Chwilio

Sgwrs hefo Olwen (Pensarn gynt)

Car

 

Mi fyddat wedi chwerthin lond bol pe taset ti'n Bryntirion ar nos Sul - swpera wythnosol Gwilym ac yn amal yn ganol yr wythnot hefyd a fo a Dad ddysgodd Jac yn hen foi i ddreifio a phawb yn gwaredu ei fod isio dreifio.Un nos Sul mi fydda Gwilym yn mynd a fo am ei wersi - rownd Bermo nôl trwy Traws ac wedyn noson arall Dad fyddai wrthi a swper yn BT wedyn. Y ddau yn gwaredu oherwydd roedd Jac yn cadw gymaint i ochor clawdd a gyrru!! Ond fe basiodd tro cyntaf!!Wedyn fel roedd traed Jac yn gwaethygu a methu cau ei sgidia mi fyddai yn cerddded yn fler.Ryw noson yn BT y ddau yn cychwyn am adra a dal i siarad o hyd fel ag y byddai pawb - drws cefn ar agor ac yn yr Haf fe fyddai'r pryfed yn heidio am y golau yn bydden ac yn dod fewn.Mi fyddai yr hen bryfed mawr na yn gwylltio Jac yn gythgiam ac fe fyddi'n eu cicio. Fe wnaeth un noson ac fe ddaeth ei esgid i ffwrdd a hitio rhyw ash tray oedd wrth y tan - un reit fawr hefo daeargi arno - fe dorrodd yn ddarnu man ac yn anffodus roedd pawb yn chwerthin heb allu stopio - Anti Dol, Dad, Gwilym, Wyn a fi. Sobor de . Pry Jac fuo fo byth wedyn a dyna beth mae Wyn yn dal i'w galw. Gwilym oedd fy mentor i mewn llawer sefyllfa a gwas priodas Dad a Mam. Jac eto wedi ei brentisio'n arddwr yn Glyn.Amlwg fod Meirion Cambrian ac Yncl Id (brawd Dad) yn gefndryd roedd rhyw gryndod arnynt fel aethant yn hŷn. Wyddost ti be Anwen unwaith wyt ti'n dechra cofio fel hyn mae cymaint yn dod nôl.