Chwilio

Gosod Paneli Solar ar Do'r Neuadd

Neuadd1

 

Dydd Llun Awst 11eg wrth fynd i'r Neuadd ar gyfer Clwb y Werin cawsom gyfarfod anodd gan fod criw o ddynion ar ben y to yn gosod paneli solar.Wedi holi cawsom fod camgymeriad wedi ei wneud ac nad oedd caniatad wedi ei roi iddynt fynd ymlaen a'r gwaith gan iddynt dybio mai to yr ysgol oedd hwn. Ben bore tranoeth yn dilyn galwad i Gyngor Gwynedd daeth terfyn ar y gwaith pan wnaed cyfaddefiad iddynt wneud camgymeriad.

 

Cafwyd amryw o gyfarfodydd brys rhwng aelodau Pwyllgor y Neuadd a'r Cyngor ac ar Awst 21ain daeth cytundeb i Bwyllgor y Neuadd brynu'r paneli. Yr oedd yn gryn arbediad o'r pris gwreiddiol ac yn dileu'r gwaith caled o ymchwilio a threfnu wedi ei wneud yn ein lle. Teimlwn inni fod yn hynod lwcus o'r anffawd hwn.