Chwilio

YMDDEOLIAD MR WALTER DAVIES, CO-OP TALSARNAU

Co opTalsarnauCafwyd ar ddeall yn ystod yr wythnosau diwethaf fod Mr Walter Davies yn ymddeol o'i swydd fel rheolwr y siop yn Nhalsarnau. Tuedd pob sgwrs ar wahanol aelwydydd a chornel stryd fu ceisio a dod i arfer a'r syniad.

Bu cyfraniad Mr Davies o'r ardal hon dros y blynyddoedd yn anfesuradwy, nid yn unig fel gweithiwr a dyn busnes a ofalai am ei gwsmeriaid, ond hefyd fel cymwynaswr, - gwr a oedd bob amser yn barod i wneud dros eraill. Doedd dim yn ormod o drafferth ganddo a phob amser yn gwneud yr hyn a wnai heb edliw na grwgnach.

Drwy ei bersonoliaeth, ei anwyldeb a'i groeso, llwyddodd i ennyn llawer o gwsmeriaid na fyddai byth wedi tywyllu'r siop oni bai am hynny. Dyma un rheswm, yn anad dim arall, pam y llwyddodd y siop cystal. Gwyddom, ar dyddiau arbennig, yn rheolaidd bob wythnos, treuliai ei awr ginio yn casglu archebion ac yna yn eu danfon ar hyd y lled y fro.

Treuliodd llawer un fore oer yn cynhesu o flaen tan cartrefol yr 'offis' a byddai cwpanaid o de barhaol ar gael. Nid oes posib mesur gwerth peth fel hyn. Drwy'r blynyddoedd gwnaeth Mr Davies
lawer o ffrindiau a gwyddai i'r dim sut i drin ei gwsmeriaid. Gymaint o dynnu coes a herian fu ond natur y cyfan yn ysgafn, hwyliog a chyfeillgar.

Gobeithiaf fy mod, ar ran nifer helaeth o drigolion Talsarnau,yn llwyddo i gyfleu gymaint yw ein hedmygedd a'n diolch o'r gwr hynod hwn yn ei ymdrech i gynnig gwasanaeth a welai ef mor bwysig. Gobeithio y bydd Rheolwyr Cymdeithas Meirion hefyd yn gwerthfawrogi ei ymdrech ac yn sicrhau y bydd y gwasanaeth a roddodd Mr Davies yn parhau ac y bydd drysau'r siop yn agored am flynyddoedd i ddod.

Dymunwn yn dda felly i Mr Davies ar ei ymddeoliad a gobeithio y caiff ef a Mrs Davies flynyddoedd o fwyniant a dedwyddwch. Gobeithiwn hefyd na fydd Mr Davies yn cadw'n ddieithr o Dalsarnau gan y gwyddom y bydd croeso cynnes iddo ef a Mrs Davies ar lawer aelwyd ar hyd a lled y cylch.

Mawr yw ein diolch a phob dymuniad da.