Chwilio

Taith Gerdded 2009
Taith Gerdded at Gronfa Eisteddfod Genedlaethol Bala 2009

Taith Gerdded1

Ar fore Sadwrn teg y 12fed o Ebrill fe welwyd yn cychwyn dri ar ddeg o gerddwyr dewr. Doedd y rhain er hynny ddim yn mentro’n rhy bell gan mai taith oedd hon o gwmpas ardal Talsarnau! Trefnwyd y cyfan gan Gwenda Griffiths ac i roi blas arbennig i’r daith roedd ganddi bytiau bychain o wybodaeth am yr ardal. Bob yn hyn a hyn fe gaem hoe fach a chyfle i gael y pytiau gwybodaeth diddorol y bu Gwenda yn eu casglu.

Cychwynwyd o’r pentref, croesi lein y tren a dilyn llwybr y clawdd llanw i Glanywern.

Taith gerdded2

I fyny wedyn at Bont y Glyn a throi i hen ddreif Maes y Neuadd ger Gafael Crwm.

Taith gerdded 3

Llwybr braf drwy’r coed a dod allan ger Dolorcan Fawr.

Taith gerdded 3

Oedi ar Bont Gwyddelod i gael tamaid i’w fwyta. Ymlaen wedyn at Glanrafon a dilyn y llwybr i fyny’r afon, heibio Garthbyr a dod allan ger Llyn Tecwyn Isaf.

Taith gerdded 5

Dilyn y ffordd wedyn ac i fyny at yr eglwys a chael dipyn o gefndir yr eglwys gan Gwenda a mwynhau’r olygfa ysblennydd i lawr am Ynys Gifftan i un cyfeiriad a draw at yr Wyddfa a’i chriw i’r cyfeiriad arall oedd o hyd dan eira.

Taith gerdded 5

Dilyn y ffordd wedyn at Llyn Tecwyn Uchaf, cael golwg ar fedd Dorti'r Wrach a hanes yr hen goel bod angen gosod carreg ar ei bedd wrth fynd heibio a thrwy hynny wneud yn siwr na fyddai dim drwg yn digwydd ichi. Troi wedyn gan ddilyn y peilonau i lawr yn ôl i Cilfor. Croesi’r ffordd fawr, heibio Borth Las a dilyn y clawdd llanw yn ôl i Dalsarnau.

Os nad ydych chi wedi cerdded y cylch yma, gallwn yn hawdd ei gymell ichi, ac os llwyddwch chi i gael cystal cwmni ac a gawsom ni ar y daith hon, mi gewch chi fwynhad llwyr.

Diolch cynnes i Gwenda Griffiths am y trefnu, i bawb fu’n cerdded ac i’r rhai gyfrannodd yn ariannol at y fenter. Gwnaed elw o dros ganpunt at yr apêl.