Chwilio

RHODD I'R ARDAL GAN MRS ELSIE NOVAK

J J Thomas

 

Gyda cryn syndod y clywodd ardalwyr Talsarnau yn ddiweddar am haelioni un o hen blant yr ardal. Derbyniwyd rhodd anrhydeddus iawn o £5,000 gan Mrs Elsie Novak o Yugoslavia, er cof am ei thad, Mr J J Thomas, fu'n ysgolfeistr yn Nhalsarnau o 1888 hyd ei farwolaeth ym 1917.

Dymuniad Mr Elsie Novak yw i'r arian gael ei ddefnyddio fel a ganlyn:
£1000 i'r Neuadd Bentref ar gyfer cynnal a chadw'r adeilad, £1000 i Ysgol Gynradd Talsarnau, y llogau i'w defnyddio er budd yr ysgol, a £3,000 i Ysgol Ardudwy, Harlech, y llogau i'w defnyddio i helpu disgyblion yr ardal sy'n ymddiddori ym myd cerddoriaeth.

Ychydig o'r pentrefwyr bellach sydd a chof o Mr J J Thomas ei hun, ond erys yr hanesion amdano, a'i yrfa yn y pentref yn fyw iawn. Gwr o ardal y Bala oedd Mr J J Thomas, a bu'n ysgolfeistr hynod o boblogaidd am ddeg mlynedd ar hugain. Ond mae'n debyg mai ei brif nodwedd oedd ei ddawn gerddorol. Arweinydd cymanfa heb ei ail, a dan ei arweiniad tyfodd Côr Meibion Talsarnau i fri cenedlalethol.

Cystadlai'r côr ledled y gogledd, yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac hefyd yn Eisteddfod fawr Lewis' yn Lerpwl, heblaw'r eisteddfodau llai, mwy lleol. Oherwydd ei ddawn fel arweinydd, teithiai amryw o'r aelodau o Borthmadog, y Penrhyn a Blaenau Ffestiniog i gael y fraint o ganu yn y côr.

Trigai'r teulu yn Nhy'r Ysgol (Isgoed), ond bu farw J J Thomas yn 57 oed, ym 1917, gan adael gweddw a thri o blant ieuanc. Symudodd y teulu i fyw i Lanbedr, ond cafwyd profedigaeh arall yn fuan pan fu foddi David Emrys, y mab hynaf, tra'n ymdrochi ger Penmaenpool, ac yntau ond deunaw oed. Bu farw Mrs Thomas ym 1934, a'r mab arall John Llywelyn, yn wr ieuanc 34 oed, ym 1938, tra'n fferyllydd yng Nghaerdydd.

Roedd yr unig ferch, Elsie, yn ddisgybl yn Ysgol Sir y Bermo, ac oddi yno aeth yn fyfyriwr i Goleg Gwyddor Ty Berridge House, Llundain, lle'r oedd yn gyd-fyfyriwr gyda Miss Owen, cyn athrawes gwyddo'r ty Ysgol Ardudwy. Mae Miss Owen wedi cadw ei chysylltiad â Mrs Novak, wedi bod yn Yugoslavia amryw o weithiau ar wyliau, ac yn anfon y Llais yn rheolaidd iddi bob mis.

Ar ol gorffen yn y Coleg bu Elsie yn athrawes yn Ysgol Sir Tregaron hyd 1946 pryd y priododd â Mr Len Novak, gwr o Yugoslavia, ddaeth drosodd i Gymru yn ystod blynyddoedd y rhyfel.
Dychwelodd gydag ef i Yugoslavia, ac er ei bod wedi trigo yno ers deugain mlynedd bellach, mae ei Chymraeg yn dal yn fyw, ac fel y dywedwyd, mae hi'n darllen y Llais bob mis. Er iddi adael cyhyd, mae i Dalsarnau le cynnes iawn yn ei chalon, ac mae'n amlwg oddi wrth ei haelioni bod ganddi dal, gryn feddwl o'r hen ardal.

Mae ein diolch ni, drigolion Talsarnau, yn fawr iawn iddi, a chan mai ieuenctid yr ardal fydd yn elwa fwyaf, braf fyddai meddwl y caiff rhyw Syr Geraint Evans neu Osian Ellis o Dalsarnau ei helpu ar y ffordd gan Gronfa Goffa J J Thomas, un a fu mor amlwg ym myd cerddorol yr ardal gymaint o flynyddoedd yn ol.