Chwilio


RHEITHOR NEWYDD - LLAIS MIS CHWEFROR 1994

Mae'r Parch Robert Hughes wedi ei apwyntio fel Ficer Harlech a Llanfair a Rheithor Llanfihangel y Traethau a Thalsarnau, yn dilyn y Parch Peter James, sydd wedi symud i Botwnnog.

Nid yw Bob Hughes yn wr estron i'r ardal, oherwydd bu ei dad a'i fam yn byw yn yr Ynys am hanner can mlynedd. Ei dad, Richard Hughes, yn awdur 'High Wind in Jamaica' a 'The Fox in the Attic' a.y.b.. Bu'n warden Eglwys Llanfihangel y Traethau am flynyddoedd.

Ganwyd Robert yn Llundain a symudodd yn blentyn i Dde Cymru. Symudodd y teulu wedi'r Rhyfel ac ymgartrefu yn yr Ynys. Bryd hynny roedd Robert yn fyfyriwr yn Rhydychen a chollodd y cyfle i gael y fraint o ddysgu'r Gymraeg.

Ar ôl graddio ym 1954, bu'n gweithio yn Coventry mewn ffatri awyrennau a wedyn aeth yn ei ôl i Brifysgol Caergrawnt i orffen ei hyfforddiant. Roedd yn giwrad yn Coventry, lle cyfarfu ei wraig Sheila, ac yno y ganwyd eu dwy ferch, Claire a Rachel. Wedyn bu'n gaplan ym Mhrifysgol Birmingham rhwng 1964 a 1969 lle bu'n gweithio'n ddygn gyda'r myfyrwyr. Bu ei wraig Sheila yn y Brifysgol hefyd - cafodd hi swydd weinyddol yn Undeb y Myfyrwyr.

Gadawodd ei swydd eglwysig i ofalu am lety ar gyfer y myfyrwyr am ddeunaw mlynedd rhwng 1969 a 1987. Ym 1988 derbyniodd swydd cyfarwyddwr astudiaethau llety i fyfyrwyr tramor ac ymgartrefodd yng Nghlogwyn Melyn, Yr Ynys, sydd y drws nesaf i Môr Edrin - cartref ei rieni. Cyhoeddodd gofiant Hewlett Johnson, Deon Caergrawnt, 'The Red Dean; a llawer llyfr ar ei bwnc arbenigol - myfyrwyr tramor.

Wedi gorffen ei astudiaethau, cafodd ei benodi yn giwrad i ddeoniaeth Ardudwy ac Eifionydd, gan weithio mewn plwyfi oedd heb glerigwyr.

Ers iddo ymgartrefu yn yr ardal mae wedi mynd ati i loywi ei Gymraeg, ac erbyn hyn y mae'n teimlo yn llawer mwy hyderus. Ei neges i ohebydd y Llais oedd: "Rydw i'n teimlo'n hapus iawn o gael y fraint o wasanaethu yr ardal hon, a buaswn yn ddiolchgar pe bai pawb yn siarad yn bwyllog â mi a bod yn amyneddgar."

Fe gofiwn ei ddymuniad a'i barchu trwy fynnu siarad Cymraeg ag ef bob amser! Croeso i'n plith Mr Hughes a phob dymuniad da yn yr ofalaeth newydd.