Chwilio

Diwrnod Twm Sion Cati

Twm Sion Cati 2 Y criw fun stopior traffig

 

Y criw oedd ar y shifft gynnar yn disgwyl am gyfle i ysbeilio'r ymwelwyr! Doedd hi'n ddim rhyfeddod bod ambell gar yn amharod i aros . . . . .

 

Oes yna luniau eraill ar gael tybed? Diolch i Deilwen Cooper am y llun hwn.

 

Diwrnod Twm Sion Cati – Ymdrech Codi Arian

Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 2009

 

 

 

Ar ddydd Llun Gwyl y Banc 26ain o Fai cynhaliwyd Diwrnod Twm Sion Cati er mwyn codi arian at Apêl Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 2009.

 

Bu nifer dda o bobl yn cefnogi’r fenter drwy ymuno yn yr hwyl o wisgo fel lladron pen ffordd ac atal y traffig ar y ffordd yn arwain i lawr o Cilfor am Bont Briwet. Roedd pob criw yn gwneud shifft o rhyw ddwyawr a buan iawn yr aeth yr amser heibio rhwng tynnu coes rhwng ein gilydd a’r gyrrwyr.

Twm Sion Cati Codi arian at y Neuadd Newydd

 

Gan y gwyddem mai ymwelwyr fyddai’r rhan fwyaf o’r bobl y byddem yn eu rhwystro, paratowyd taflen fechan yn egluro’r cefndir a beth oedd ein nôd. Yn wir bu rhai mor dda ac aros ar eu ffordd yn ôl a chyfleu eu bod am gyfrannu ychwaneg!

 

Golygfa gwerth ei gweld oedd Dewi Tudur Lewis yn ei ddu i gyd, yn sefyll yn styfnig, ei faner draig goch fawr mewn un llaw, gwn plastig yn y llall a gwên fawr - yn atal y rhai geisiai fod yn benderfynol o beidio stopio. Dydio’n rhyfedd beth yw grym gwên?

 

Diolch cynnes i Dewi, nid yn unig am lwyddo i atal cymaint o geir, ond am y trefnu, a llwyddo i gael cymaint o bobl at ei gilydd i drefnu diwrnod da i chwyddo’r gronfa. Roedd derbyniadau’r diwrnod yn £972. Dipyn o ysbail!

 

 

Twm Sion Cati3 Gwynfor Williams ac Ann Jones

 

Diolch cynnes iawn i bawb hefyd fu’n ddigon parod i fod yn un o’r lladron, neu a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd tuag at y diwrnod. Diolch hefyd i’r gyrrwyr hynny fu’n ddigon graslon i gymeryd eu dal yn ôl am eiliad neu ddwy i gefnogi’r apêl ac ymuno yn ysbryd yr hwyl.

Twm Sion Cati 4 Codi arian