ATGOFION gan y diweddar Mrs Myfi Jones, 9 Cilfor, Llandecwyn
YR HEN EFAIL UCHA' . Daw aml i hen ddarlun yng nghalendr Llais Ardudwy a llawer o atgofion melys i mi, ac yn enwedig y darlun o hen efail Eisingrug neu'r 'Efail Ucha' fel 'roeddym ni'n ei galw adra. Awgrymodd Mathew Jones, Bryn Eithin, fy mod yn 'sgwennu pwt i'r Llais am fywyd prysur yr efail pan oeddem ni'n blant. Roedd gorfod cerdded gryn bellter yn ddyddiol yn beth cyffredin iawn yr adeg honno, a chofiaf fel y byddwn bob dydd, ar fy union o'r ysgol yn mynd â chinio i 'nhad a John David, gan gerdded a rhedeg bob yn ail ar hyd gwastad Fucheswen.
Wedi cyrraedd yr efail, caem eistedd ar hen setl hir a oedd yno a chael tamaid o'r lluniaeth. Er na chofiaf yn iawn gynnwys y fasged, 'roedd ynddi bob tro fara cartref blasus 'Prince House', gyda menyn Ffridd Fedw yn dew arno. Ambell dro, ni fyddai llefrith ar gael i'w roi yn y te, ac i mi'n eneth fach, roedd te heb lefrith fel y wermod. Ond eto, roedd rhyw swyn ryfedd o'i yfed o'r potyn bach pridd (hen bot jam). Dysgais yn yr ysgol y pennill Saesneg hwnnw -
"Under the spreading Chestnut Tree
The village smithy stands,
The smith a mighty man is he
With large and sinewy hands."
I mi dyma ddarlun da o fy nhad. Dyn, tal, esgyrnog oedd gyda dwylo mawr. Hefyd cywydd y gof allan o awdl 'Heddwch' gan Hiraethog, sy'n dechrau-
Chwythu'i dan dan chwibanu
Ei fyw don wna y gof du;
Un llaw fegina, a'r llall
Faluria'r glo fel arall.
I mi dyma ddarlun da o fy nhad. Dyn, tal, esgyrnog oedd gyda dwylo mawr. Hefyd cywydd y gof allan o awdl 'Heddwch' gan Hiraethog, sy'n dechrau-
Chwythu'i dan dan chwibanu
Ei fyw don wna y gof du;
Un llaw fegina, a'r llall
Faluria'r glo fel arall.
Darlun byw eto yn dwyn atofion.
Yr adeg brysuraf yn yr efail oedd yr adeg cylchio olwynion troliau, ac adeg paratoi'r erydr a'r sychau erbyn Sioe'r Sir. Diwrnod cylchio, byddai Ifan fy mrawd a minnau yn cario dwr drwy'r bore o'r afon ger y felin wlan. Gosodwyd yr olwyn mewn man pwrpasol ger drws yr efail. Rhaid oedd poethi'r cylch haearn er mwyn iddo chwyddo'n ddigon i fynd am yr olwyn. Wedi ei roi amdani, daliai'n nhad yr ordd fawr odditano, a gwaith Ifan a minau oedd taflu'r dwr dros y cylch er mwyn iddo dynnu ato a gwasgu am yr olwyn, tra 'roedd John David yn taro'n ysgafn a chyflym nes bod y cylch wedi cymryd ei le yn berffaith.
Deuwyd a'r erydr a'r sychau o cyn belled Thywyn i'w trin yn yr efail ucha'. Yr adeg honno y byddwn ninnay yn cael tro ar chwythu gyda'r fegin fawr – dyna bleser!
Cofiaf fel y byddai 'Lord a Lady' Harlech yn galw yn yr efail, a dod a mul bach gwyn i'w bedoli. Yn y llyfr cownt, dyddiedig 1895, sydd yn fy meddiant, swllt a chwech oedd y tal am bedair pedol newydd.
Yn perthyn i'r efail yr oedd gardd a pherllan ardderchog gyda amrywiaeth o goed ffrwythau/ Pan nad oedd fy nhad wrth ei waith yn yr efail, gwariai amser yn yr ardd, ac yr oedd yn arbenigwr ar dyfu dahlias. Mae gennyf darian arian a enillodd am eu tyfu. Yn ysgrifenedig ar y darian mae:
'Presented by Toogood Seeds and Sons, Seedsmen to the King and the late Queen Victoria, won by Griffith Roberts of Talsarnau 20th Aug/04'
Yr oedd fy nhad yn gywrain ei waith fel gof, yn ddestlus, a gofalus yn yr ardd, a dilynai yr un patrwm gyda'i grefydd, ymlwybrai'n gyson i'r moddion yng Nghapel y Graig lle y bu'n flaenor am bron i driugain mlynedd.
Yn yr hen lun sydd yn y calendr, mae ceffyl a chert ger yr efail. Eiddo teulu Llidiart Garw oeddynt, a chofiaf Miss Thomas a Miss Hughes yn teithio'n gyson ynddo o gylch y fro. Do, daeth yr hen lun a llawer o atgofion i mi, a charwn longyfarch y golygyddion a phawb sydd yn cyfrannu i lwyddiant Llais Ardudwy a'r calendr. Byddaf yn edrych ynlaen am y Llais ac yn cael mwynhad o'i ddarllen bob tro.