Chwilio

HANES YR ACHOS YM MRYNTECWYN
(hyd at Rhagfyr 2017)

Capel Bryntecwyn

Adeiladwyd Capel Bryntecwyn yn 1901. Cangen o Gapel Methodistaid Bethel, Talsarnau.
Roedd Bryntecwyn, fel Capel yr Ynys, dan ofal Gweinidog Capel Bethel. Bu gwasanaethau ac Ysgol Sul ym Mryntecwyn yn ystod y blynyddoedd ac yn ddiweddarach yn y ganrif, daethpwyd o dan ofalaeth Dosbarth y Dyffryn gyda Gweinidogion Moreia, Harlech yn gofalu amdanom. Y gweinidog cyntaf a gofiaf yn Nhalsarnau yw’r Parch R H Jervis, yna wedi dod o dan Ofalaeth Dosbarth y Dyffryn, daeth y Parch Gareth Maelor Jones, y Parch Ben Williams a’r Parch William Williams a chafwyd pregeth ym mhob un o’r tri chapel yn ei dro. Yn ystod y ’70au cynnar cauwyd Capel Bethel.

Tua diwedd y ‘60au, roedd Mr Gwilym Owen, Warden Parc Cenedlaethol Eryri, yn awyddus iawn i ail-ddechrau Ysgol Sul ym Mryntecwyn, a chyda chymorth Ella Wynne Jones, oedd yn help mawr gyda dysgu’r plant i ganu, dechreuwyd gyda phedwar plentyn, ond cyn hir roedd y nifer wedi cynyddu a chynhaliwyd Ysgol Sul ar bnawn Sul yn rheolaidd a bu’n lwyddiant am nifer o flynyddoedd. Bu farw Gwilym Owen yn 1973, ond er y golled hon, roedd y plant i gyd yn awyddus i barhau i ddod i’r Ysgol Sul.

Bu prysurdeb mawr yma, gyda’r plant yn dysgu at yr Arholiad Sirol ac Arholiad y Safonau, ac yn mynd i’r Gymanfa yn y Bermo bob blwyddyn; roedd partion a chôr yn cystadlu yn Eisteddfod Talsarnau yn flynyddol - ac yn ennill gwobr gynta’ gyda’r côr plant mwy nag unwaith. Cafwyd tripiau Ysgol Sul blynyddol – ac un tro mynd cyn belled ag Ynys Manaw efo llong o Landudno! Bu dipyn o grwydro i wahanol fannau a byddai cefnogaeth y rhieni yn ardderchog i gynnal yr Ysgol Sul.

Wedi trafodaeth gyda’r Henaduriaeth, sefydlwyd Capel Bryntecwyn yn eglwys yn 1980, pan gynyddodd y boblogaeth yn ardal Llandecwyn wrth i stâd newydd o dai gael ei adeiladu a nifer o deuluoedd ifanc ddod i fyw i’r ardal. Roedd cynnydd sylweddol yn nifer y plant oedd yn byw yma. Roedd 35 o oedolion yn aelodau ym Mryntecwyn ar ddiwedd 1980.

Ym Mehefin 1982, ordeiniwyd Mrs Ella Wynne Jones a Mrs Mai Jones yn Flaenoriaid gyda’r Henaduriaeth ac yn 1984, etholwyd y swyddogion canlynol :- Mrs Mai Jones (Ysgrifennydd), Mr William Tecwyn Jones (Trysorydd), Mrs Ella W Jones (Ysgrifennydd Gohebol). Yr organyddion oedd Ella W Jones a Mai Jones, Holl Ddynion yr Eglwys oedd aelodau’r Pwyllgor Adeiladau, Mrs Eirlys Williams (Casglwr y Genhadaeth), a Mrs Mai Jones a Mrs Carys Jones (Gofalwyr y Cymundeb).

Yn 1985, daethom o dan Ofalaeth Cangen Deudraeth pan sefydlwyd y Parch Ifan Rhisiart Roberts yn weinidog yn y dosbarth a llwyddwyd i wella llawer ym Mryntecwyn. Gwerthwyd Capel yr Ynys a gwnaed cais am gyfran o’r arian er mwyn cael estyniad i Fryntecwyn trwy ychwanegu cegin a thoiled yn yr adeilad gyda'r adnoddau yma wedi bod yn fuddiol iawn i'r aelodau a'r plant. Prynwyd carped cynnes i orchuddio'r llawr pren, gwerthwyd yr hen seti pren hir trwm, prynwyd cadeiriau hawdd eu symud o gwmpas, a gosodwyd tannau trydan ar y waliau uwchben o gylch yr ystafell. Dechreuwyd dau gyfarfod i’r ieuenctid, Clwb Hwyl Hwyr i’r plant lleia’ a Chlwb Chwaraeon i’r rhai hŷn a bu’r ddau Glwb yn hynod o lwyddiannus dan ofal Ifan a Catrin Roberts.image00004

Roedd dwy Ysgol Sul yn cael eu cynnal – un i’r plant hynaf yn y bore dan ofal Mrs Ella Wynne Jones, a'r llall yn y prynhawn dan ofal Mrs Mai Jones a mamau eraill; yn arbennig felly Mrs Gwyneth Davies a fu’n ffyddlon iawn i’r Ysgol Sul gyda’i phedwar plentyn yn mynychu’n rheolaidd.

Yn 1991, dechreuwyd Cymdeithas Bro Tecwyn gan gynnal cyfarfodydd misol, gyda'r nos, yn ystod misoedd y gaeaf, Yn 1992, dechreuwyd Clwb y Garth – cyfarfodydd misol eto, yn ystod y pnawn, i henoed yr ardal. Wedi addasu'r Capel roedd modd gwneud llawer mwy nawr fel cynnal te parti, swper y Gymdeithas a the prynhawn Clwb y Garth pan ddechreuwyd y gweithgareddau yma.  Roedd y ddwy gymdeithas yma’n hynod o boblogaidd a pharhaodd Clwb y Garth hyd at 2004, gyda’r Gymdeithas yn dod i ben yn 2008. Y rheswm penna’ am i’r ddau Glwb orffen oedd oherwydd colli aelodau, yn anffodus trwy farwolaeth.
.
Ar ôl saith mlynedd gyda ni, symudodd y Parch Ifan Roberts a’i deulu i Ofalaeth newydd yn Henaduriaeth Dyffryn Clwyd yn 1992 a chafwyd Gweinidog arall yn 1994 pan ddaeth y Parch Ann Jenkins atom. Bu hi gyda ni hyd at Mehefin 1997 pan symudodd i’w Gofalaeth newydd yn Llanilar, ger Aberystwyth. Buom heb weinidog felly am naw mlynedd ond cariwyd ymlaen a chynnal oedfaon cyson ac Ysgol Sul, gyda nifer fawr o blant yn mynychu ac yn cynnal eu gwasanaethau eu hunain am beth amser. Ond yn anffodus daeth yr Ysgol Sul i ben yn 1999 oherwydd lleihad yn nifer y plant.

Yn 2006, wedi i’r Parch Anita Ephraim fod yn pregethu ar y Suliau ym Mryntecwyn ers rhai blynyddoedd, roeddym wedi dod i’w hadnabod yn dda ac wedi iddi gael ei sefydlu yn Weinidog gyda’r Annibynnwyr ym Methel, Llan Ffestiniog, wedi trafodaeth gyda hi, gwnaed cais i’r Henaduriaeth am iddi gael dod yn Weinidog Rhan-Amser ym Mryntecwyn. Buom yn ffodus iawn o lwyddo a chael Anita yn Weinidog a chynhaliwyd ei Gwasanaeth Sefydlu yma nos Iau, 13 Gorffennaf 2006.

Pleser mawr oedd adrodd bod yr Ysgol Sul wedi ail-ddechrau yn Nhachwedd 2006, trwy frwdfrydedd nifer o famau ifanc y cylch, gyda Carys Evans yn arweinydd.

Parhaodd yr Ysgol Sul am gyfnod ond lleihau wnaeth nifer y plant eto, a gyda gormod o alw ar rieni a’r plant, daeth yr Ysgol Sul i ben. Ond rhaid adrodd bod y plant, dan ofal Mrs Carys Evans, a chymorth eu rhieni, wedi cymryd rhan mewn Gwasanaeth Diolchgarwch a Gwasanaeth Nadolig yn rheolaidd bob blwyddyn, hyd at eu Gwasanaeth Nadolig olaf ar bnawn Sul,   24 Rhagfyr 2017. Hwn hefyd oedd yr Oedfa olaf gyda’r plant i’r Parch Anita Ephraim wasanaethu ynddo.

Bu cyd-addoli gyda Chapel Soar, Talsarnau ar hanner suliau’r flwyddyn, am gyfnod hir, ac onibai am y cydweithrediad yma, byddai’r nifer llawer llai mewn oedfaon. Roedd Ella Wynne Jones a Mai Jones yn organyddion yng Nghapel Bryntecwyn a Chapel Soar ac yn gwasanaethu mewn angladdau yn y ddau gapel pan fo’r galw.  Yn drist iawn, bu raid i Gapel Soar ddirwyn yr achos i ben a chynnal eu gwasanaeth olaf ddydd Sul, 17 Rhagfyr 2017.

Bu cyd-weithio rhwydd a braf gydag Anita ers bron i 12 mlynedd. Mae wedi bedyddio babanod yr ardal, wedi priodi aelodau a chynnal gwasanaeth angladdol i nifer o’n haelodau hŷn. Mae’n biti garw fod Capel Bryntecwyn wedi gorfod cau’r drws, ac ein bod ni wedi gorfod terfynu ar wasanaeth Anita fel Gweinidog. Rydym yn ddiolchgar iawn iddi am bob dim – bu’n ffrind da i Fryntecwyn ac fe welwn golli’r cysylltiad yma’n fawr iawn.

Mai Jones
Ionawr 2018

O.N. Gyda thristwch mawr cofnodir i'r Parch Anita Parry Ephraim farw'n ddisymwth yn Ysbyty Glan Clwyd ar 18 Rhagfyr 2021 yn 61 oed.  Bydd colled fawr ar ei hôl fel Gweinidog yn yr ardal a gwelwn ninnau ym Mryntecwyn golli ffrind arbennig.

 

HANES YR ACHOS YNG NGHAPEL BRYNTECWYN - MEDI 2012
Mae bron i wyth mlynedd wedi mynd heibio ers pan gyflwynwyd adroddiad ar hanes yr achos ym Mryntecwyn yng Nghyfarfod Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd fis Tachwedd 2004.
Y digwyddiad pwysicaf yn ein hanes ers hynny yw inni fod yn ffodus iawn o gael Gweinidog  rhan amser.  Roedd y Parchedig Anita Parry Ephraim wedi arfer dod i Fryntecwyn yn rheolaidd 
i gadw oedfaon, i wasanaethu mewn priodasau, bedyddiadau ac angladdau, ac roeddym wedi dod i’w hadnabod yn iawn ac yn cyd-dynnu’n dda gyda hi.  Cam ymlaen naturiol felly oedd inni gael y cyfle i ddod o dan ei gofal fel bugail a chynhaliwyd Gwasanaeth Sefydlu iddi yma nos Iau,13 Gorffennaf 2006.  
Gweinidog gyda’r Annibynnwyr yw Anita Ephraim a’r adeg hynny dim ond Capel Bethel, Llan Ffestiniog oedd dan ei gofal, ond erbyn hyn mae ei gofalaeth wedi ehangu llawer mwy, gan iddi gymryd gofal o Gapel Utica, Gellilydan ac yn ddiweddarach, fe’i sefydlwyd fel Gweinidog ar Gapeli Bro Trawsfynydd.  Er i’w Gofalaeth ehangu a’i chyfrifoldebau dyfu, mae’n parhau i ddod atom i Fryntecwyn yn rheolaidd.
Mae lleihad wedi bod yn yr aelodau – 16 yw’r nifer ar hyn o bryd.  Bu farw pedwar aelod ers 2008 a symudodd un o’r ardal gyda’i mherch fach.   Rydym yn parhau i gyd-addoli gydag aelodau Capel Wesla, Soar, Talsarnau ac yn cynorthwyo’n gilydd i geisio cadw’r ddau gapel 
ar agor.  Mae Ella Wynne Jones a minnau’n organyddion ym Mryntecwyn ac yn Soar, mewn oedfaon ar y Sul ac mewn angladdau.
Cynhelir oedfa ym Mryntecwyn neu yn Soar bob Sul, ac mae’r Parch Anita Ephraim yn cynnal gwasanaethau arbennig yn gyson bob blwyddyn, ac yn paratoi’n drylwyr ar eu cyfer, gydag aelodau Soar a Bryntecwyn yn barod bob amser i’w chynorthwyo drwy gymryd rhan.  Mae Oedfa Gymun ar fore Gwener y Groglith, ac Oedfa arbennig ar Sul y Pasg a’r Sulgwyn.    Nid yw’r Ysgol Sul yn cyfarfod mor aml â hynny, ond pan fydd achlysuron arbennig, megis Diolchgarwch a’r Nadolig, fe fydd y plant i gyd yn gwneud eu rhan dan ofal Carys Evans,
Arweinydd yr Ysgol Sul, a’r mamau eraill sy’n ei chynorthwyo, ac mae llewyrch ar eu gwaith bob tro.  
Daeth Cymdeithas Bro Tecwyn i ben oherwydd colledion enbyd yn niferoedd y bobl hŷn oedd yn arfer mynychu.  
Bedyddiwyd pedwar o blant bach gan Anita Ephraim yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac mae rhain i gyd yn aelodau o’r Ysgol Sul Undebol.  
Mae’r Capel mewn cyflwr da ac rydym yn gofalu bod popeth yn iawn yn ôl rheolau iechyd a diogelwch.  Rydym wedi cael arolwg trydanol ddechrau’r flwyddyn yma a gwariwyd ar greu ramp concrit o’r maes parcio at ddrws y capel i wella hwylustod a diogelwch; rydym yn parhau 
i dalu cyfraniad blynyddol at y ffenestri gwydr dwbl osodwyd chwe blynedd yn ôl, gyda £600 eto i’w dalu.  Mae costau cadw’r achos i fynd yn drwm ar yr ychydig aelodau erbyn hyn; nid ydym wedi gallu cyfrannu cymaint at achosion dyngarol yn y blynyddoedd diwetha’ fel yn y gorffennol.
Mae’n dda bod rhai o’r aelodau’n cyfamodi a daw hyn ac ychydig o arian i’r coffrau, ynghyd ag elw o fuddsoddiadau’r Eglwys.  Ond rydym wedi gorfod codi £1,000 o un buddsoddiad eleni er mwyn gallu talu’n ffordd.  Gwnaethpwyd casgliad arbennig at Apêl Guatemala yn ystod yr haf eleni a chasglu £140 mewn cyfraniadau gan yr aelodau.  
Mae Ella Wynne Jones yn parhau i ofalu am lenwi’r Suliau ac yn ceisio llenwi’r llyfr bach
cymaint â phosib, a chan ein bod yn rhannu’r flwyddyn gyda Chapel Soar, mae hynny’n sicrhau bod gennnym oedfa yn un o’r ddau gapel bob Sul, ac mae hyn hefyd yn gymorth gyda chael
pregethwyr. 
Paratoir yr Adroddiad Blynyddol a chwblheir y ffurflen ystadegau gan y Trysorydd, Dawn 
Owen a minnau.  Ceir gair o gyfarch gan ein Gweinidog ar ddechrau’r Adroddiad bob blwyddyn.  Mae’r Trysorydd yn ofalus iawn o’r ochr ariannol ac mae’r llyfrau’n cael eu cadw’n daclus.  Cedwir cofnod gan yr Ysgrifennydd o bob achlysur arbennig a gynhelir yma, ynghyd ag adroddiad am golli aelodau.  Mae ffeil o bob Adroddiad Blynyddol ar gael a ffeil o’r ffurflenni ystadegau.
Mae awyrgylch gartrefol a chyfforddus ym Mryntecwyn ac mae’r pregethwyr a ddaw atom yn eu tro yn ymwybodol bod croeso cynnes iddynt yma.  Diolchwn i’r ffyddloniaid sy’n parhau i ddod 
ar y Sul, er mai ond rhwng 6 a 9 yw’r nifer sy’n mynychu’r oedfan, ar wahan pan fydd achlysuron  arbennig a phlant yn cymryd rhan.  Credwn mewn cario ‘mlaen tra medrwn, gyda chymorth ein Gweinidog, gan fyw mewn ffydd y byddwn yn gallu parhau i addoli ym Mryntecwyn am amser
eto. 
Mai Jones
Ysgrifennydd.