Chwilio

 CAPEL BRYNTECWYN  (Ymddangosodd yr erthygl yma yn y cylchgrawn ‘Antur’ Medi 1971)


"Yn Nhalsarnau mae talent . . . . . ym Mryntecwyn mae bri!" - medd un o’r aelodau

Capel Bryntecwyn1 500

 

Ardal wledig ar lan afon Dwyryd, rhwng Penrhyndeudraeth a Thalsarnau yng Ngorllewin Meirionnydd yw Llandecwyn. Eglwys y Plwyf Llandecwyn yw un o’r Eglwysi hynaf yn y Sir, a saif mewn safle braf gyda golygfa odidog o Fae Ceredigion. Ceir hefyd gapel gan yr Eglwys Fethodistaidd o’r enw Brontecwyn, lle cychwynnodd Tecwyn ac amryw o bregethwyr amlwg eraill.

Tua deg a thrigain mlynedd yn ôl, cododd y Methodistiaid Calfinaidd ysgoldy bychan o’r enw Bryntecwyn at wasanaeth yr ardal, lle cynhelid, ar un amser, gyfarfodydd gweddiau ar ganol yr wythnos yn ogystal ag Ysgol Sul. Dyma ganolfan yr Ysgol Sul fechan y soniwn amdani.

Ein Dull

Adeiladwyd Tai Cyngor yn agos i’r Ysgoldy ac ers chwe blynedd bellach, mae’r Ysgol Sul mewn bri mawr yn yr ardal. Ceir 23 o aelodau, sydd yn perthyn i wahanol enwadau, a 5 o athrawon. Peth pleserus iawn hefyd yw cael dweud fod cyfartaledd presenoldeb bob Sul yn 19 allan o 23. Ni chynhelir yr Ysgol Sul yn y ffordd draddodiadol o ddosbarthiadau, ond fe’i cynhelir fel gwasanaeth cyffredinol, gan ddechrau gyda’r plant bach lleiaf yn cymryd rhan trwy adrodd eu hadnodau a chanu, yna bechgyn ychydig hŷn yn adrodd gweddiau a chanu. Parti Canu Ysgol Sul Bryntecwyn 1971Deuawd, adrodd neu ddarllen o’r Beibl gan rai o’r plant hŷn, ac yn aml ceir cân bop neu ganu emyn gyda’r tannau. Ambell dro, ceir sgwrs a holi gan yr Arolygwr a thro arall, ceir stori trwy ddefnyddio’r fflanelgraff gan un o’r athrawon. Ceir tynnu lluniau ac ysgrifennu, a hefyd actio rhai o straeon Beiblaidd. Ein prif ymgais yw creu diddordeb ac amrywiaeth. Rhaid dweud mai’r prif fwyniant yw canu – pob math o ganu.

 

Ein Llwyddiant

Bryntecwyn400

 

Pan gynhelir eisteddfod yn yr ardal yn flynyddol, bydd pob un o blant yr Ysgol Sul yn paratoi ac yn cystadlu. Yn y darlun, gwelir gôr bychan o’r plant hynaf a ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth côr plant yr Eisteddfod eleni ac enillwyd cwpan goffa R Lloyd Edwards i’w chadw am flwyddyn. Y llwyddiant mwyaf oedd i bob disgybl gystadlu o’u bodd.

Hyd yn ddiweddar, cynhelid Arholiad Sirol gan y Methodistiaid Calfinaidd a byddai rhai o’r disgyblion yn dod i blith y rhai a gâi wobr yn yr Henaduriaeth. Pan geid cyfarfod cystadleuol yng Nghymanfa ganu’r Wesleaid yn y Gylchdaith, byddai’r plant i gyd yn ymgeisio ac yn llwyddiannus yn aml. Bydd pob un yn ymgeisio yn Arholiad y Safonau a bu pawb ohonynt yn llwyddiannus eleni. Ar ddydd Diolchgarwch, bydd plant Bryntecwyn yn cynnal gwasanaeth i’r Methodistiaid Calfinaidd yn y bore, ac yng Nghapel y Wesleaid yn y prynhawn, a cheir gwledd arbennig yn ystod y Diolchgarwch pan ddaw’r Parch R O G Williams o’r Penrhyn i roi pregeth yn yr Ysgoldy a rhai o’r plant yn cymryd rhan yn yr oedfa. Cynhelir cyfarfod undebol o dan arweiniad y Parch Gwilym O Jones, Gweinidog y Wesleaid yn y pentref, ar y Nadolig neu ddechrau’r flwyddyn, a chymer Ysgol Sul Bryntecwyn ran amlwg iawn.

Ein Gweithwyr

Arolgywr yr Ysgol Sul yw Mr Gwilym Owen, sydd yn ystod ei waith beunyddiol yn cyfarwyddo ymwelwyr o gwmpas y wlad, fel Warden Parc Cenedlaethol Eryri o dan y Cyngor Sir, ond sydd bob Sul yn ddi-fêth yn arwain, cyfarwyddo a hyfforddi plant yn yr Ysgol Sul ym Mryntecwyn. Ceir tair athrawes ac un athro arall, rhai ohonynt yn rieni’r plant. Hyfrydwch yw gweld datblygiad talentau gwahanol pob plentyn bach wrth gario’r Ysgol Sul ymlaen fel hyn – gwelir rhai yn datblygu’n gantorion ac adroddwyd, rhai eraill yn dangos talent mewn arlunio ac ysgrifennu.

Ein Gobaith

Yn y dyfodol, bwriedir cael tîm pêldroed o’r Ysgol Sul. Y duedd heddiw yw i blant ac ieuenctid gilio o’r Ysgol Sul; ein delfryd ni ym Mryntecwyn yw ceisio creu awyrgylch atyniadol gan anghofio yr hen ffordd ddeddfol draddodiadol.  Ceisiwn roi’r ‘bilsen yn y jam’ gorau medrwn. Bellach mae ‘na ddau weinidog yn yr ardal – y Parchedigion Gwilym O Jones a William Williams.  Yng nghwmni’r ddau gobeithiwn fynd ymlaen o nerth i nerth.