Chwilio

Barddoniaeth Y Cwis
MERCHED Y WAWR - Llais Ardudwy Chwefror 1985

Treuliwyd noson ddifyr iawn yng nghwmni Aelodau'r Urdd, Hogia'r Stafell Snwcer a Merched y Wawr. Mr Celt Roberts oedd y Cwestiwn Feistr. Roedd Mr Roberts wedi paratoi cwestiynau amrywiol iawn, rhywbeth at ddant pawb. Balch iawn oeddym o weld cymaint o bobl ifanc wedi troi i mewn ac edrychwn ymlaen am eu cwmni eto. Gofalwyd am y tê gan Mrs Nia Owen a Mrs Mary Lloyd. Diolchwyd i bawb am eu cyfraniad ac yn enwedig i'r Llywydd, Mrs Anwen Roberts, gan Mrs Shân Morgan a Mr William Emrys Evans, am ei chyflwyniad barddonol.

Y CWIS - Ionawr 1985

Mae gornest bwysig heno
Rhwng brêns yr ardal hon
Rhown groeso i'r cwisfeistr -
'Rhen Gelt o'r Berthan Gron.
Mae tîm Wil Em yn fan'cw,
A thîm yr Aelwyd draw,
A thîm o ferched peniog
Sy'n barod iawn gerllaw.

Cael cweir a wnaeth 'rhen ledis
Bob blwyddyn bron, o'r blaen.
Ond 'leni buont yn brysur
A'u trwynau ar y maen.
Bu Mai yn troi dalenau'r
Encyclopaedia mawr,
Yn wir nid aeth i'w gwely
Tan oriau mân y wawr.


Darllennodd Ella'i Beibl,
Llyfr Jôb a Samiwel,
Yr Actau a'r Corinthiaid,
A Llyfr Esecial.
Bu Nans yn trin byd natur,
Pob creadur byw sy'n bod,
Pob coeden a phob blodyn,
Pob 'deryn is y rhod.

Pel droed ddewisodd Annie,
Fe ddysgodd fod dwy gôl,
A'r goli, rhag ofn damwain,
Yn mynd a'i doilet rôl.
Aeth Shân i fyd pop miwsig -
Boy George a Howard Jones,
Er gweld beth maent yn wisgo
'Ta nicyr ynta trôns.

Astudiais i'r cerddorion,
Beethoven a Siopan,
Tchaikovsky, Bach a Handel,
Schubert a Sullivan.
Astudio'r corff wnaeth Margaret
O'i chorun i'w phen glin,
Pob cymal a phob asgwrn
O'i thraed hyd dwll ei.......chlust!

Bydd bois y 'Stafell Filiards
Yn dipyn haws eu trin
Pan rown ni Dic bach 'Chollwyn
Yn daclus ar ei din.
Mi'ch curwn ni chi heno,
Mi fentra i roi bet;
Os digwydd i ni golli
Mi fwyta i fy het!

O.N.

Hen gurfa dôst a gawsom
Er gwneud ein gorau glas,
A bois y biliards aeth â hi -
Y taclau cyfrwys, cas.
Mae'n bwysig cadw bargen
Ond pennoeth oeddwn i,
A siawns, oherwydd hynny,
Na chawswn fynd yn ffri.

Ond bwyta cap Dic 'Chollwyn
Fu raid, heb fawr o lol,
A byth er hynny, ffrindiau,
Mae ufflwm o gnoi yn fy mol.

A.R.