Chwilio


CARREG FILLTIR YN NATBLYGIAD LASYNYS FAWR (Ebrill 1995)

Cyrhaeddwyd carreg filltir bwysig yn ddiweddar yn natblygiad fferm hanesyddol y Lasynys Fawr, ger Harlech, sef cartref Ellis Wynne, y Bardd Cwsg.

Bu Cyfeillion Ellis Wynne, gyda chynrychiolwyr o Antur Dwyryd a Pharc Cenedlaethol Eryri yn arwyddo contractau ar gyfer y gwaith adfer sydd ei angen ar y tÿ.

Meddai'r Cynghorydd Isgoed Williams, cynrychiolydd ward Harlech ar Gyngor Sir Gwynedd, aelod o'r Cyfeillion ers rhai blynyddoedd a Chadeirydd yr Is-bwyllgor Adeiladau, "Mae llawer o waith i'w wneud i adfer y tÿ hanesyddol yma. Ein bwriad yn y pendraw yw sefydlu canolfan a fydd yn pwysleisio gwerth hanesyddol, cymdeithasol, llenyddol ac o safbwynt byd natur, y Lasynys Fawr a'i chyffiniau. Mae gweld dechrau'r drydedd wedd, sef, gobeithio, y gwaith terfynol, yn garreg filltir bellach i'r Cyfeillion".

Ychwanegodd "Mae llawer o arian wedi ei hel yn yr ardal ac yn genedlaethol, ond rydym hefyd yn ddiolchgar i Barc Cenedlaethol Eryri am eu cefnogaeth ariannol i'n hymgyrch. Bydd eu cyfraniad yn caniatau i ni gladdu'r gwifrau trydan sy'n cysylltu gyda'r tÿ, er mwyn cadw naws hynafol weledol y tÿ. Rydym hefyd yn ddiolchgar am gymorth Antur Dwyryd wrth gyflwyno'n cais llwyddiannus am arian o Gronfa Datblygu Rhanbarthoedd Ewrop".