Chwilio

CANLYN Y CAMERA IONAWR 1990 Ail Ddyddiadur Naturiaethwr

Ar ddechrau blwyddyn, mae'n siwr i lawer ohonom wneud addunedau sydd erbyn hyn wedi eu torri bob un! Rhyw bethau felly ydi addunedau blwyddyn newydd - pethau dros dro sy'n mynd yn angof mewn dim. Nid felly luniau y ffotograffydd - o ofalu amdanynt yn iawn, mae nhw'n para byth. O wasg y Dolig, daeth 'Canlyn y Camera' - Ail ddyddiadur naturiaethwr (Gwasg Dwyfor) cronicl o gyfnod ym mywyd Ted Breeze Jones ydyw, a rhwng dau glawr, llwyddodd i ddal mewn llun a gair, naws ryfeddol ei fro. Fel y disgwyliech o gamera Ted Breeze, mae yma luniau gwych o anifeiliaid ac adar; y dylluan fach (tud.48), sgrech y coed a'i chywion (tud.63), y gynffon sidan (tud.73), a'r llyffant dafadennog (tud.37) ymysg y mwyaf cofiadwy ohonynt. Ceir lluniau arbennig hefyd o dirwedd a chymeriadau Gwynedd.

Ond mae'r llyfr hwn yn fwy na hynny - mae yma gofnod o ran o'i fywyd o, ac Anwen ei wraig; cawn hanes eu teithiau i weld rhyw aderyn neu'i gilydd. Cawn rhyw bwt am bysgotwr yn nyfroedd Llyn Cwm Orthin a disgrifiad o fforchio lledod yn aber yr afon Ddwyryd - amrywiaeth unigryw.

Wedi darllen nofel, byddwch yn ei rhoi ar silff i sefyll a hel llwch - nid felly'r llyfr hwn. Byddwch eisiau ei godi o hyd ac o hyd i'w ddarllen, i edrych ar y lluniau ac i'w ddangos i hwn a'r llall - ac am £5.50 cewch berl o lyfr fydd yn talu am ei hun mewn difri. Prynwch o!