwythu' yn barod! Dichon i'r ysbryd nerthol hwnnw eu cynorthwyo i gyflawni'r cwbl o'r cynlluniau a fyddant o fantais barhaol i waith Duw yn y gymdogaeth. Codwyd tŷ Gweinidog hardd - Bryn Awel, helaethwyd y fynwent a chliriwyd y ddyled ar Seion.
Mi ddaeth y Diwygiad yn ei nerth i Soar ac fel hyn ei darluniwyd gan fy mam (Maggie Gwyneth Jones) mewn pennod yn hanes ei bywyd - yn ei geiriau ei hun - "Rwy'n cofio y Diwygiad yn dda iawn, er nad oeddwn ond chwech oed a fy chwaer Lisi yn wyth a Robin fy mrawd yn bedwar oed.
Mi fyddai nhad a mam yn mynd i'r cyfarfod gweddi bob nos a ninnau ein dwy yn gwarchod, ond un noson aeth Robin i grïo yn ofnadwy am awr heb stopio a minnau mynd i grïo hefo fo. Eisiau mam oedd o, a doedd dim i'w wneud ond ei godi a lapio siôl lwyd amdano a'i gario bob yn ail i Soar i gyfarfod mam a nhad. Roeddynt yn dal yn y capel ac aethom i dŷ perthynas, tŷ nesa i'r capel. Fe stopiodd Robin i grïo ac aeth i gysgu. Wedyn aethom ein dwy at y capel i edrych oedd sôn am mam a nhad yn dŵad. Roedd llond y capel, yn llawn o bobl a phlant yn gweddïo ar draws ei gilydd, llond y set fawr o bobl yn gweddïo, naill ar ôl y llall a'r bobl yn y seti yn gweiddi: "Haleliwia, Bendigedig, Ar ei Ben bo'r Goron" a'r lleill yn gorfoleddu ar eu gliniau yn gorneli y seti.
Roedd yn ddeg o'r gloch erbyn hyn a daliant ati. Roedd rhai yn cychwyn adref tua un ar ddeg a ninnau hefo nhw, ond dyna rhyw hen wraig, Mari Williams, oedd yn byw wrth ymyl yn dod i'r cyfarfod ac yn gweiddi: 'Ewch yn eich hôl, Ewch yn ôl i'r capel', meddai. 'Mae goleuni wedi bod fel bwa dros y capel'. Ag yn ein holau aeth pawb gan ailddechrau gorfoleddu wedyn tan hanner nos a ninnau bron â chysgu wrth ben ein traed ac ofn wrth gerdded adref, yn dynn ym mraich mam a nhad yn cario Robin, oedd wedi cysgu ers oriau yn nhŷ Aunty Laura. Anghofiaf i byth y noson honno.
Ar ôl hynny fy nhad ei hunan fyddai yn mynd a mam, noson arall, bob yn ail. Roedd y cyfarfodydd yn Soar a Bryn Stryd (yr Oruwch Ystafell, fel ei galwyd!!), bob yn ail noson ac felly am wythnosau. Y bobl ifanc, y canol oed a'r hen yn gweddïo a gorfoleddu a chael hwyl ardderchog - rhai yn crïo a'r lleill yn mynd i lwgfa wrth gyfaddef eu pechodau gerbron Duw - bob ystafell a chapel yn llawn i'r drws, amser bendigedig a hwyliog a dwsinau yn rhoi eu hunan o'r newydd i'r Creawdwr ac mae ei dylanwad yn dal hyd heddiw. Felly nid rhyfedd ein bod yn caru y pethau gorau gan mai felly y cychwynnwyd ni yng nghân a sŵn Diwygiad 1904-05.
Pan euthum i'r ysgol, yr un peth oedd yn y fan honno - Cyfarfod Gweddi, amser chwarae yn iard yr ysgol. Pen yn hel priciau yn y coed ar ôl dod adref o'r ysgol - hel y priciau yn gyntaf, Cyfarfod Gweddi wedyn. Yr hogiau ar ben y coed yn torri priciau crin ac yn canu yn y fan honno - 'Ar ei ben bo'r goron', a 'Diolch, Diolch Iddo' nes oedd yr hen greigiau Clogwyn Gwyn yn diasbedain. Gweiddi Haleliwia a'r Hen Glogwyn a'r garreg ateb yn gweiddi Haleliwia yn ôl, yn hirach o lawer na ni.
Roeddwn yn gwrando ar Billy Graham rhyw noson o Kelvin Hall yn dweud fel roedd y bobol yn gwahardd i'w ddisgyblion ganmol Duw a dyma ei eiriau - 'If my disciples stop preaching: the Rocks will shout aloud.'
Os wyf yn cofio yn iawn yn Egryn ger y Dyffryn y cychwynnodd y Diwygiad. Roedd cannoedd yn rhoi eu hunain o'r newydd i'r Arglwydd ac ni chlywyd erioed weddïo tebyg. 'Roedd y llen yn deneu o'r Nef yn agos iawn atom'. Dyna ddywedodd y Parch D Tecwyn Evans yn ei gyfarfod pregethu olaf yn y Penrhyn. Clywsom lawer o'i bregethau grymus ers pan yn blant a'r bregeth fyddwn i yn ei fwynhau - 'Nad ymffrostied y cryf yn ei gryfder na'r doeth yn ei ddoethineb, eithr ymffrostied yn hyn - Ei fod yn deall ac adnabod Duw'."
Gwnaeth yr hyn a glywodd ac a welodd fy mam o'r Diwygiad argraff arbennig arni a dylanwadodd arni gydol ei hoes. Wrth gofio yr oedolion yn ein capeli pan oeddem yn blant, cofiaf yn dda gymeriadau mor wir grefyddol a Christnogol oeddynt ac ôl y Diwygiad ar eu bywydau. Effeithio y Diwygiad hefyd ar eu plant hwythau gan iddynt gael eu hyfforddi ym mhen ei ffordd. Y genadwri oedd: "Cofia dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid cyn dyfod y dyddiau blin yn y rhai y dywedi - Nid oes i mi ddim diddanwch ynddynt."
Fel yr awgrymodd fy mam credai mai yn Egryn, Dyffryn Ardudwy, y cychwynnodd y Diwygiad ac nid rhyfedd hynny gan i'r ardal deimlo y dylanwadau yn rymusach nag unrhyw ardal yng Nghymru. Yr arweinydd yno oedd Mrs Mary Jones, Islaw'r Ffordd, ffermdy yn y gymdogaeth. Roedd yn wraig ddistaw, encilgar, ddiymhongar ac o alluoedd cyffredin, fel y dywed E W Evans, argraffydd o Ddolgellau, ond meddiannwyd hi gan awydd angerddol am ennill ei chymdogion at Grist.
Yn Egryn yr addolai lle cynhaliwyd cyfarfodydd gweddi di-fwlch yn y capel drwy'r haf. Gweddïai'n barhaus am gael bod yn foddion yn llaw Duw i ennill y gymdogaeth i Grist. Tua dechrau y gaeaf dechreuodd yr hinsawdd gynhesu a'r awyrgylch deneuo. Cymerodd yr awenau yn ei llaw ac roedd wrth fodd calon yr oedfaon. Gweddïai dros ei chymdogion ac yn fuan roedd yr holl ardal yn dyfod i'r capel.
Un noson rhoddwyd ar ddeall ei bod yn teimlo sicrwydd y gwyddai pwy o'r gynulleidfa fyddai yn aros ar ôl yn y seiat. Ar y ffordd i'r capel gwelwyd goleuni yn yr awyr a dywedodd fod y goleuni hwnnw yn arwain iddi dros bwy i weddïo ac yn sicrwydd iddi fod rhywrai penodol i gyflwyno eu hunain i Grist. Gwelwyd y goleuni gan amryw nad oeddynt yn barod i gredu. Roedd tua deunaw yn bendant eu bod wedi 'gweld y goleuni' a llawer ohonynt yng nghwmni ei gilydd a'r disgrifiad ohono - 'colofn o dân disglair'. Yn eu mysg yr oedd tri o weinidogion.
Dywedwyd i Mrs Jones wrth weld y goleuni un noson gael neges oddi uchod ac iddi fynd i ddau le cyn mynd i'r capel. Ar ei gweddi y noson honno yng Nghapel y Wesleaid diolchodd am gael ei harwain i 'fwthyn hen wraig ar derfyn ei dyddiau yn rhoi ei hunain i Grist' ac i 'fwthyn y wraig sâl sydd wedi bod yn gorwedd yn hir ac o'r diwedd yn rhoi ei hun i Ti i'w chadw.' Bu hi yn foddion i ychwanegu pum deg ac un at rif yr aelodau yng nghapel bach Egryn, un ar ddeg yn y Dyffryn, deuddeg yng nghapel y Calfiniaid a phedwar yng nghapel y Wesleaid yr wythnos honno.
I fynd yn ôl i Soar lle dechreuais, llawenychaf drwy glywed fod y criw bach o swyddogion yn dathlu daucanmlwyddiant yr achos drwy adnewyddu a phaentio yr adeilad a bod y gwaith wedi ei ddechrau. Rhestrwyd y capel gan Cadw fel adeilad o bensaernïaeth arbennig ac o ddiddordeb hanesyddol yn Nhachwedd 1966. Mae'n gapel hardd a llongyfarchaf y swyddogion am ei gadw felly a'n gweddi yw y caiff ei gadw ac y parha'r achos yno am genedlaethau i ddod.
R Emrys Jones, Sili, Morgannwg