Chwilio

Shangrila -

Pwt difyr am YNYS GIFFTAN

Dyma adroddiad o rifyn Llais Ardudwy nad oes wybod o ba flwyddyn. Yn anffodus does dim gwybodaeth chwaith pwy oedd yr awdur. Os oes gennych chi wybodaeth, efallai y cysylltwch â ni.

Cyfeiriad sydd yma at Anti Meri, Ynys Gifftan - Mrs Mary Williams, gwraig Hugh Williams oedd yn arfer byw ar Ynys Gifftan dan tua 1950au.

SHANGRILA

Ynys Gifftan

 

Ynys Gifftan o gyfeiriad Llechollwyn

Ia dyna oedd Ynysgiftan i mi a'm cyfoedion, yn nechrau'r tri degau, ac fe fu fwy felly fel y daeth y rhyfel ac 'roedd yn fwy anodd mynd am wyliau a hefyd yn fwy perygl. Bu gennyf gangen o ferched own yn ddysgu yn yr ysgol lle y bum am bedair blynedd a hanner tra 'roedd y gwr yn yr "Army". 'Roedd cangen o Aelwyd yr Urdd wedi ei ffurfio yn Nhalsarnau a gofynnwyd i mi gymryd gofal o“r genod. Dyna benderfynu mynd i Ynysgiftan lle roedd Anti Meri yn byw efo dwy babell yn fawr ac un fechan i'r plant, fy nau fab a'r evacuee oedd gen i. Cefais fenthyg 'bell tent' fawr gan y Parch Gordon Crewe Chambers ysgolfeistr a chlerigwr oedd wedi dod i fyw i Mor Edrin o Wigan. Byddai'n dod yn rheolaidd gyda chriw o blant tlawd o Wigan a llawer bachgen bach heb gael gwyliau erioed ond trwy ei garedigrwydd a'i gyd-weithrediad ef.

Aeth rhai o'r genod efo dwy ferfa i nol y dent fawr a'i chludo i Ynysgiftan ac yno y buom am dros wythnos yn gwersylla ac yn cael hwyl anarferol. Byddem yn gosod westi i ddal y ‘sgodyn garw neu'r 'bass' a rock Salmon. Codi llawer o logwns y pryfetach hir fel pryfaid genwair a dyrchem o'r tywod a gosod nhw ar stanciau a mynd i‘w harchwylio wedi i'r llanw dreio. Son am hwyl a chwerthin a rhai o'r merched ofn cyffwrdd y stanciau gan fod rhan o'r pysgod yn hanner byw ac yn strancio ar y lein!

Amser hapus er fod cysgod y rhyfel yn rhoi diflastod ar fywyd. 'Roedd Ynysgiftan yn lle i ymlacio a mwynhau gwyliau'r haf a phen wythnos. Caen fynd pryd y mynnom i aelwyd Ynysgiftan "os oedd yno glicied nid oedd yno glo", chwedl Eifion Wyn am aelwyd y Gesail yn Eifionydd. Anti Meri fel brenhines wedi byw ar y 'dot' bach yma a magu tri o fechgyn ac un arall a Sera y ferch yn wniadwraig, ac yn organydd yng Nghapel Bethel ar y Sul.

Roeddech yn sicr o gael pryd blasus o fwyd yno ac 'roedd wyau'r ieir yn ardderchog iw bwyta. Mae'n syndod pa sawl oen bach fuo raid ei ladd yn ystod y rhyfel a'r dogni!! gan iddynt neidio‘r ffosydd a thorri eu coesau ac felly gorfod eu rhoi yn y popty at y Sul pan oedd cwtogi ar gig ffresl! Dim gobaith i'r enforcement officer ddod drosodd gan fod y llanw yn anhwylusl! Menyn hefyd yn cael ei fwyta heb ei ddogni, dyna rai o fanteision byw yn y w1ad!!

Pe bae'r defaid yn gallu siarad draw y ceid llawer stori ddifyr am yr enforcement officer yn cael ei ddal yn y llanw ac Anti Meri yn chwerthin i fyny ei llawes! am iddo fentro dod yno heb ymgynghori efo'r llanw. Ynys ramantus a llawer o hanes iddi. Gofynais i Anti Meri beth oedd ystyr y gair Ynysgiftan. ‘Wel' medde hi, dywedodd Elin Ffransis oedd wedi byw yma am hanner canrif o mlaen i mai Ynys gift of Queen Anne, anrheg gan y Frenhines Ann i rai o hynafiaid yr Arglwydd Harlech oedd yr ystyr a hawdd credu hynny gan mai i Stâd y Glyn y talent y rhent blynyddol am Ynysgiftan. Yng nghymeriad yr ynys 'roedd rheol cadw hyn a hyn o 'ddefaid . . . . . . .

Llinell o destun ar goll yma

. . . . . . . o wyn a defaid yn dod i ddioqelwch yr ynys pan ddoi yn amser y llanw i amgylchynu'r Ynys. Weithiau doi‘r llanw ynghynt os byddai'r gwynt o ryw gyfeiriad ac yna deuai Dewyrth Huw efo‘r cwn i gyflymu tipyn ar y defaid. Ffenomen arall a ddywedodd Anti Meri wrthyf oedd mai chwydfa oedd Ynys Giftan o'r mynydd uwchlaw Llan Decwyn lle mae Llyn Tecwyn Ucha 'rwan. Roedd yr hen wraig yn nodedig am ei gwybodaeth a Seryddiaeth yn bwnc pwysig iawn. Roedd yno lyfrau ar Seryddiaeth a llawer o bynciau eraill ond wn i ddim i ble yr aethon nhw pan chwalwyd yr aelwyd a dod i fyw i'r Tir Mawr ym Minffordd, ger Penrhyndeudraeth. Byddent yn plannu tair gardd ac roedd y tatws newydd mor lan yn dod o'r tir tywodlyd a'r moron mor flasus, prin bod angen eu golchi. Dywedodd Anti Meri fod yr ynys wedi ei chwythu neu ei chwydu o ble mae Llyn Tecwyn Ucha - gwaith dwr Penrhyn a Porthmadoq uwchben Llandecwyn. Dywedais hyn yn yr ysgol Bermo wrth Willias Gograff neu J. E. Williams o Borthygest oedd yn athro Daearyddiaeth arnom ni yn Ysgol Bermo. Bu raid i ni wneud Contour Map o'r Llyn a'r Ynys ac yn ol ei air ef roedd amgylchedd yr ynys yn ffitio i'r llyn ond lle 'roedd y gwaith dwr wedi torri ar draws i wneud y "filter beds". Cefais fy ngwawdio ddigon gan y disgyblion eraill am imi son am y peth a golygu iddynt hwy orfod roi eu pennau ar waith i brofi dilysrwydd y peth. Taerai Anti Meri mae'r hyn oedd i lawr yng ngheg yr afon Dwyryd oedd i fvny cynt ac fod y tir y llyn wedi eu daflu wyneb i waered i geg yr afon yn Oes yr Eira a rhew pan ffurfiwyd ein hamgylchedd. Dywedai fod yr hyn oedd ar yr wyneb cynt i lawr ym mherfeddion yr afon Dwyryd yn awr ac felly tir tywodlyd oedd wedi ffurfio y caeau bach a'r tir ffrwythlon mor belled a bod digon o law yn disgyn. Pan fyddai yn haf sych byddai problem dwr yn ddyrys ond roedd ffynnon wrth y ty.