Chwilio

Teulu Ynys Gifftan
Eglwys Llandecwyn

 

Teulu Ynys Gifftan tua 1911 Rhes gefn: Mary Williams (mam), David, Robert, Hugh Williams (tad) Rhes flaen: Hugh a Sarah

Un o Glanwern, Talsarnau oedd Hugh Williams, a’i wraig Mary, Griffith cyn iddi briodi, yn forwyn yn Brynbwyd, Llanaber. Priodwyd y ddau ym 1891 a chan mai chwarelwr oedd Hugh Williams, bu iddynt symud i fyw i Glanpwll, Blaenau Ffestiniog. Buont yno am oddeutu 9 mlynedd. Ganwyd Robert Griffith Williams eu mab hynaf yng Nglanpwll ym 1899 ac yn 1900 neu 1901 penderfynwyd symud i Ynys Gifftan i ffermio. Roedd Hugh Williams yn dal i weithio yn y chwarel ond cafodd ddamwain ddifrifol yno a chollodd ei goes. Er mor ddifrifol ei sefyllfa dychweloddd Hugh Williams i’w waith yn y chwarel. Aeth cyfrifoldeb o redeg y fferm wedyn yn bennaf ar Mary ei wraig. Ym 1901 ganwyd ail fab sef David, yna ym 1903 eu merch Sarah ac ym 1905 eu trydydd mab Hugh Thomas Williams.

 

Aeth Robert a’i frawd David gyda’u tad i weithio’n y chwarel. Aeth y mab ieuengaf, Hugh Thomas Williams i weithio ar fferm yn Dyffryn pan oedd yn bymtheg oed. Ym 1925 priododd Robert Griffith Williams â Betty Morris, Hendreclochydd, Llanaber ble bu’n rhedeg y fferm gyda John Morris, tad Betty. Bu farw Robert ym 1935 pan ond yn 36 oed a hynny ar benblwydd ei fab John, ac yntau ond yn ddeg oed. Ymhen blynyddoedd bu i John gyfarfod a Pegi – oedd a chysylltiadau â Thalsarnau. Roedd ei rhieni Thomas ac Annie Hughes yn cadw siop groser ar y gongl ar gyfer tafarn y “Ship Aground” o 1931 hyd 1937. (Ai cyfeiriad sydd yma at y siop ble’r oedd y Swyddfa Bost yn arfer â bod neu Ty Anarferol sydd dros y ffordd?). Ym 1937 cafwyd llifogydd a gwnaed difrod yn y gegin fwyta ac yn y “stores”. (Tybed ai llifogydd gwahanol yw’r rhain i’r Llanw Mawr a gaed ym 1927?).

Bu iddynt wedyn symud i gadw siop yn Llanbedr ble bu i John a Pegi gyfarfod. Adeg y rhyfel roedd Pegi yn nyrs yn yr “evacuation nursery” i blant “Service Personnel” yn Glyn Hall (ai Glyn Cywarch – Lord Harlech yw hwn?) am bedair blynedd. Cysylltiad arall yw Annie Edwards, yn ddiweddarach – Annie Jones, gwraig Wil Jones o Dalsarnau. Roedd hi yn gyfnither i Pegi. Arferai hi ddysgu yn Ysgol Maenofferen ym 1927 ac yn ddiweddarach yn athrawes yn Ysgol Brontecwyn o 1944 hyd 1961 pan gauwyd yr ysgol. Symudodd wedyn i Ysgol Ardudwy, Harlech.