Chwilio

Llanw Mawr 1927 - O'r Papurau
Llanw Mawr005

 

Fel y gwyr pobl Ardudwy yn ogystal a phobl yn U.D.America a welodd hi'n bwrw llyffantod cyn heddiw, cyfuniad nerthol ydy gwynt a dwr. Yn sicr mae gan bobl Ardudwy hawl i barhau ati i son am stormydd 1927, 1938 a 1939 fel pe byddent ddiwygiadau crefyddol o bwys. Gedy pob storm ei hol. Dod a mynd ydy hanes pob storm. Ond gadewch inni droi ein golygon at y storm nos Wener, Hydref 28ain 1927, a chanolbwyntio y tro hwn ar wahanol adroddiadau yn newyddiaduron y cyfnod.

Llanw Mawr 1938

Pigion o'r Wasg - "Y Genedl Gymreig" Yr oedd dyffryn Maentwrog fel mor hyd at ganol yr wythnos . . . Yr oedd y caeau oddeutu'r ffordd fel mor ac yr oedd cannoedd lawer o dir dan ddwfr . . . . Yr oedd coed wedi disgyn ym mhobman gan falurio'r gwifrau trydan ar hyd y ffordd.

Talsarnau: Hyd dydd Iau roedd trafnidiaeth yn amhosibl i Dalsarnau o'r Penrhyn oddi gerth ar draed. Roedd y storm a'r llanw wedi chwalu y ffordd ger y gwaith pylor.

Y Rheilffordd: Y mae'r rheiliau wedi eu taflu yn eu crynswth am tua 10 llath o'r neilltu, a'u dolennu fel neidr. Y mae gwely y ffordd haearn wedi ei chwalu, neu mewn rhai mannau wedi ei gario i ffwrdd. Ar y gwastad ar ol pasio Capel Brontecwyn, roedd amryw swyddogion a dynion eraill wrthi'n brysur yn hel cyrff anifeiliaid oedd wedi boddi at ei gilydd i'w llosgi. Yr oedd yno domen fawr ohonynt - defaid, moch, gwartheg a cheffylau ar hyd y ffordd ac ar y morfa 'roedd degau o deisi gwair ac yd wedi eu spwylio, lawer wedi eu chwalu, ac eraill wedi eu cario a'u gadael gan y llanw mewn man arall.

Yr Herald Gymraeg, 1927 Yn yr Ynys yr oedd grym y dwr wedi gwneud hafoc ofnadwy ar y ffyrdd, ac wedi gweithio'i ffordd i amryw dai a pheri colled enfawr mewn eiddo . . .

Dyffryn: Disgrifir dwy goeden dderw yn disgyn ar Glwb y Cymrodyr gyda saith aelod tu mewn. Dim ond cael a chael - bu i'r saith ohonynt ddianc drwy ddrws yn ochr y caban. Diwreiddiwyd nifer o goed a niweidiwyd llawer o dai. Gwnaed difrod i lein y G.W.R.

Llanaber: Gwelwyd y tonnau yn llifo dros y dren ac ar ol i'r dren 7.15p.m. fynd heibio codwyd y rheilffordd am dri chwarter milltir a'i ollwng 18 troedfedd mewn caeau wrth ymyl. Boddwyd cannoedd o ddefaid, gwartheg a moch.

Difrod o £500 i bromenad y Bermo: Roedd y strydoedd a'r tai yn y Bermo dan ddwr, a difethwyd dodrefn. Gadawyd cerrig mawrion, a llanastr ar y prom. Ysgubwyd dau loches ymaith gan y llif. Gwnaed difrod o £1000 i forgloddiau Ynys Bermo. llifodd y dwr i foileri'r Gwaith Nwy, a bu'r dref mewn tywyllwch am ddau ddiwrnod. Yng ngwasanaethau'r eglwysi a'r capeli cynheuid canhwyllau a lampau yn hytrach na defnyddio nwy. Bu pafiliwn y Clwb Tenis yn nofio gyda'r dwr am 200 llath.

Harlech: Cymaint oedd difrod y storm fel y tybid na ddeuai dim stoc i'r Mart dydd Mercher, ond er gwaethaf popeth daeth rhyw 30 o wartheg yno ac ychydig ddefaid a moch. Cafwyd gwell sel na'r disgwyliad, a chliriwyd yr oll bron heb eithriad . . . Bu raid i deithwyr ar y tren tua'r Bermo a Harlech aros noson ym Mhenrhyndeudraeth.

Yr hyn a ryfeddwyd ato yr adeg honno ac hyd yn oed heddiw yw na chollwyd bywyd dynol yn y rhyferthwy.