Chwilio

Cystadleuaeth Golff 2009
Adroddiad Cystadleuath Golff at Eisteddfod Meirion a'r Cyffiniau

Clwb Golff Porthmadog yn Cefnogi’r Eisteddfod

Ddydd Sadwrn 25ain Ebrill cynhaliwyd cystadleuaeth golff i godi arian at Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau. Daeth 156 o chwaraewyr golff i gwrs Porthmadog ac ar wahan i gawod neu ddwy cafwyd tywydd ffafriol iawn a phawb i’w gweld mewn hwyliau ardderchog. Gwelwyd llawer o chwerthin a thynnu coes gydol y dydd ac yn gymdeithasol bu’n weithgaredd braf a chartrefol iawn.

Golff 3

 

Hogia Clwb Golff Deiniol Sant yn sglaffio ar ol rownd galed. Hogia Clwb Golff Dewi Sant Harlech yn ymlacio

Braf oedd gweld cymaint wedi dod at ei gilydd o bob rhan o ogledd Cymru ac ambell un hyd yn oed wedi dod o gyffiniau Caerfyrddin yn ogystal â chefnogaeth gref o Glwb Golff Porthmadog ei hun. Mae aelodau’r Pwyllgor Apêl lleol yn awyddus iawn i gyfleu diolch cynnes i Glwb Golff Porthmadog am hyrwyddo a chefnogi’r gystadleuaeth drwy ryddhau’r cwrs am ddydd Sadwrn cyfan. Diolch cynnes iawn hefyd i Dawn Owen, Mai Jones, Margaret Roberts a Meirion Llywelyn am wneud y gwaith gweinyddu yn ystod y diwrnod a sicrhau bod popeth yn rhedeg yn hwylus.

Golff5

 

 

Rhai o hogia' Criw Dydd Mawrth wedi dod i gefnogi.

Tim merched o Glwb Porthmadog aeth â’r wobr gyntaf – J Digweed, H Daft, D Herbert a F Jones.

Gwyr Harlech aeth â gwobr y dynion – I Evans, E Owens, R Rees a J B Jones.

Aeth gwobr y tim cymysg i J Saunders, E Clayton, M Bromley a G Williams.

Golff5

 

 

 

 

Cafwyd nifer helaeth o gyfraniadau a gwobrau gan nifer o unigolion. Diolch cynnes iawn i bawb gyfrannodd er mwyn sicrhau llwyddiant y diwrnod er budd yr Eisteddfod. Gwnaed elw o £1156.