Chwilio

Erthygl gan Angharad Tomos yn y Daily Post 20 Rhagfyr, 2017

CAPEL SOAR

Capel SoarTristwch wrth i'r achos yn Soar ddirwyn i ben

Y Sul dwytha, gwnes daith gofiadwy i Dalsarnau, i fyny'r allt serth i Soar. Cynhebrwng o ryw fath oedd yno. Cynhebrwng capel – achlysur oedd yn newydd i mi.

Mae'n siwr fod achlysuron fel hyn yn dra cyffredin yn y Gymru sydd ohoni, ond hwn oedd yr un arbennig i mi.

Efallai y cofiwch i mi sôn yn ddiweddar am fy hen daid, R. Môn Hughes, yn gadael Llangoed yn Sir Fôn ac yn mynd yn weinidog Wesla. Bu'n pregethu hwnt ac yma, ond yn Soar, Talsarnau, gwelodd wyneb Jane Ellen yn chwarae'r organ, a syrthiodd mewn cariad â hi. Hogan Cambrian Stores oedd Jane Ellen, ac fe'i priodwyd yn fuan yng nghapel Talsarnau. Ei thylwyth hi a hanes y capel ron i eisiau ei adrodd.

Cwta bymtheg mlynedd wedi marw John Wesla, roedd pregethwr Wesleaidd wedi dod i bregethu i ardal Talsarnau, a hogyn ifanc 13 oed o'r enw Edmund Evans gafodd y dasg o fynd o amgylch cartrefi'r cylch i gyhoeddi'r oedfa.

Roedd hyn yn 1804, cyn bod sôn am adeilad, ac yn Ty'n Groes, Llandecwyn oedd yr oedfa i'w chynnal, neu Bryn y Bwa Bach fel y'i gelwid. Dwi'n gwybod hyn gan fod Edmwnd Evans yn daid i Jane Ellen, ac yn hen, hen, hen daid i mi.

Ymhen ugain mlynedd, roedd capel Soar wedi ei godi ac ar lechen ar dalcen y capel roedd y geiriau 'Cofiwch wraig Lot.' Mae hon yn adnod annisgwyl i'w dewis, ond mae'n amlwg nad oedd y criw mentrus yn Soar eisiau edrych yn ôl. Tuag at y dyfodol oedd eu golygon hwy.

Rhaid eu bod wedi cael llwyddiant, achos llai na phymtheg mlynedd yn ddiweddarach, roedd y capel yn rhy fach. Codwyd un newydd yn 1838, a'i helaethu yn 1863.

Sut oedd cymuned fach, wledig, dlawd yn gwneud hyn? Doedd dim grantiau Loteriu i'w cael yr adeg honno na chorff fel CADW. Yn syml iawn, roedden nhw'n torchi ei llewys, ac yn gwneud y gwaith eu hunain. 'Cafwyd yr holl ddefnyddiau a'r cludiad yn rhad gan ffermwyr caredig yr ardal' meddai'r cofnod. Fel y dywed Edmund Evans ei hun, 'Cludasant [trigolion yr ardal] y cyfan ato yn goed, calch a cherrig yn rhad. Boed y gogoniant i Dduw' Mae hyn yn fwy o ryfeddod byth pan welwch pa mor fawr yw Soar. Dwi'n cael darlun ddigon tebyg i'r rhai oedd ym Meibl y Plant o weithwyr yr Hen Destament yn tynnu llwythi anferth o feini i godi teml. Mae'n gapel anferth.

Edmund Evans

 

Beth ddaeth o Edmund Evans? Crwydro fuo fo, o'r naill fan i'r llall yn pregethu ac fe'i gelwid yn Utgorn Meirion. Ar ei fedd, dywedir iddo bregethu dros 13,000 o weithiau, rhaid fod hynny yn rhyw fath o record. Un o'r pethau nodedig a ddaeth i'w ran oedd bod yn gwmni i Dic Penderyn cyn iddo wynebu'r grocbren. Roedd 11,000 wedi arwyddo deiseb i ddatgan fod Dic Penderyn wedi cael ei gyhuddo ar gam yn dilyn terfysgoedd Merthyr ym 1831 – y cyhuddiad oedd iddo drywanu milwr, ond fe'i cafwyd yn euog. Aeth Edmwnd Evans i'w gell a gweddio efo Dic Penderyn am y tro olaf. Sut mae rhywun yn cysuro llanc dwy ar hugain oed, hefo gwraig ifanc a babi bach, wn i ddim. A pham mai pregethwr o Sir Feirionnydd wnaeth hyn, yn hytrach na gweinidog lleol? Wedi'r cyfan, roedd chwaer Dic yn briod â gweinidog Methodist, ond efallai fod gormod o beryg i rhywun lleol uniaethu ei hun â'r achos. Mae dyddiaduron manwl Edmund Evans wedi ei cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Yn Soar y claddwyd Edmund Evans ym 1864, ac mae darlun olew ohono yn y festri, ynghyd ag englyn wnaed gan Elis Owen, Cefnmeysydd.

Cennad hedd: ei fedd wyf fi -yn Soar
Y mae'r Sant yn tewi;
I gannoedd y bu'n gweini
Gwaed y Groes i gyd ei gri.

 

 

 

 

Pan oedd Diwygiad '04 yn ei fri, roedd yr aelodau eisiau dathlu canmlwyddiant yr Achos ac eisiau codi arian. Unwaith eto, gwneud y gwaith eu hunain ddaru nhw. Pedwar can punt oedden nhw eisiau ei godi (sy'n nes at £45,000 yn arian heddiw). Trefnu 'Noddachfa Fawreddog' wnaethant, sef Bazar – am dridiau! Digwyddodd hyn wythnos cyn y Nadolig, ac roedd y pedair stondin efo enwau crand, 'Moelwyn Stall,' 'Dwyryad Stall', ac ati, yn ogystal a 'Refreshment Stall'. Rhaid eu bod yn stondinau go fawr gan fod pymtheg yn fygrifol am bob un stondin, ac mae eu henwau a'u cyfeiriadau wedi eu nodi. Mi wn hyn gan mai brawd Jane Ellen, Edmwnd Evans, oedd yr ysgrifennydd ac mae copi o'r rhglen gen i. Yr hyn na wn yw beth oedd yn cael ei werthu ar y stondinau. Ond beth bynnag ydoedd, roedd yn llwyddiant, a chodwyd y swm.

Efo'r elw, codwyd ty gweinidog hardd, Bryn Awel, helaethwyd y fynwent a chliriwyd y ddyled ar Seion. Efallai i'r cyfan fod yn ormod i Edmund Evans, achos mudodd i America yn fuan wedyn!

Ar Ragfyr 17, 2017, dyma ddilyn y lôn gul, ddeiliog i Soar, i'r gwasanaeth olaf. Tra'n eistedd yno, ymysg y saint, doedd fawr wedi newid mewn can mlynedd. Wedi'r oedfa, aethom i gael te traddodiadol yn y Neuadd, a difyr oedd y sgwrs. Mae'r bobl yr un mor wydn, yr un mor wresog eu croeso. Dim ond nad oes neb i warchod yr achos bellach. Oes, mae gennym Lywodareth i Gymru, mae Soar wedi ei gofrestru gan CADW, ond fedran nhw ddim cadw Soar ar agor. Rhyfedd o fyd.