Chwilio

Clwb y Werin - Cofnod o 2007


Ynys Gifftan 1

 

Mae Clwb y Werin yn cyfarfod yn Neuadd Gymuned Talsarnau bob pnawn Llun, rhwng 1.30 a 3.40 o'r gloch, ar wahan i wyliau Banc, lle mae croeso cynnes i bawb ymuno. Does dim cyfyngu ar oedran, ond mae rhan fwyaf o'r aelodau dros yr hanner cant. Telir £2.00 y tro am ddod i'r Clwb, a 50c. am y raffl. Chwaraeir 'bingo' ar ddiwedd pob sesiwn a cheir gwobrau da yn y raffl a'r bingo.

CyW2

 

 

 

 

 

 

 

Bwriad y Clwb yw i bawb fwynhau eu hunain, i gymryd rhan yn y chwaraeon a chymdeithasu. Mae'n bosib chwarae gemau o gardiau a dominos, hefyd chwarae bowlio, ond y prif atyniad yw chwarae sgrabl - a hynny'n Gymraeg a Saesneg, gyda phedair gem ymlaen ar yr un pryd.

Mae hyd at 18 o aelodau'n mynychu'r Clwb ac yn mwynhau paned a bisged, neu gacen weithiau, os bydd rhywun yn dathlu penhblwydd arbennig yn ystod y prynhawn, a buan iawn mae'r amser yn mynd heibio wrth i bawb fwynhau eu hunain mewn lle cyfforddus braf.

 

CyW3

 

Mae'n drefn hefyd i fynd allan ddwywaith y flwyddyn am bryd o fwyd - fel arfer yn ystod yr haf ac yna cael cinio 'Dolig a bydd y Clwb yn talu am y bwyd i bawb. Cefnogir lleoedd bwyta lleol yn Nhalsarnau a chaffi'r Pwll Nofio yn Harlech.

Mae'r arian sydd dros ben i gyd yn mynd at gynnal y Neuadd Gymuned i geisio helpu sicrhau bod y bydd cyfleusterau ardderchog y neuadd yn cael eu parhau i'r dyfodol.

Cofiwch am y Clwb fel rhywle i fynd ar bnawn Llun - haf neu aeaf!

CyW4