Chwilio

Eglwys Efengylaidd Ardudwy

Cymdeithas o bobol ydi Eglwys Efengylaidd Ardudwy sydd yn ei chyfri’n fraint i gael tystio i Efengyl ein Harglwydd a’n Gwaredwr, Iesu Grist. Rydym yn cyfarfod yn Y Capel Newydd, ar y stryd yn Nhalsarnau. ( LL47 6TY). 

Cefndir, Hanes a Gwybodaeth am Capel Newydd

Sefydlwyd Eglwys Efengylaidd Ardudwy ym 1980. Y Parchedig Gwilym Humphreys, Llanfair, oedd y lladmerydd ac ymhlith yr aelodau gwreiddiol roedd Gwilym a Beth Humphreys, Llanfair, Lisbeth Richards, Llanbedr, Meirion a Margaret Williams, Hendre Eirian, Talybont, Brian a Gwenda Paul, Penrhyndeudraeth a Pedr Llwyd, Penrhyndeudraeth. Galwyd a sefydlwyd John Glyn i fod yn weinidog arnynt yn yr un flwyddyn.

Ym 1982, daeth Dewi Tudur, oedd wedi bod yn weinidog hefo’r Bedyddwyr yn Rhosllannerugog, i wasanaethu fel Cynorthwywr. Roedd yr eglwys yn cyfarfod mewn gwahanol gartrefi yn yr ardal ac ar nos Sul yng Nghapel y Graig, Talsarnau. Ym 1986, prynwyd hen adeilad y co-op yn y pentref, oedd wedi bod yn wâg am beth amser, a’i addasu taith Bryn Cader Faneryn le i addoli. Roedd yn adeilad delfrydol gan fod y gwahanol ystafelloedd yn gymwys ar gyfer gwahanol fathau o gyfarfodydd. Cynhelir Ysgol Sul, cyfarfod i bobl ifanc, Astudiaeth Feiblaidd a Seiat ganol wythnos ond prif ystafell y siop ar gyfer Oedfaon y Sul.

Nid oes gan yr eglwys gyswllt ffurfiol ag unrhyw enwad, mudiad na sefydliad ac mae wedi cynnal gweinidog o’r cychwyn. Daeth cyfnod John Glyn i ben yn 2009 ac fe ymgymerodd Dewi Tudur â’r gwaith, yn llawn amser, ym 2010. Y drefn ar Sul arferol ydi Oedfa Weddi ac Ysgol Sul am 10:30 ac Oedfa Bregethu am 6:00. Cynhelir Astudiaeth Feiblaidd a Seiat ar nos Fercher (ag eithrio misoedd yr Haf). Mae hwn yn gyfle i drafod y Ffydd Gristnogol a’i pherthnasedd i ni heddiw. Mae’n eglwys sy’n ymhyfrydu yn y ffaith fod gwahoddiad i bawb, o ba gefndir neu draddodiad bynnag, i ddod i’r cyfarfodydd.

Mae’r eglwys yn cynnal nifer o wahanol fathau o gyfarfodydd er mwyn cenhadu yn Ardudwy. Cynhelir Brecwastau i ddynion ar foreau Sadwrn yn gyson yn y Ship Aground, Talsarnau. Mae hwn yn gyfle euraid i ddynion rannu profiadau. Yn ddiweddar, gwahoddwyd Aled Jones, Llywydd N.F.U. Cymru i siarad am ei ffydd, a’r Dr Owain Edwards i siarad am yr heriau sydd yn ein gwynebTe_bach_i_ferched.jpgu. Hefyd, mae’r merched yn cyfarfod i swpera ac mae Dr Sara Webster wedi rhoi sgwrs am dreialon bywyd a Lisbeth James, ar achlysur arall yn siarad am brif neges y Beibl.

Hefyd, wrth gwrs, mae cyfarfodydd mwy traddodiadol. Byddwn yn cynnal Oedfa Diolchgarwch yn yr Hydref, Oedfa Dechrau Blwyddyn, (sydd, yn ôl hen draddodiad yn Oedfa Weddi) ac ar y Nadolig, cynhelir Gwasanaeth Carolau i’r gymuned. Mae’r eglwys yn dosbarthu dros 200 o wahoddiadau yn yr ardal er mwyn cymell pobl i fynychu. Rydym yn cael parti Nadoli i’r plant yn flynyddol, ac mae Sion Corn yn ymweld yn gyson. Ddechrau Mawrth, cynhelir Darlith Gŵyl Ddewi lle rhoir gwahoddiad i hanesydd cydnabyddedig i roi darlith boblogaidd ar bwnc hanesyddol ond sydd yn berthnasol i Gristnogion heddiw.

Yr her fawr i’r eglwys yma, yn wyneb y trai crefyddol, ydi tystio i’r Arglwydd Iesu Grist gan atgoffa’n gilydd, a’r gymuned, fod Neges yr Efengyl mor addas ag erioed.

 

Mae croeso i chi gysylltu am fwy o fanylion gyda'r Gweinidog, Dewi Tudur Lewis

01766 770953  neu  e-bostio   Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.