Chwilio

EIRA MAWR CHWEFROR 1982 LLAIS CHWEFROR 1982

Fe fu raid i nifer o bobl dreulio'r noson yng Ngwrach Ynys o achos y lluwchfeydd ar ffordd Morfa Harlech, nos Wener, 8 Ionawr, 1982.  Ar un amser 'roedd deg o bobl yn y tÿ ond medrodd y Rhyngyll Gareth Roberts o Benrhyndeudraeth a'r Heddgeidwad Dafydd Jones o Faentwrog fentro am adref am saith o'r gloch pan ddaeth cerbyd gyda phedwar olwyn yn gyrru, i'w hebrwng.  Yr olaf i gyrraedd oedd Mr Tongue o Glan Gors, am hanner awr wedi naw y nos, wedi dod yr holl ffordd o Fanceinion, dros fwlch y Creimea ond i fynd yn sownd ger Bryntiriion yr Ynys.  Cychwynodd gerdded, ond trechwyd ef gan yr heth a bu raid iddo yntau dreulio'r noson ar lawr Gwrach Ynys.

O'r chwith i'r dde: Mr Tongue, Bobi Pryce Jones, Hywel Evans, Harlech, Lynnette ac Alan Gayden, Dyffryn, Eluned Williams, Glan Gors, Aled Owens, Bl Ffestiniog.