Chwilio

Cofnod o ddigwyddiadau a Gweithgaredau yng Nghapel Bryntecwyn ers 2000

Achlysuron arbennig yng Nghapel Bryntecwyn gyda’r Parch Anita Parry-Ephraim yn gweinyddu, cyn iddi gael ei sefydlu yn Weinidog rhan amser ar yr Eglwys.

Bedyddiadau
27 Chwefror 2000 - Gruffydd Jones 
Chwefror 2003 - Angharad Jones
Mai 2003 - Gwion Evans 
7 Tachwedd 2004 - Osian Llyr Evans 
14 Medi 2003 - Carys Elain Dukes 

Priodasau
Sharon Jones a Dylan Owen - 30 Awst 2003 (y briodas gyntaf yma)
Nia Wyn Jones a Stephen Dukes - 18 Medi 2004

Angladdau
11 Hydref 2004 - Mrs Fanny Hughes, Bronallt, Bryn Eithin, Llandecwyn
2 Tachwedd 2004. - Mrs Kathleen Rogers, Braich Gwenyn, Bryn Eithin, Llandecwyn

Gwella Cyflwr y Capel
Ym mis Medi 2006 gosodwyd 6 ffenestr gwydr dwbl yn y Capel gan Gwmni o Garndolbenmaen – Ffenestri Dwyfor a hefyd gosodwyd ‘weatherboard’ newydd un pen i’r adeilad a’i beintio yn ogystal â pheintio y gwaith coed pen arall y capel i gyd uwchben y fynedfa.

Ail-gychwyn yr Ysgol Sul
Ers sefydlu y Parch Anita Parry Ephraim yn Weinidog ar 13 Gorffennaf 2006, (ceir adroddiad o’r Gwasanaeth Sefydlu ar dudalen ar wahan) ail-gychwynwyd yr Ysgol Sul ar 11 Tachwedd 2006 trwy frwdfrydedd lawer o famau ifanc a chefnogaeth Anita – Carys Evans, Nia Dukes a Meinir Jones (aelodau ym Mryntecwyn), ynghyd â Ffion Williams, Elin Williams, Drudwen Jones a Sian Ephraim (nad ydynt yn aelodau). Cynhelir yr Ysgol Sul ar bnawn Llun, rhwng 3.30 a 4.30 o’r gloch.

Mae 11 o blant, rhwng 2½ a 7 oed yn paratoi ar gyfer cymryd rhan yng Ngwasanaeth Nadolig Capel Bryntecwyn ar bnawn Sul 24 Rhagfyr 2006 – Gruffydd, Angharad, Gwion, Osian Wyn, Carys Elain, Ellie, Lois, Harri, Beca, Sion ac Osian.

24 Rhagfyr 2006
Roedd Capel Bryntecwyn yn llawn pnawn dydd Sul, 24 Rhagfyr pan gynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig arbennig o dan ofal y Gweinidog, y Parch Anita Ephraim.  Am y tro cyntaf ers tua naw mlynedd roedd eto blant yn Ysgol Sul Bryntecwyn i gymryd rhan mewn gwasanaeth a braf iawn oedd gweld hynny’n digwydd. Cafwyd cyflwyniadau gan y Gweinidog a darlleniadau gan nifer o aelodau’r capel. Ella Wynne Jones oedd wrth yr organ a chyfeiliwyd i’r plant ar y piano gan Elin Williams.  Ar ddiwedd y gwasanaeth cyhoeddodd y Gweinidog y bydd yn barod i dderbyn unrhyw un yn aelod i’r Eglwys ddechrau’r flwyddyn newydd.

Gwasanaeth Sul y Blodau – 1 Ebrill 2007
Trefnwyd gwasanaeth gan y Parch Anita Ephraim ar gyfer y pnawn Sul yma gydag aelodau Capel Bryntecwyn, plant yr Ysgol Sul yn canu a darllen, ac aelodau o Gapel Soar yn cymryd rhan, dan arweiniad ein gweinidog.

Dydd Gwener y Groglith – 6 Ebrill 2007
Am y tro cyntaf yn hanes Capel Bryntecwyn, cynhaliwyd oedfa gymun o naws arbennig iawn ar fore Gwener y Groglith dan ofal y Parch Anita Ephraim.

Gwasanaeth Bedydd - pnawn Sul, 7 Hydref 2007
Ar bnawn Sul braf, gyda llawer o bobl a phlant yn bresennol, bedyddiwyd Sioned Alaw Evans, merch fach Arwel a Carys Evans, Tallin, Llandecwyn. Cafwyd gwasanaeth hyfryd dan ofal y Parch Anita Parry Ephraim gydag Ella Wynne Jones wrth yr organ.

Gwasanaeth Diolchgarwch – pnawn Sul, 22 Hydref 2007
Cynhaliwyd Gwasanaeth Diolchgarwch Capel Bryntecwyn ar y Sul yma, dan arweiniad y Gweinidog, y Parch Anita Parry Ephraim gyda nifer o aelodau ieuenga’r Capel yn cymryd rhan, ynghyd ag eitemau gan blant yr Ysgol Sul. Eto roedd nifer dda yn bresennol a chafwyd gwasanaeth cofiadwy.

Gwasanaeth Bedydd – pnawn Sul, 18 Tachwedd 2007
Roedd nifer dda o’r teulu wedi dod ynghyd i Gapel Bryntecwyn prynhawn Sul, 18 Tachwedd i wasanaeth bedydd ychydig mwy anghyffredin nag arfer wrth i dri o
blant bach o’r un teulu - sef Beca, Sion a Lois gael eu bedyddio yr un pryd. Plant Iolo ac Elin Williams, Llygad y Llong, Talsarnau oeddynt a chafwyd gwasanaeth cartrefol hyfryd dan ofal y Parch Anita Parry Ephraim, gyda Mai Jones wrth yr organ.

Gwasanaeth Nadolig – pnawn Sul, 16 Rhagfyr 2007
Paratowyd Gwasanaeth Nadolig gan y Parch Anita Parry Ephraim ar gyfer yr eglwys gyda nifer o’r aelodau a chyfeillion eraill yn cymryd rhan ynghyd â phlant yr Ysgol Sul. Roedd ystod eang o oedran yn cymryd rhan – yr aelod hynaf yn naw deg oed a’r plentyn ienga yn 3 oed. Arweinwyd gan y Gweinidog ac roedd nifer o ddarlleniadau gan yr oedolion ac eitemau o adrodd a chanu gan y plant. Thema’r gwasanaeth oedd ‘deuddeg dydd Nadolig’ a chyflwynodd y plant benillion am y Cristingl gyda phob un yn cael oren a channwyll wedi’i goleuo ynddi. Cyflwynwyd anrheg i bob plentyn ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth Bedydd 20 Ionawr 2008
Ar brynhawn Sul, 20 Ionawr 2008 bedyddiwyd Erin Fflur Mitchelmore, merch fach Siwan Davies (Draenogan Mawr gynt) a Bryn Mitchelmore o Flaenau Ffestiniog gan
y Parch Anita Parry Ephraim. Roedd nifer dda o’u teuluoedd wedi dod i’r gwasanaeth arbennig a drefnwyd gan y Gweinidog a hyfryd oedd gweld Siwan, un o gyn-aelodau Ysgol Sul Bryntecwyn yn bedyddio ei mherch yma. Llongyfarchwyd Siwan a Bryn ar eu dyweddiad ddiwrnod Nadolig. Bydd y ddau yn priodi ym mis Mehefin 2008.

Gwasanaeth Diolchgarwch 16 Tachwedd 2008
Gan fod rhai teuluoedd a’u plant i ffwrdd ar Sul arferol y Diolchgarwch, sef y trydydd dydd Sul ym mis Hydref, fe fu raid gohirio’r Gwasanaeth arbennig yma hyd at fore dydd Sul, 16eg o Dachwedd. Dan arweiniad y Gweinidog, y Parch Anita Parry Ephraim, cafwyd oedfa arbennig gydag oedolion a phlant yr Ysgol Sul ym cymryd rhan.

Cyflwynwyd eitemau gan y plant mewn darlleniadau a chân, i gyfeiliant Elin Williams ar y piano. Braf oedd gweld nifer dda wedi dod i’r Gwasanaeth a’r plant mor barod i wneud eu rhan. Ella Wyn Jones oedd wrth yr organ.

Gwasanaeth Nadolig 18 Rhagfyr 2008
Cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig yr Ysgol Sul dan arweiniad y Parch Anita Parry Ephraim ar nos Iau, 18 Rhagfyr am 6.30 o’r gloch. Cymerwyd y rhan arweiniol gan y Gweinidog, a chafwyd darlleniadau gan Carys Evans, Drudwen Lloyd Jones, Meinir Jones ac Elin Williams - Elin hefyd oedd cyfeilio i’r plant a’r gynulleidfa.

Cafwyd eitemau o ganu gan y plant a hefyd bortread o ddrama’r geni ganddynt, dan ofal Carys Evans. Diolchwyd i bawb oedd yn ymwneud â’r Ysgol Sul gan y Gweinidog a chyflwynodd anrheg i bob plentyn mewn gwerthfawrogiad o’u cyfraniad i’r gwasanaeth.  Cyflwynwyd anrheg i’r plant hefyd gan Carys ar ran yr Ysgol Sul. Rhoddwyd casgliad y gwasanaeth at waith yr Ysgol Sul.

Cymdeithas Bro Tecwyn 12 Ionawr 2009
Croesawyd bawb i Wasanaeth Dechrau Blwyddyn Newydd yng Nghapel Bryntecyn nos Lun, 12 Ionawr gan Frances Griffith, Is-lywydd y Gymdeithas a chafwyd pregeth amserol gan y Parch Meirion Lloyd Davies, Pwllheli.

Cinio Gwyl Dewi’r Gymdeithas 11 Mawrth 2009
Penderfynwyd cael cinio canol dydd eleni am y tro cyntaf a mynd i Dafarn Pencei, Porthmadog ar bnawn dydd Mercher, 11 Mawrth. Roedd pymtheg yn bresennol a threuliwyd dwy awr hamddenol yn mwynhau pryd o fwyd blasus a sgwrs wrth y bwrdd. Cyflwynwyd y weddi cyn dechrau gan y Parch Anita Parry Ephraim.

Oherwydd colli dau aelod ffyddlon yn 2008, sef Iorwerth Griffiths, Llywydd y Gymdeithas a William R Jones, a niferoedd yn lleihau oherwydd cyflwr iechyd aelodau
eraill, roedd angen gwneud penderfyniad ynglyn â dyfodol y Gymdeithas. Wedi trafod y mater, cytunwyd i beidio gorffen y Gymdeithas ar hyn o bryd ond i aros tan mis Medi a thrafod y sefyllfa eto bryd hynny ac i geisio dod at ein gilydd ambell dro, dim ond efallai am bryd o fwyd.

Oedfa Diolchgarwch - 18 Hydref 2009
Cynhaliwyd Gwasanaeth Diolchgarwch Capel Bryntecwyn prynhawn Sul, 18 Hydref dan ofal y Gweinidog, y Parch Anita Parry Ephraim. Wedi’r rhannau dechreuol gan y Gweinidog, fe gymrwyd rhan gan blant yr Ysgol Sul gyda’u hathrawes Carys Evans yn darllen stori a’r plant, gyda chardiau o luniau gwahanol, yn dehongli’r hyn oedd yn cael ei ddweud, cyn cael cân ganddynt i gyfeiliant Elin Williams ar y piano.

Cyflwynodd y gweinidog hanes Mephiboseth, y bachgen bach cloff, i’r plant gyda chymorth adnoddau gweledog, a chael ymateb da iawn ganddynt.

Cymdeithas Bro Tecwyn
Cafwyd trafodaeth pellach ynglyn â Chymdeithas Bro Tecwyn ym mis Hydref 2009 a phenderfynu peidio cynnal dim byd cyn y Nadolig, ond i gael pregeth dechrau blwyddyn newydd a mynd allan am bryd o fwyd yn ystod Chwefror/Mawrth 2010.

Gwasanaeth Nadolig yr Ysgol Sul, 20 Rhagfyr 2009
Cynhaliwyd y Gwasanaeth Nadolig brynhawn Sul, 20 Rhagfyr ond yn anffodus methodd Y Parch Anita Parry Ephraim â chyrraedd Capel Bryntecwyn oherwydd eira trwchus o gwmpas ei chartref ac anfonodd ymddiheuriad am ei habsenoldeb. Serch hynny, llwyddwyd i gael gwasanaeth hyfryd dan ofal plant yr Ysgol Sul a’u mamau.

Arweinwyd y cyfan gan Carys Evans, arolygwr yr Ysgol Sul a chyflwynwyd gwasanaeth ar ffurf cyfweliad rhaglen deledu oedd wedi’i baratoi gan y Gweinidog. Roedd y plant wrthi’n
brysur yn canu, darllen ac actio drama’r geni a chanmolwyd hwy’n fawr iawn am wneud eu rhan mor arbennig. Elin Williams oedd yn cyfeilio i’r plant ac Ella Wynne Jones oedd wrth yr organ.

Wedi’r gwasanaeth roedd y plant yn cael mwynhau parti Nadolig yn y capel a hefyd cafwyd ymweliad gan Sion Corn cyn mynd adre.

Mae’n hyfryd iawn gweld yr Ysgol Sul yn llwyddo a’r plant yn mwynhau dod i’r
Capel ac yn barod i gynnal gwasanaethau’n achlysurol ac mae’n diolch yn fawr iawn i’r mamu sy’n eu paratoi ar gyfer achlysuron arbennig.

Dydd Sul, 27 Rhagfyr 2009
Cafwyd gwasanaeth ychwanegol gan ein Gweinidog pnawn Sul, 27 Rhagfyr a chael oedfa gymun i gloi’r flwyddyn.

Gwasanaeth Dechrau Blwyddyn Newydd 2010
Roedd Oedfa wedi’i threfnu ar gyfer nos Iau, 7 Ionawr 2010 gyda phregeth gan y Parch Meirion Lloyd Davies, Pwllheli. Ond yn anffodus, oherwydd y tywydd garw iawn, bu rhaid canslo’r oedfa. Gwneir trefniant eto gyda Mr Davies i ddod i roi anerchiad yn y cinio a drefnir cyn bo hir.

Cinio Cymdeithas Bro Tecwyn
Trefnwyd i gael Cinio’r Gymdeithas yn Nhafarn yr Afr, Glandwyfach ddydd Mawrth, 23 Chwefror 2010 a gwahoddwyd y Parch Meirion Lloyd Davies i ymuno â ni ac i roi sgwrs ar ôl bwyta. Croesawodd Llywydd y Gymdeithas, Frances Griffith, bawb i’r achlysur gan gyfeirio at y ddwy golled mae’r Gymdeithas wedi’i gael yn ddiweddar ym marwolaeth Mrs Eirlys Williams a Mrs Kate Owen – y ddwy’n ffyddlon iawn bob amser.

Wedi dweud y fendith, mwynhawyd pryd o fwyd ardderchog cyn cael pleser mawr o wrando ar y gwr gwâdd yn sôn am lawer o achosion hwyliog a diddorol a ddaeth i’w ran fel gweinidog dros nifer o flynyddoedd.

Gan fod cymaint o leihad yn yr aelodau erbyn hyn, cytunwyd y byddai’n briodol i ddirwyn Cymdeithas Bro Tecwyn i ben ond i ddal i ddod at ein gilydd i gymdeithasu dros bryd o fwyd ambell waith. Rhoddwyd gweddill o’r arian oedd yn y cyfrif at yr achlysur yma ac fe fydd y trysoryddion, Robert ac Eurwen Jones, yn cau y cyfrif ar ôl hyn.

Diolchodd Frances i Meirion Lloyd Davies am ei sgwrs ddifyr ac edrychwn ymlaen at ei gwmni eto yn cadw oedfa ym Mryntecwyn.

Oedfa Gymun 2 Ebrill 2010
Cynhaliwyd Oedfa Gymun yng Nghapel Bryntecwyn am 11 o’r gloch bore dydd Gwener y Groglith, 2 Ebrill 2010 dan ofal ein Gweinidog, y Parch Anita Ephraim a chafwyd gwasanaeth bendithiol.

Sul y Pasg 4 Ebrill 2010
Nos Sul y Pasg, 4 Ebrill cynhaliwyd Oedfa Arbennig dan ofal y Parch Anita Ephraim, gyda’r aelodau hefyd yn cymryd rhan mewn gwasaneth a baratowyd gan y Gweinidog.
Cydnabuwyd y paratoadau gan Anita a diolchwyd i bawb am eu parodrwydd i gymryd rhan.

Bedydd 5 Medi 2010
Ar y pnawn Sul uchod, dan ofal y Gweinidog, y Parch Anita Ephraim, bedyddiwyd Dylan Bryn Mitchelmore, mab blwydd oed Bryn a Siwan Mitchelmore, Cae Gwastad, Harlech, ac ŵyr i Gwion a Gwyneth Davies, Draenogan Mawr, Talsarnau. Roedd nifer fawr o aelodau’r ddau deulu wedi dod ynghyd, gan gynnwys nifer o blant bach, a chafwyd gwasanaeth o naws arbennig i’r achlysur. Roedd yn braf gweld cyn aelodau Ysgol Sul Bryntecwyn yn bresennol, gan gynnwys Heledd, chwaer Siwan, a’i gŵr Islyn o Drawsfynydd yno gyda’i mab bach mis oed, Mabon Prysor a gysgodd drwy’r cyfan.

Ar ddiwedd y gwasanaeth, nid oedd neb am frysio o’r Capel gyda phawb yn mwynhau cael sgwrs ac ymlacio cyn cychwyn am y te bedydd yng nghartref Siwan a Bryn.

Gwasanaeth Diolchgarwch 17 Hydref 2010
Pnawn Sul, 17 Hydref cynhaliwyd Gwasanaeth Diolchgarwch dan ofal y Gweinidog.  Roedd y Parch Anita Ephraim wedi paratoi gwasanaeth arbennig o wahanol ddarlleniadau a chanu emynau ac o dan ei harweiniad fel cyflwynydd, cafwyd darlleniadau gan Anwen Roberts, Dawn Owen, Ella Wynne Jones, Mai Jones, Eluned Williams, Frances Griffith a Rhian Owen. Ella Wynne Jones oedd wrth yr organ.

Diolchwyd i Anita am ei pharatoadau at y Diolchgarwch a gwerthfawrogwyd parodrwydd pawb i gymryd rhan.

Gwasanaeth Nadolig 2010
Oherwydd yr eira mawr, gyda’r Parch Anita Ephraim yn methu symud o’i chartref a phawb arall ddim am fentro allan yn y tywydd garw, methwyd â chynnal Gwasanaeth Nadolig ar ddydd Sul, 19 Rhagfyr.

Ond ail-drefnwyd i’r plant gynnal Gwasanaeth byr am 4.00 o’r gloch brynhawn dydd Mercher, 29 Rhagfyr a chawsom eitemau Nadoligaidd o ddarllen a chanu ganddynt dan ofal Carys Evans ac Elin Williams. Roedd y Parch Anita Ephraim yn parhau i fethu symud o’i chartre’ oherwydd yr eira mawr ar y dyddiad yma hefyd.

Yn dilyn y gwasanaeth, cynhaliwyd parti Nadolig i’r plant a chyflwynwyd anrheg i bob un ar y diwedd.

Gwasanaeth Gwener y Groglith 22 Ebrill 2011
Cynhaliwyd Gwasanaeth Gymun bore Gwener y Groglith, 22 Ebrill gyda’r Parch Anita Ephraim wedi paratoi gwasanaeth arbennig ar gyfer y bore yma a chafwyd cyflwyniadau gan y Gweinidog a darlleniadau gan aelodau Bryntecwyn a Soar. Cymerwyd rhan gan Mai Jones, Dawn Owen, Ella Wynne Jones ac Eluned Williams, gydag Ella wrth yr organ.

Gwasanaeth Sul y Pasg Capel Soar 24 Ebrill 2011
Trwy ddymuniaad Mr Gareth Jones, Caerdydd a dan ofal Gweinidog Capel Soar, y Parch Gwyn Thomas, cynhaliwyd oedfa arbennig fel teyrnged i Dr Ann Jones, gwraig Gareth Jones, a fu farw’n ddisymwth fis Hydref 2010.  Dymuniad Dr Ann oedd cael cynnal y gwasanaeth yma’n Soar ac roedd aelodau’r ddau gapel yn cymryd rhan.  Arweinwyd yr oedfa gan y Parch Gwyn Thomas a chafwyd darlleniadau gan Gareth Jones, gyda Frances Griffith, Eluned Williams a Megan Williams o Gapel Soar yn cymryd rhan ynghyd â Dawn Owen a Mai Jones o Fryntecwyn. Ella Wynne Jones oedd wrth yr organ. Roedd dwy ferch Gareth Jones a’u plant yn bresennol.

Bu Gareth Jones a’i wraig yn hynod ffyddlon yn Soar a Bryntecwyn pan ddeuant ar eu gwyliau i’w tŷ yn Nhanymarian, Soar ac rydym yn gweld colled ar eu hôl yn y ddau gapel.

Gwasanaeth y Sulgwyn 5 Mehefin 2011
Roedd y Parch Anita Ephraim wedi paratoi gwasanaeth arbennig ar hanes bywyd Ann Griffiths, Dolwar Fach ar gyfer y Sul yma ond yn anffodus methodd Anita â bod yn bresennol oherwydd salwch. Penderfyniad y blaenoriaid oedd cario ‘mlaen i gynnal y gwasanaeth gan fod yr ysgrifenyddes wedi gofyn i nifer gymryd rhan ac felly cynhaliwyd yr oedfa gydag Ella Wynne Jones, Mai Jones, Gwyneth Davies, Carys Evans a Frances Griffith yn cyflwyno’r hanes trwy wahanol ddarlleniadau.

Yn anffodus roedd Eluned Williams i fod i gymryd rhan ond roedd hithau hefyd yn sâl. Bu ychydig o ganu emynau a llwyddwyd i gynnal gwasanaeth cofiadwy.

Gwasanaeth Diolchgarwch 23 Hydref 2011
Paratowyd gwasanaeth gan y Parch Anita Ephraim o dan y teitl ‘Duw y Garddwr’ ar gyfer y pnawn Sul arbennig yma. Roedd y cyflwyniadau i gyd yng ngofal y Gweinidog, a chafwyd darlleniadau hefyd gan Dawn Owen, Ella Wynne Jones, Mai Jones, Gwyneth Davies, Anwen Roberts, Carys Evans, Meinir Jones a Frances Griffith yn ogystal a chyfraniad pwysig i’r gwasanaeth gan blant yr Ysgol Sul, gyda Gwion Evans, yr hyna’ ohonynt yn darllen emyn. Bu’n oedfa hyfryd a mawr oedd ein diolch i’n Gweinidog am baratoi’r cyfan.

Gwasanaeth Nadolig 18 Rhagfyr 2011
Roedd y gwasanaeth yma’n un gwahanol i’r arfer gan fod y Parch Anita Ephraim wedi dod â chyfrifiadur a sgrîn enfawr gyda hi i gyflwyno neges y Nadolig trwy gyfrwng ‘Powerpoint’.  Roedd nifer dda’n y gwasanaeth a’r plant yn arbennig yn mwynhau gwrando a gwylio’r adnodd modern yma roeddynt mor gyfarwydd ag ef yn eu bywyd bob dydd. Y rhai gymrodd ran oedd Gwion, Osian a Sioned Evans, Ellie, Jac a Cari Ellen Jones, Beca, Sion a Lois Williams ac Erin Fflur Mitchelmore.

O dan arweiniad y Gweinidog, roedd darlleniadau eraill gan Dawn Owen, Mai Jones, Carys Evans, Gwyneth Davies a Frances Griffith gyda phlant yr Ysgol Sul yn cymryd rhan amlwg, o dan ofal Carys Evans, i adrodd stori drama’r geni. Er mai ond criw bach ydynt, roedd gwrando arnynt yn cymryd rhan ac yn canu’r carolau cyfarwydd, nerth eu pennau, yn rhoi llawer o bleser. Cafwyd gair gan y Gweinidog yn arbennig i’r plant cyn gorffen y gwasanaeth.

Diolchodd Mai i Anita am baratoi’r gwasanaeth ac roedd yn amlwg bod y math yma o gyflwyniad wedi apelio’n neilltuol at y plant – ond roedd pawb wedi mwynhau gwasanaeth ychydig yn wahanol i’r arfer. Diolchodd hefyd i bawb oedd wedi cymryd rhan, gyda diolch arbennig i’r plant i gyd. Dymunwyd Nadolig Llawen iawn i bawb. Roedd te parti i’r plant yn y capel ar y diwedd a daeth Sion Corn heibio hefyd gydag anrheg i bob un.

Gwasanaeth Bedydd 12 Awst 2012
Pnawn Sul, 12 Awst 2012, gyda Chapel Bryntecwyn yn llawn o deulu a chyfeillion, aelodau’r Capel, a nifer dda o blant bach yn bresennol hefyd, cynhaliwyd Gwasanaeth Bedydd Anna Efa Mitchelmore, merch ieuengaf  Bryn a Siwan Mitchelmore, Cae Gwastad, Harlech, a chwaer fach Erin Fflur a Dylan Bryn. Paratowyd y gwasanaeth gan y Parch Anita Ephraim a chafwyd oedfa hyfryd, yn ôl ei harfer, o dan ei gofal, gydag Anna Efa yn hollol hapus yn ei breichiau wrth gael dŵr ar ei thalcen.  
Hyfryd oedd gweld nifer o gyn-aelodau’r Ysgol Sul yn bresennol – i gyd o deulu Draenogan Mawr, Talsarnau gyda Siwan, merch hyna’r teulu wedi dod a’i thrydydd plentyn i’w bedyddio ym Mryntecwyn.

Gwasanaeth Miri Medi 2012
Cynhaliwyd Oedfa arbennig yn Nghapel Moreia, Trawsfynydd ar bnawn Sul, 23 Medi dan y teitl ‘Creu, cynnal a chadw’. Trefnwyd y gwasanaeth gan y Gweinidog, y Parch Anita Ephraim a gwahoddwyd holl aelodau Gofalaeth y Gweinidog i’r achlysur.

Roedd cynrychiolaeth o bob eglwys yn yr Ofalaeth gyda rhai aelodau yn cyflwyno gwahanol ddarlleniadau. Cynrychiolwyd Capel Bryntecwyn gan Dawn Owen, Ella Wynne Jones a Mai Jones, gydag Ella a Mai yn cyflwyno darlleniadau. Roedd plant ysgolion Sul Moreia ac eglwysi eraill yr Ofalaeth yn cyflwyno eitemau a chafwyd oedfa o amrywiol ddarlleniadau a chân.

Yn dilyn yr oedfa, roedd te ardderchog yn ein disgwyl yn Neuadd Trawsfynydd, gyda chyfraniadau gan aelodau pob eglwys wedi’i roi at y bwyd. Mwynhawyd y lluniaeth yn fawr iawn a bu’n achlysur cartrefol braf.

Gwasanaeth Diolchgarwch 21 Hydref 2012
‘Ystyriwch Adar yr Awyr’ oedd teitl y Gwasanaeth Diolchgarwch eleni, wedi’i baratoi gan y Parch Anita Ephraim a chroesawodd bawb i’r oedfa, a da oedd gweld cynulleidfa deilwng yn bresennol. Roedd cyflwyniadau gan y Gweinidog, a darlleniadau gan yr aelodau a chyfeillion eraill, gydag rhan arbennig gan blant yr Ysgol Sul. Roedd tri o’r rhai hyna’ – Ellie, Beca a Gwion yn cyflwyno emynau, gyda Gwion hefyd yn cymryd rhan arweiniol, a’r plant ieuengaf yn darllen a chanu. Roeddynt wedi’u hyfforddi gan Carys Evans ac Elin Williams ac roedd yn werthchweil bod yno’n gwrando arnynt.

Diolchwyd i bawb am gymryd rhan Mai Jones, gyda diolch arbennig i’r plant am wneud mor dda. Osian a Jac aeth o amgylch i hel y casgliad.

Gwasanaeth Nadolig 23 Rhagfyr 2012??
Daeth diwedd blwyddyn 2012 i ben gyda Gwasanaeth Nadolig yng Nghapel Bryntecwyn prynhawn Sul

Gwasanaeth Diolchgarwch 20 Hydref 2013
Cynhaliwyd Oedfa arbennig yng Nghapel Bryntecwyn pnawn Sul, 20 Hydref gyda phlant yr Ysgol Sul ac oedolion yn cymryd rhan mewn Gwasanaeth a baratowyd gan y Gweinidog, y Parch Anita Ephraim. Cafwyd nifer o ddarlleniadau gan y plant - Ellie, Beca, Osian, Sion, Jac, Sioned, Erin Fflur a Lois ac yn helpu hefyd oedd Dylan Bryn a Cari Elen - a chanwyd emyn i gyfeiliant Carys Evans ar y piano. Hefyd cafwyd cyflwyniadau arbennig i’r plant gan y Gweinidog.

Ella Wynne Jones oedd wrth yr organ a chafwyd cyflwyniadau gan Frances, Anwen, Mai, Gwyneth ac Eluned. Diolchodd Mai Jones i bawb fu’n darllen, gan fynegi gwerthfawrogiad o’u parodrwydd i ddod i helpu cyflwyno oedfa arbennig ar gyfer y Diolchgarwch.

Gwasanaeth Nadolig 22 Rhagfyr 2013
Prynhawn Sul, 22 Rhagfyr, daeth nifer dda ynghyd i Wasanaeth yr Adfent yng Nghapel Bryntecwyn. Paratowyd y Gwasanaeth gan y Parch Anita Ephraim, ond oherwydd amgylchiadau anodd personol, methodd a bod yn bresennol. Croesawodd Mai Jones bawb i’r oedfa a chyflwynodd ymddiheuriad ar ran y Gweinidog ac eglurhad am ei habsenoldeb cyn cario ymlaen i ddechrau gyda’r darlleniad cyntaf o’r gwasanaeth.

I ddilyn, roedd darlleniadau gan Ella Wynne Jones, Anwen Roberts, Frances Griffiths, Eluned Williams, Gwyneth Davies, Carys Evans, Siwan Davies a Meinir Jones. Roedd rhan arbennig gan y plant yn ystod yr oedfa a bu darlleniadau addas gan Beca, Ellie, Sion, Osian, Jac, Sioned, Lois ac Erin ar gyfer y Nadolig, cyn i Cari Elen a Dylan Bryn ymuno gyda hwy i ganu’r garol ‘I orwedd mewn preseb’ i gyfeiliant Elin Williams ar y piano. Ella Wynne Jones oedd wrth yr organ a llwyddwyd i gyflwyno Gwasanaeth Nadolig arbennig iawn.

Diolchodd Mai i bawb am gymryd rhan, gan fynegi gwerthfawrogiad o’u parodrwydd bob amser i wneud cyfraniad i sicrhau bod y gwasanaeth yn mynd rhagddo’n ddidrafferth. Ar ôl y cyhoeddiadau, aeth Sioned ac Erin o amgylch i hel y casgliad, cyn i bawb ganu’r garol olaf a chyd-adrodd y fendith. Dymunwyd Nadolig Llawen i bawb wrth ddiweddu.

Nid oedd te parti y tro yma, ond rhoddwyd anrheg i bob plentyn i fynd adra gyda hwy.

Gwasanaeth Bedydd 6 Gorffennaf 2014
Prynhawn Sul, 6 Gorffennaf 2014, cynhaliwyd Gwasanaeth Bedydd Anedd Enlli o Drawsfynydd, merch fach Islyn a Heledd Griffiths, a chwaer fach i Mabon Prysor.  Roedd Heledd, merch Draenogan Mawr, Talsarnau, yn gyn-aelod o’r Ysgol Sul yma’n Mryntecwyn am nifer o flynyddoedd a braf iawn oedd cael ei chroesawu hi a’i gŵr, ynghyd â theulu Draenogan a theulu Islyn o Drawsfynydd i’r achlysur hapus yma.

Gwasanaethwyd gan y Parch Anita Ephraim a chafwyd oedfa hyfryd o dan ei gofal, gydag Anedd yn fabi da iawn drwy’r cyfan. Roedd nifer dda o blant yn bresennol a gwahoddwyd hwy gan y Gweinidog i ddod ymlaen i ganu ‘Dod ar fy mhen’ gyda’u gilydd a chafwyd canu swynol iawn ganddynt.  Roedd yn braf iawn gweld cymaint yn y Capel i fwynhau’r achlysur teuluol arbennig yma.

Gwasanaeth Diolchgarwch 5 Hydref 2014
Cynhaliwyd dwy Oedfa o Ddiolchgarwch yng Nghapel Bryntecwyn eleni. Roedd yr Gwasanaeth cyntaf pnawn Sul, 5 Hydref dan ofal y Gweinidog, y Parch Anita Ephraim o dan y teitl ‘Ffynnu yng Ngardd Duw’. Roedd Anita wedi paratoi gwasanaeth arbennig ac o dan ei harweiniad, fe gymerwyd rhan gan aelodau Bryntecwyn a Soar yn darllen rhannau o’r gwasanaeth, ynghyd â chyflwyno emynau. Cafwyd cyfraniad gan Carys Evans, Anwen Roberts, Eluned Williams, Frances Griffith, Margaret Roberts, Dawn Owen, Gwyneth Davies a Mai Jones, gydag Ella Wynne Jones wrth yr organ.

Diolchodd Mai i Anita am baratoi’r Gwasanaeth a diolchwyd i bawb a gymrodd ran yn yr Oedfa arbennig yma.

Gwasanaeth Diolchgarwch 19 Hydref 2014
Roedd nifer dda wedi dod ynghyd i Gapel Bryntecwyn pnawn Sul, 19 Hydref i wrando ar y Gwasanaeth dan ofal y mamau a’r plant. Cafwyd oedfa hyfryd gan yr ieuenctid wrth iddynt gyflwyno darlleniadau pwrpasol ar gyfer y tymor diolchgarwch dan arweiniad Carys Evans. Y plant fu’n brysur yn darllen oedd Ellie Jones, Beca Williams, Sion Williams, Osian Evans, Jac Jones, Sioned Evans, Lois Williams a Cari Ellen Jones, a chafwyd cymorth gan y mamau, Carys Evans, Meinir Jones ac Elin Williams, a hithau hefyd oedd wrth yr organ.

Diolchodd Mai Jones i bawb am ddod i’r oedfa i wrando ar y plant, i Carys Evans am drefnu’r cyfan ac i’r plant yn arbennig, am ddod i gynnal oedfa diolchgarwch ym Mryntecwyn. Roedd yn achlysur braf iawn i weld y plant yn tyfu ac yn gwneud eu rhan mor wych.

Gwasanaeth Nadolig 21 Rhagfyr 2014
Daeth cynulleidfa deilwng iawn ynghyd i Gapel Bryntecwyn prynhawn Sul, 21 Rhagfyr pryd y cafwyd Gwasanaeth arbennig ar gyfer y Nadolig, gyda’r Gweinidog, y Parch Anita Ephraim yn cymryd y rhan agoriadol, ac yna cafwyd darlleniadau pwrpasol gan yr ieuenctid a’r mamau. Trefnwyd y gwasanaeth gan Carys Evans, a chafodd gymorth gan Meinir Jones a Siwan Mitchelmore.

Y plant a gymrodd rhan oedd Ellie, Osian, Jac, Sioned, Erin Fflur, Dylan Bryn, Cari Ellen ac Anna Efa. Wedi iddynt ganu y garol ‘I orwedd mewn preseb’ i orffen eu rhan hwy, cafwyd anerchiad cofiadwy ac amserol i’r plant gan y Parch Anita Ephraim a rhannodd becyn o ddanteithion i bob un ar ddiwedd ei chyflwyniad.

Diolchwyd i bawb am eu cyfraniad arbennig i’r oedfa gan Mai Jones, a chyhoeddwyd y byddai’r casgliad yn cael ei roi tuag at Apêl arbennig Cymorth Cristnogol yn Ne Affrica i helpu mamau ar ôl rhoi genedigaeth, a helpu’r babanod newydd anedig.

Dymunwyd Nadolig Dedwydd i bawb cyn canu’r garol olaf a chyd-adroddwyd y fendith i ddiweddu’r gwasanaeth.  Roedd te parti wedi’i drefnu i’r plant ar y diwedd a rhoddwyd anrheg i bob un cyn mynd adref.

Gwasanaeth Diolchgarwch 18 Hydref 2015
Cynhaliwyd y Gwasanaeth Diolchgarwch yng Nghapel Bryntecwyn brynhawn Sul, 18 Hydref dan ofal y gweinidog, y Parch Anita Ephraim. Wedi iddi gyflwyno’r gwasanaeth dechreuol, cafwyd darlleniadau addas gan y plant – Osian, Sioned a Lois, dan arweiniad Carys Evans, cyn gwrando ar Lois a Sioned yn canu deuawd hyfryd i gyfeiliant Elin Williams. I ddilyn, cyflwynodd y gweinidog stori Gwinllan Naboth a thrwy gyfrwng lluniau, adroddodd yr hanes yn arbennig i’r plant.

Diolchwyd i bawb am eu cyfraniad i’r gwasanaeth gan Mai Jones. Gwnaed caslgiad tuag at waith Cymorth Cristnogol.

Gwasanaeth Nadolig 20 Rhagfyr 2015
Daeth cynulleidfa dda ynghyd i’r Gwasanaeth Nadolig ym Mryntecwyn ar bnawn Sul, 20 Rhagfyr. Dechreuwyd y gwasanaeth gan y Gweinidog, y Parch Anita Ephraim, a thrwy gymorth taflunydd, cyflwynodd stori yn ymwneud â phob llun ar y wal, gan adrodd pwysigrwydd geni Iesu Grist i’r byd. Cafwyd gweddi ganddi cyn gwahodd y plant ymlaen i gymryd rhan.

Cyflwynodd y plant eu rhan hwy o’r gwasanaeth, dan ofal Carys Evans - Ellie, Beca, Osian, Jack, Sioned, Erin Fflur, Lois, Cari Ellen, Dylan Bryn ac Anna Efa – a dechreuwyd trwy gael datganiad Nadoligaidd ar y piano gan Lois, Sioned ac Erin Fflur. Yn dilyn, roedd darlleniadau pwrpasol a chanu hyfryd gan y plant i gyd i gyfeiliant Elin Williams.

Diolchodd Mai Jones i bawb a gymrodd rhan, gan ddiolch yn arbennig i’r plant am ddal i ddod i Fryntecwyn fel hyn o flwyddyn i flwyddyn. Diolchwyd i Anita hefyd am ei rhan hi‘n cyd-lynu’r gwasanaeth. Cyd-adroddwyd y fendith cyn canu’r garol olaf.

Braf yw cael cofnodi bod y gwasanaeth wedi bod yn achlysur gwerthchweil unwaith eto.  Cafodd y plant de parti bach ac anrheg cyn mynd adre.

Prynhawn Sul, 18 Medi 2016
Anfonwyd llythyr at bob aelod o Gapel Bryntecwyn i’w hysbysu o gyfarfod a drefnwyd yn y Capel i drafod y dyfodol. Roedd y llythyr wedi mynegi pryder ynglyn â lleihad sylweddol yn yr aelodaeth, diffyg presenoldeb mewn oedfaon a phrinder arian i barhau i gadw’r Capel yn agored.

Daeth 5 aelod i’r cyfarfod – Ella Wynne Jones, Mathew a Mai Jones, Anwen Roberts a Carys Evans, gydag un cyn-aelod erbyn hyn, Dawn Owen, y cyn-drysorydd sy wedi symud i fyw i Borthmadog ddiwedd Gorffennaf 2016 ond yn parhau i fod yn aelod yma hyd at ddiwedd 2016.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan ein Gweinidog, y Parch Anita Ephraim (salwch), Harri Jones (ar wyliau), Meinir Jones (gwaith) a Rhian Owen (gweithio nos a chysgu’n y dydd).

Roedd aelodau o Gapel Wesla Soar hefyd wedi cael gwahoddiad, gan ein bod yn cyd-addoli ar y Sul ac yn ddibynnol ar ein gilydd i ddweud y gwir i gadw’r ddau gapel yn agored. 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

bod problemau ariannol ganddynt hwythau hefyd.

Cyflwynwyd eglurhad gan Ella Wynne Jones ar y sefyllfa a arweiniodd at alw’r cyfarfod, gan gyfeirio at y pryder sy’n bodoli ynglyn â phresenoldeb aelodau a’r costau sy’ ynghlwm â chadw’r Capel ar agor. Cyflwynwyd adroddiad ar y sefyllfa ariannol gan Mai Jones, sydd yn cadw’r llyfrau nawr, ond cytunodd Anwen Roberts i’w chynorthwyo gyda’r gwaith a bydd ei henw yn cael ei nodi ar ffurflen mandadol gan y banc.

Wedi i bawb ddeall nad oedd gennym lawer o arian wrth gefn, a chlywed am y costau oedd ynghlwm â chadw’r Capel yn agored, cytunwyd i byddai rhaid derbyn y sefyllfa fel ag y mae ac i ddefnyddio’r arian sy’ mewn Income Bonds i gadw pethau i fynd am flwyddyn eto.

Roedd Ella wedi llenwi’r Suliau am hanner y flwyddyn tan diwedd 2017, a bydd gweddill y Suliau yn Soar. Byddwn felly yn cau’r achos diwedd 2017, os y gallwn barhau tan hynny.

Cytunwyd i anfon neges e-bost at Geraint Lloyd Jones, Ysgrifennydd Henaduriaeth Gorllewin Gwynedd i adrodd ar y sefyllfa.

Gwasanaeth Diolchgarwch y Plant 18 Hydref 2016
Cynhaliwyd Gwasanaeth Diolchgarwch ym Mryntecwyn pnawn Sul, 18 Hydref dan ofal Carys Evans gyda phlant yr Ysgol Sul yn unig yn cymryd rhan. 
Cyflwynwyd nifer o ddarlleniadau arbennig yn ymwneud â’r Diolchgarwch gan Ellie, Osian, Jack, Lois, Sioned, Erin, Cari Ellen, Dylan ac Anna a chyd-ganwyd dwy gân ganddynt. Roeddynt i gyd yn barod iawn i gymryd rhan a diolchwyd yn gynnes iddynt am eu gwaith gan Mai Jones. Diolchwyd hefyd i Carys am drefnu’r gwasanaeth ac i famau’r plant i gyd am eu cefnogaeth. Roedd yn braf gweld nifer dda o oedolion wedi dod ynghyd i wrando ar y plant.

Roedd plant Ysgol Talsarnau wedi cynnal Gwasanaeth Diolchgarwch yn yr ysgol nos Fercher cynt a gwnaed casgliad yno tuag at Apêl Nepal i helpu plant bach y wlad honno wedi iddynt ddioddef cymaint o ddifrod yn dilyn daeargryn. Cytunwyd i gyfrannu swm o’r casgliad y pnawn yma i’r ysgol tuag at yr Apêl honno.  Cyd-ganwyd Calon Lân i orffen y gwasanaeth a chyd-adroddwyd y fendith ar y diwedd.

Gwasanaeth Nadolig 11 Rhagfyr 2016
Daeth nifer dda ynghyd i Gapel Bryntecwyn pnawn Sul, 11 Rhagfyr i’r Gwasanaeth Nadolig, dan ofal y Parch. Anita Ephraim. Wedi iddi hi arwain y rhan dechreuol cafwyd cyfraniad arbennig o dda gan y plant, dan ofal Carys Evans, yn cyflwyno darlleniadau yn son am ddathlu’r Nadolig mewn gwahanol wledydd. Y rhai a gymrodd ran oedd Ellie, Osian, Jack, Sioned, Cari Ellen, Erin, Dylan ac Anna, ac i orffen cyd-ganwyd y garol ‘I orwedd mewn preseb’.

I ddilyn, rhoddwyd anerchiad cofiadwy iawn gan y Gweinidog. Yn ei dwylo, roedd ganddi gebl gyda phedwar bylb arno wedi’u goleuo yn las, melyn, gwyrdd a coch ac eglurodd beth oedd pob lliw yn ei olygu. Ymatebodd y plant yn rhagorol i’w chyflwyniad ac roeddynt yn amlwg yn gwrando’n astud arni.

Diolchodd Mai i bawb a gymrodd ran, i Anita am ei chyflwyniad, i Carys am drefnu deunydd darllen i’r plant, ac i’r rhieni am eu cefnogaeth yn helpu paratoi at y gwasanaeth. Diolchodd i’r plant yn arbennig am eu cyfraniad hwy i’r gwasanaeth.

Wedi i’r Parch Anita Ephraim ddiweddu’r oedfa a phawb gyd-ganu carol, cafodd y plant de parti bach cyn mynd adref.